Dechrau Arni
Ffurfio Grŵp a Gyfansoddwyd
Dylai cyfansoddiad grwpiau olygu fod gan aelodau gyd-ddealltwriaeth o strwythur y sefydliad, ei bwrpas a’i gwmpas. Mae cyfansoddiad hefyd yn galluogi grwpiau i gael cyfrif banc a chyrchu cyfleoedd cyllido. Gweler y dudalen Cyllido a Chyllid.
Er mwyn bod yn gyfansoddiad, bydd angen y canlynol ar grwpiau:
- Pwyllgor rheoli sy’n cynnwys cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd.
- Dogfen gyfansoddiad ysgrifenedig sy’n nodi enw’r grŵp, amcanion, sut y byddwch yn gweithredu a beth fydd yn cael ei wneud ag asedau petai’r grŵp yn dod i ben.
- Cyfrif banc
- Set o gyfrifon
Mae hi werth nodi nad yw grŵp cyfansoddiadol yn cael ei adnabod fel corff cyfreithiol. Gall pwyllgorau rheoli grwpiau cyfansoddiadol felly fod yn gyfrifol yn bersonol am unrhyw ddyledion a dylai hyn fod yn risg y dylech fod yn ymwybodol ohono.
Rhwydweithio â grwpiau lleol eraill sy’n ymwneud â digwyddiadau tebyg. Gallai’r grwpiau hyn ymddwyn fel grŵp cyfansoddiadol cysylltiedig. Mae hefyd Fforymau Cymunedol sy’n croesawu grwpiau sydd wedi eu ffurfio o’r newydd i fanteisio ar eu cyfansoddiad, cyfrif banc ac yswiriant.