Cofebion Amlosgfa

Waledi Coffa

I’w cadw gartref neu eu rhoi i aelodau eraill o’r teulu neu gyfeillion

Mae hon yn gofeb bersonol iawn a hyblyg ar ffurf waled.  Mae hi wedi ei gwneud gyda thri phanel, y gellir defnyddio pob un ar gyfer arysgrif o waith llaw neu luniau ffotograffig.  Oherwydd bod tri phanel iddi, mae’r Waled yn gallu sefyll ar silff ben tân neu silff er mwyn ei gweld yn rhwydd.  

Mae arysgrifau o waith llaw yn dechrau gyda llythyren aur ac maent yn gallu bod yn rhyddiaith, yn farddoniaeth neu’n feddargraff yn arddull y Prif Lyfr Coffa.  Codir yr un pris am y rhain a gar gyfer arysgrifau ar y Cardiau Coffa. 

Yn ogystal, rydym yn gallu cynnwys portreadau ffotograffig wedi eu copïo’n ddigidol o’r ymadawedig neu unrhyw destun arall gennych chi.  Gallwch roi hyn ar ffurf ddigidol neu fel copi caled neu ffotograff, a byddwn yn ei newid ar eich rhan.  Ond cofiwch os gwelwch yn dda bod rhaid i’r llun gwreiddiol fod mewn ffocws a dim llai na 6 cm sgwâr i ddod mas yn iawn.   

Gellir defnyddio paneli ffotograffig hefyd i roi hanes bywyd yr ymadawedig.  Os byddwch yn rhoi testun ysgrifenedig i ni, bydd pob panel yn mesur 13 cm o led a 15 cm o uchder (oddeutu 5” X 6”). Mae defnyddio’r maint hwn yn hwylus o ran cyfyngu ar y testun a sicrhau y bydd yn ddarllenadwy. 

Trydydd posibilrwydd yw defnyddio panel ar gyfer poced gofio i gadw rhagor o luniau neu atgofion personol eraill o’r ymadawedig. 

Mae modd i’r Waled fod yn gofeb i fwy nag un person os dymunwch chi.  Mae pob math o amrywiadau yn bosibl. 

Mae tri dewis o liw ar gyfer y clawr a’r rhwymiad: coch, gwyrdd neu las. 

Mae dau ddewis o ddefnydd ar gyfer y clawr: brethyn llyfr o’r radd flaenaf neu ledr esmwyth.

Ffurflen Archebu Waled Goffa

ID: 2568, adolygwyd 22/02/2023