Cludiant Cyhoeddus

Cludiant Cymunedol Sir Benfro

Mae gwasanaethau cludiant cymunedol yn helpu pobl a grwpiau nad oes ganddynt gerbyd eu hunain ac nad oes ganddynt wasanaethau cludiant cyhoeddus arferol, neu sy’n methu â’u defnyddio. Trefnir y gwasanaethau hyn yn Sir Benfro gan fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol nad ydynt yn ceisio gwneud elw.

Am wybodaeth am yr holl Wasanaethau Cludiant Cymunedol:

PACTO

Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol (yn agor mewn tab newydd)

Ceir ar gyfer Gofalwyr

Cynllun ceir cymdeithasol sy’n darparu cludiant i ofalwyr digyflog y Sir Benfro.

Ffôn: 07469 859029

Ceir Gwledig

Os oes gwir arnoch angen lifft, a’ch bod yn methu â chael rhywun o’r teulu i fynd â chi, neu’n methu â defnyddio cludiant cyhoeddus, yna gall Ceir Gwledig eich helpu drwy roi 'naws bersonol' a gwasanaeth o ddrws i ddrws, gan gynnwys teithiau i’r ysbyty.

Ffôn: 07585 997091

Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu rhedeg gan yrwyr gwirfoddol sy’n defnyddio eu ceir eu hunain. Mae fflyd ehangach o geir addas i gadeiriau olwyn ar gael erbyn hyn a gallant gludo teithwyr abl yn ogystal â rhai mewn cadair olwyn.

Cynllun Bws Mini Cymunedol

  • Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro
  • Cymdeithas Cludiant Gwledig Preseli
  • Cymdeithas Cludiant Cymunedol Maenorbŷr
  • Bws Bloomfield
  • Bws y Bobol

Mae Gwasanaeth Cerbyd y Dref yn wasanaeth galw cerbyd lleol i bobl oedrannau ac anabl nad ydynt yn gallu defnyddio gwasanaethau bws lleol. Erbyn hyn, mae Cerbyd y Dref ar gael ymhob un o drefi mawr Sir Benfro. 

ID: 1993, adolygwyd 10/12/2024