Perchnogaeth a Chytundebau
Perchnogaeth a Chytundebau
Pwy sydd berchen y safle/eiddo?
Mae croeso i unrhyw un sy’n dymuno defnyddio unrhyw eiddo neu dir sy’n berchen i’r Cyngor drafod eu diddordeb i wneud hynny gydag Adran Eiddo Cyngor Sir Penfro. Mae’r ddolen isod yn dangos pob eiddo sydd ar gael i’w gwerthu neu eu rhentu.
Gellir dod o hyd i wybodaeth ynghylch tir sydd wedi ei berchen yn breifat gan Gofrestrfa Tir EM. Mae ganddynt wybodaeth ynghylch perchnogaeth a buddiannau sy’n effeithio ar dir ac eiddo. Mae tâl ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth hwn.
www.accesstoland.eu/Community-Land-Advisory-Service
Os ydych yn cynllunio unrhyw brosiectau ar dir preifat neu ar dir y Cyngor, dylech sicrhau:-
- Eich bod wedi derbyn cytundeb perchennog y tir cyn i chi fuddsoddi amser yn y prosiect. Bydd angen i chi sicrhau cytundeb Penawdau’r Telerau er mwy sicrhau fod pob parti yn deall y cynnig.
- Os oes angen cyllid, disgwylir i ymgeiswyr arddangos perchnogaeth y tir neu’r eiddo sydd angen y cyllid. Gallai hyn fod yn rhydd-ddaliadol neu ar ffurf prydles.
ID: 3793, adolygwyd 14/04/2023