Cludiant Cyhoeddus

Gwasanaethau Bysiau a Threnau

Mae rhwydwaith o wasanaethau bysiau lleol ym mhob rhan o’r Sir ynghyd ag ystod o wasanaethau trenau. Mae cludiant i deithwyr hefyd yn cynnwys tacsis, cludiant cymunedol, cludiant addysg a nifer o ddewisiadau cludiant eraill sydd ar gael yn Sir Benfro. Am fanylion ewch i Llwybrau ac Amserlenni Bysiau

Gwasanaethau Bysiau Arfordirol

Mae pum gwasanaeth bws arfordirol yn rhedeg saith niwrnod yr wythnos drwy gydol yr haf. Mae’r bysiau’n gwasanaethu’r rhan fwyaf o Arfordir Sir Benfro erbyn hyn. Mae Roced Poppit, Gwibiwr Strwmbl, y Pâl Gwibio a Gwibfws yr Arfordir hefyd yn cynnig gwasanaeth dau ddiwrnod yr wythnos yn ystod y gaeaf.

Gwasanaethau Rheilffordd Lleol

Mae'r cwmni trenau Trafnidiaeth Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn cynnal gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru. I gael gwybodaeth am yr holl docynnau a Chardiau Rheilffordd sydd ar gael yn ardal Sir Benfro, yn ogystal â holl amserlenni Trafnidiaeth Cymru, cysylltiadau gyda bysiau a llongau.

Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol (yn agor mewn tab newydd)

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod, ewch i Parcio, Ffyrdd a Thrafnidiaeth

ID: 1986, adolygwyd 14/09/2023