Cludiant Cyhoeddus

Pasbort Penfro

Mae Pasbort Penfro yn gallu eich helpu i ddefnyddio’r bws ar eich pen eich hun a gwneud eich taith yn rhwyddach os oes angen cymorth ychwanegol arnoch. Bydd yn rhoi gwybod i yrwyr bws bod arnoch efallai angen cymorth ar eich taith.

Gellir defnyddio’r Baseb ar unrhyw fws yn Sir Benfro neu ar unrhyw drên Arriva. Gellir rhoi geiriau neu luniau yn y Baseb er mwyn dangos i’r gyrrwr i ble’r ydych yn dymuno teithio, pa docyn ydych chi eisiau, neu gyfarwyddiadau ar gyfer stopio ac argyfyngau. 

Nid yw’r Baseb yn golygu y cewch chi deithio am ddim neu am brisiau disgownt. Am ragor o wybodaeth neu i gael eich Pasbort, cysylltwch â:

Ffôn: 01437 764551

E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

ID: 1994, adolygwyd 05/07/2022