Cofebion Amlosgfa

Cofebion Amlosgfa

Y prif fath o gofeb yw beddargraff o waith llaw yn ein Llyfr Coffa wedi ei ysgrifennu gan ein ceinysgrifwyr. Mae'r arysgrifau'n gallu cynnwys enw'r ymadawedig a chymaint â 200 o lythrennau. Gellir gosod llun priodol o waith llaw gyda'r arysgrif hefyd.
  
Fel arfer, dangosir cofnodion ar ddyddiad y farwolaeth, er bod modd dewis unrhyw ddyddiad arall fel pen-blwydd neu ben-blwydd priodas. Yn ystod oriau swyddfa gall aelod o'r staff droi'r tudalennau i ddyddiad gwahanol ar gais.  Fodd bynnag, ar adegau penodol gosodir arysgrifau newydd ar dudalennau unigol.  Byddwch bob amser yn gallu gweld eich arysgrifen fis cyn ac ar ôl y dyddiad coffa rydych wedi'i ddewis. Ond er mwyn osgoi cael eich siomi, ar adegau eraill, mae'n werth chweil cysylltu â'r swyddfa cyn galw heibio i Barc Gwyn.

Er mwyn caniatáu ei weld gydol y flwyddyn, mae panel yn y Capel Coffa sy'n dangos lluniau digidol o'r Llyfr. Mae modd ychwanegu ffotograffau a thestun at y rhain Agorir y rhain gyda cherdyn llithro a roddir i bawb sy'n archebu arysgrif yn y Llyfr. Mae modd hefyd gweld y lluniau trwy'r cysylltiad isod E-Llyfr (yn agor mewn tab newydd)

Mae modd archebu Waledi Coffa sy'n plygu mas,  yn cynnwys hyd at dri beddargraff, lluniau o'r ymadawedig a thestun fel hanes bywyd, ar gyfer eu cadw gartref. Mae Cardiau Coffa ar gael hefyd yn swyddfa'r fynwent, yn dwyn un arysgrif a phrint ffotograffig o unrhyw dudalen yn y Llyfr. Mae'r rhain yn un ffordd o fedru gweld arysgrif gydol y flwyddyn. Mae'n ddefnyddiol hefyd i'r rheiny nad yw'n hawdd iddynt ymweld â Pharc Gwyn.  

Gellir gosod Placiau Gwenithfaen gydag arysgrif ar furiau adeilad yr amlosgfa ger allanfa'r Capel ac yng Ngardd Goffadwriaeth y Babanod. Gellir gosod cyrbau gwenithfaen ar hyd ymylon y llwybr yn yr Ardd Goffadwriaeth ar yr amod bod lle ar gael. 

Derbynnir unrhyw roddion tuag at blannu bylbiau a phlanhigion yn y gerddi.  

Arolygwr a Chofrestrydd

Amlosgfa Parc Gwyn
Arberth
Sir Benfro
SA67 8UD

 

Ffôn: 01834 860622

Ffacs: 01834 861039

E-bost: parcgwyn@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2565, adolygwyd 20/07/2023