Cludiant Cyhoeddus
Cludiant Cymunedol
Er mwyn cynorthwyo i wrthsefyll problemau dieithrwch cymdeithasol ac annog pobl i ddefnyddio llai ar gludiant preifat, mae'r Cyngor yn gwybod o'r gorau fod ar bobl mewn ardaloedd gwledig a phellennig angen rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Gallem wneud hyn naill ai trwy ddarparu'r gwasanaethau presennol yn well neu drwy ddarparu gwasanaethau newydd a dyfeisgar.
Gyda golwg ar hyn, mae'r Awdurdod wedi datblygu a chefnogi nifer o fentrau cludiant cymunedol i bobl sy'n cael anhawster mynd at a defnyddio cludiant cyhoeddus confensiynol. Mae'r gefnogaeth hon wedi cynnwys darparu cyllid ar gyfer gwefan un pwrpas ar gyfer cludiant cymunedol, sef PACTO (yn agor mewn tab newydd).
Ceir ar gyfer Gofalwyr
Cynllun ceir cymdeithasol sy’n darparu cludiant i ofalwyr digyflog y Sir Benfro.
Ffôn: 07469 859029
Ceir Gwledig
Os oes gwir arnoch angen lifft, a’ch bod yn methu â chael rhywun o’r teulu i fynd â chi, neu’n methu â defnyddio cludiant cyhoeddus, yna gall Ceir Gwledig eich helpu drwy roi 'naws bersonol' a gwasanaeth o ddrws i ddrws, gan gynnwys teithiau i’r ysbyty.
Ffôn: 0800 783 1584
Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu rhedeg gan yrwyr gwirfoddol sy’n defnyddio eu ceir eu hunain. Mae fflyd ehangach o geir addas i gadeiriau olwyn ar gael erbyn hyn a gallant gludo teithwyr abl yn ogystal â rhai mewn cadair olwyn.
Cynllun Bws Mini Cymunedol
- Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro
- Cymdeithas Cludiant Gwledig Preseli
- Cymdeithas Cludiant Cymunedol Maenorbŷr
- Bws Bloomfield
- Bws y Bobol
Mae Gwasanaeth Cerbyd y Dref yn wasanaeth galw cerbyd lleol i bobl oedrannau ac anabl nad ydynt yn gallu defnyddio gwasanaethau bws lleol. Erbyn hyn, mae Cerbyd y Dref ar gael ymhob un o drefi mawr Sir Benfro.