Cofebion Amlosgfa

Placiau Wal a Chwrbyn Gwenithfaen

Placiau wal gwenithfaen

Wedi eu gosod ym mur allanol adeilad yr Amlosgfa 

Maint y placiau wal o wenithfaen du yw 6" x 4". Mae llythrennau o eurddalen arnynt ac mae lle i hyd at oddeutu 100 o lythrennau mewn arysgrif. Mae’r gost o’u prynu yn cynnwys eu gosod mewn fframiau o fetel du ar y wal rhwng y drws mas o’r Prif Gapel a’r Capel Coffa am gyfnod o ddeng mlynedd. 

Pan fyddwch yn penderfynu ar arysgrif, mae’n bwysig cyfyngu’r llinellau gyda’r enw ynddynt i 15 llythyren oherwydd bod y rhain yn cael eu torri’n briflythrennau. Dylid cyfyngu llinellau eraill i 20 llythyren.  Rhoddir enghreifftiau isod i ddangos rhai o’r amrywiadau sy’n bosibl. 

Placiau cwrbyn gwenithfaen

Gellir gosod placiau cwrbyn gwenithfaen llwyd ar hyd ymylon y llwybr yn yr Ardd Goffadwriaeth. Gwnaed pob cwrbyn o wenithfaen llwyd cadarn wedi’u cwyro a gellir gosod enw un person ac arysgrif byr neu enwau dau berson ynghyd â dyddiadau marwolaeth. Mae’n bosibl gadael hanner cwrbyn yn wag ar gyfer ail arysgrif yn ddiweddarach. Mae’n bosib hefyd gosod cwrbyn ar gadw.

Cyrbau a Phlaciau Mur Gwenithfaen: Gwybodaeth Bwysig

Sylwch os gwelwch yn dda: -

  • Pan ddaw’r cyfnod o ddeng mlynedd i ben byddwn yn cysylltu â chi i’ch gwahodd i adnewyddu’r trefniadau.  Am y rheswm hwn mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newid cyfeiriad.  Yn lle hynny, efallai y byddai’n well gennych chi fynd â’r plac bant gyda chi. 
  • Os ydych chi’n teimlo bod angen mwy nag un plac, mae modd gwneud cais am ddodi dau gyda’i gilydd er mwyn parhad.
  • Mae cost y placiau ar y rhestr brisiau atodedig.
  • Mae’r cyfnod o ddeng mlynedd yn dechrau 3 mis wedi i chi dderbyn eich archeb.  Byddwch yn derbyn datganiad sy’n dangos y dyddiad ar gyfer adnewyddu gyda’ch derbynneb. 
  • Bydd placiau nad ydynt yn cael eu hadnewyddu neu eu symud yn cael eu cadw am fis cyn cael gwared â hwy. 

 Ffurflen Achebu Placiau Mur Gwenithfaen a Chrybau

 Engraifft Placiau Wal Gwenithfaen

 Enghraifftiau o Cyrbau Gwenithfaen

ID: 2569, adolygwyd 11/09/2023