Cludiant Cyhoeddus

Tacsis (Cerbydau Hacnai)

Gall cerbydau sydd wedi eu cofrestru fel ‘Cerbyd Hacnai’ (h.y. tacsi) gludo hyd at wyth o deithwyr yn ogystal â’r gyrrwr. Mae tacsis yn cael eu trwyddedu gan y Cyngor Sir.

Tacsis y gellir mynd â Chadair Olwyn iddynt

Mae ychydig o gerbydau y gellir mynd â chadair olwyn iddynt wedi cael eu cofrestru fel tacsis. Mae’r cerbydau hyn wedi cael eu dylunio i gludo un teithiwr mewn cadair olwyn ac maent yn cynnwys seddi safonol ar gyfer teithwyr eraill. Cysylltwch â’r gweithredwyr unigol i gael manylion am y math o gerbyd y gallant ei ddarparu.

ID: 1991, adolygwyd 05/07/2022