Nawdd a Chyllid
Rhoir cyfle gorau ich cais
- Darllenwch ganllawiau’r noddwyr er mwyn sicrhau fod eich prosiect yn ateb eu gofynion
- Cysylltwch â sefydliadau i ofyn pe byddent yn eich cefnogi cyn i chi gwblhau eich ceisiadau.
- Gwiriwch y dyddiadau cau gan adael digon o amser i ddatblygu eich prosiect. Hefyd, mae’n hollbwysig eich bod yn cysidro os gall unrhyw nawdd cyfatebol arall weithio o fewn eich amserlen
Cofiwch yr isod wrth esbonio eich prosiect:
Beth.... fydd yn cael ei gynnig?
Pam?... gan gyfeirio at dystiolaeth o’r angen am y prosiect a’r newidiadau a ddaw yn ei sgil
Pwy.... fydd yn cyflawni’r prosiect, pwy fydd yn buddio o’r prosiect, a sut?
Ble... fydd y prosiect yn cael ei gyflawni? Gyda gwybodaeth am berchnogaeth, gweithred neu brydles
Pryd fydd y prosiect yn cychwyn, yn cael ei gwblhau, ynteu a fydd y prosiect yn un parhaus?
- Wrth ddisgrifio eich sefydliad cofiwch gynnwys eich amcanion, eich dyddiad sefydlu, eich statws cyfreithiol, a’ch rhif cofrestr elusen (os yn berthnasol)
- Pwysleisiwch y newid a ddaw yn sgil eich prosiect
- Gallai rhannu prosiectau mawr yn gyfnodau gwahanol eich galluogi i ddenu ystod o nawdd gan noddwyr gwahanol
- Atodwch yr holl ddogfennau angenrheidiol, megis eich cyfansoddiad, cynllun prosiect, cyllid, copi o’ch cyfrifon, astudiaethau achos/tystiolaeth
ID: 4346, adolygwyd 17/04/2023