Dechrau Arni
Roliaur Pwyllgor Rheoli a Chyfrifoldebau
Dyma brif elfennau pob rôl:
Y Cadeirydd
Mae’r Cadeirydd yn arwain y sefydliad drwy:
- Fod yn arweinydd gan osod cyfeiriad y sefydliad
- cynrychioli’r sefydliad yn gyhoeddus a siarad ar ei ran
- cymryd trosolwg o’r sefydliad a’i waith
- sicrhau cydymffurfiaeth â dogfennau a pholisïau llywodraethu
- ymarfer awdurdod penodol sydd wedi ei ddirprwyo
- awdurdodi gweithrediadau rhwng cyfarfodydd y pwyllgor rheoli llawn
- sicrhau gwaith effeithiol y pwyllgor rheoli
- arwain a rheoli pwyllgorau rheoli a chyffredinol
- paratoi’r agenda ar gyfer cyfarfodydd (fel arfer ar y cyd â’r ysgrifennydd) a lledaenu gwybodaeth angenrheidiol o flaen llaw
- arwyddo sieciau a dogfennau cyfreithiol
- cefnogi ac annog aelodau eraill o’r pwyllgor rheoli a’r staff.
Yr Is-gadeirydd
Mae gan rai grwpiau is-gadeirydd all wneud gwaith y cadeirydd pan fydd angen a threfnu cyfarfodydd. Gall yr is-gadeirydd hefyd gael cyfrifoldebau penodol oddi fewn i’r sefydliad.
Yr Ysgrifennydd
Mae’r ysgrifennydd yn darparu cymorth gweinyddol i’r pwyllgor rheoli ac mae’r rôl yn cynnwys y canlynol:
- cyfarfodydd:cynorthwyo i lunio agenda gyda’r cadeirydd, dosbarthu agenda a gwaith papur; trefnu ystafell gyfarfod; gwirio fod cworwm yn bresennol; cadw cofnodion a’u dosbarthu ac ymwneud â materion gweinyddol eraill.
- Dogfennau: cadw rhestrau aelodaeth a chofnodion sefydliadol eraill; diogelu dogfennau allweddol; trefnu cynhyrchu’r adroddiad blynyddol; anfon dogfennau a ffurflenni at reolyddion; diweddaru polisïau mewnol a sicrhau fod yswiriant addas.
- gweinyddiaeth:ymdrin â gohebiaeth, y wasg a chyhoeddusrwydd a darparu gwasanaethau ysgrifenyddol cyffredinol i’r pwyllgor rheoli.
- Sicrhau fod y pwyllgor cyffredinol blynyddol (PCB) yn cael ei gynnal oddi fewn i derfynau amser penodol a bod cyfarfodydd cyffredinol yn cael eu trefnu gan roi digon o rybudd i bawb
- datgan cofnodion ar gyfer pob pwyllgor perthnasol
Y Trysorydd
Mae’r Trysorydd yn ymwneud â chyllid ond mae gan yr holl bwyllgor rheoli gyfrifoldeb cyfreithiol ar y cyd amdano. Ni ddylai’r trysorydd reoli cyllid ar ei ben ei hun gan y gallai nodi camgymeriadau, problemau ariannol a thwyll fod yn anodd. Gallai cyfrifoldebau’r trysorydd gynnwys:
- cynllunio a goruchwylio materion ariannol y sefydliad
- sicrhau fod y sefydliad yn iach, yn ariannol
- cynnal systemau addas ar gyfer cyllido, rheolaeth ariannol ac adrodd yn ôl
- paratoi cyfrifon ariannol ac adroddiadau ariannol eraill
- adrodd yn ôl a dehongli gwybodaeth ariannol i’r pwyllgor rheoli
- sicrhau fod y cyfrifon a’r systemau ariannol yn cael eu harchwilio neu eu harolygu yn ôl gofynion y gyfraith
- sicrhau cydymffurfiaeth â threth, TAW ac mewn rhai amgylchiadau, gofynion yswiriant cenedlaethol
- rheoli asedau sefydlog a stoc
- arwyddo sieciau, anfonebau a chytundebau a dogfennau perthnasol eraill.
Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfleoedd hyfforddiant, defnyddiwch y ddolen PAV
ID: 4340, adolygwyd 28/02/2022