Perchnogaeth a Chytundebau
Negodi a pherchnogion tir neu eiddo
Meddyliwch am safbwynt y perchennog ac ystyriwch ei anghenion a’i bryderon. Bydd angen iddo gael sicrwydd ynghylch y canlynol:
- Sut bydd ei safle’n edrych a sut y bydd ei adeilad neu ei dir yn cael ei edrych ar ei ôl
- Sut na fydd unrhyw ddatblygiadau i’r safle yn y dyfodol yn cael eu peryglu
- Fod ystyriaeth wedi cael ei roi i gymdogion
- Fod problemau posib wedi cael eu hystyried
- Y bydd rhent yn cael ei dalu yn ôl ar amser
- Fod cynlluniau’n realistig gan ddangos tystiolaeth o gynllun busnes a chyllideb
- Pa mor ymroddedig, proffesiynol a dibynadwy yr ydych
- Y byddwch yn cydymffurfio â rheoliadau a chytundebau
ID: 4368, adolygwyd 17/04/2023