Cofebion Amlosgfa
Rhoddion
O bryd i'w gilydd byddwn yn derbyn rhoddion gan aelodau o'r cyhoedd a defnyddir y rhain er budd yr adeiladau a'r gerddi ym Mharc Gwyn. Bu rhoddion caredig o'r fath yn fodd i ni gael nodweddion fel y llyn addurnol o flaen yr amlosgfa. Mae rhoddion llai wedi cyfrannu at blannu bylbiau a choed ym mhob rhan o'r gerddi.
Os ydych chi'n dymuno cyflwyno rhodd er cof am rywun, mae croeso i chi lenwi'r ffurflen isod a'i dychwelyd gyda'ch rhodd. Mae'n rhaid i sieciau ac archebion post fod yn daladwy i 'Gyngor Sir Penfro'.
Os oes gennych chi syniad penodol am nodwedd newydd a fyddai o fudd i bobl a fydd yn ymweld â'r amlosgfa a'i gerddi yn y dyfodol ac yr ydych yn meddwl y byddai'n gofeb addas, mae croeso i chi gysylltu â'r goruchwyliwr yn y cyfeiriad a welir isod i drafod y manylion.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â :
Superintendent & Registrar
Parc Gwyn Crematorium
Narberth
Pembrokeshire
SA67 8UD
Ffôn: 01834 860622
Ffacs: 01834 861039
E-bost: parcgwyn@pembrokeshire.gov.uk