Cofebion Amlosgfa

Y Llyfr Coffa Electronig

I’w weld 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn

Er mwyn ymestyn argaeledd y Llyfr, gwnaed yn siŵr bod yna fersiwn electronig ar gael yn y Capel Coffa sy’n eich galluogi i weld delwedd ddigidol o’r arysgrif ei hun 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r ‘Llyfr E’ yn hawdd i’w ddefnyddio. Yr hyn oll sy ei angen i weld yr arysgrif yw llithro carden blastig trwy’r rhwyll ar y cabinet. Daw eich arysgrif i’r golwg ar drawiad amrant. Mae gan y ‘Llyfr E’ gyfleusterau ychwanegol. Mae’n bosib gwella’r arysgrif gwreiddiol gyda thestun ychwanegol, pennill neu ddelweddau ffotograffig.

Er enghraifft, gellir gosod portread o’r ymadawedig ar ôl yr arysgrif, ac yna hoff gerdd neu efallai crynodeb o fywyd yr ymadawedig. Mae’n bosib y byddai yna wedyn ffotograff arall o’r ymadawedig yn ei hoff lecyn neu yng nghwmni aelodau eraill o’r teulu efallai. Gellir gweld y delweddau ychwanegol unwaith eto trwy ddefnyddio’r cerdyn llithro. Mae pob llithriad yn symud at y ddelwedd nesaf.

Ar gyfer pob arysgrif newydd bydd eich cerdyn llithro bersonol yn cael ei hanfon atoch ar ôl i’ch arysgrif gael ei osod yn y Llyfr Coffadwriaeth. Atodir ffurflen archebu sy’n eich galluogi i roi eich cyfarwyddiadau i ni.

Mae hefyd yn bosib cyrraedd y ‘Llyfr E’ ar lein. Dilynwch y cyfarwyddiadau syml a gallwch archwilio’r E-Llyfr trwy ddefnyddio enw’r ymadawedig neu ddyddiad gosod y manylion neu’r rhif sy ar y cerdyn llithro. Gellir edrych ar y delweddau ychwanegol rydych wedi’u harchebu trwy ddefnyddio’r rhifau sy ar eich cerdyn llithro.

Yn ychwanegol gallwn ddarparu copi caled, ffotograffig, wedi’i lamineiddio, o’r dudalen arysgrif yn y Llyfr E. Mae hefyd yn bosib archebu cardiau llithro ychwanegol ar gyfer eraill y byddech am iddynt rannu’r cyfleuster hwn â chi. 

Fflurflen Archebu Llyfr Coffadwriaeth Electronig

ID: 2567, adolygwyd 22/02/2023

Waledi Coffa

I’w cadw gartref neu eu rhoi i aelodau eraill o’r teulu neu gyfeillion

Mae hon yn gofeb bersonol iawn a hyblyg ar ffurf waled.  Mae hi wedi ei gwneud gyda thri phanel, y gellir defnyddio pob un ar gyfer arysgrif o waith llaw neu luniau ffotograffig.  Oherwydd bod tri phanel iddi, mae’r Waled yn gallu sefyll ar silff ben tân neu silff er mwyn ei gweld yn rhwydd.  

Mae arysgrifau o waith llaw yn dechrau gyda llythyren aur ac maent yn gallu bod yn rhyddiaith, yn farddoniaeth neu’n feddargraff yn arddull y Prif Lyfr Coffa.  Codir yr un pris am y rhain a gar gyfer arysgrifau ar y Cardiau Coffa. 

Yn ogystal, rydym yn gallu cynnwys portreadau ffotograffig wedi eu copïo’n ddigidol o’r ymadawedig neu unrhyw destun arall gennych chi.  Gallwch roi hyn ar ffurf ddigidol neu fel copi caled neu ffotograff, a byddwn yn ei newid ar eich rhan.  Ond cofiwch os gwelwch yn dda bod rhaid i’r llun gwreiddiol fod mewn ffocws a dim llai na 6 cm sgwâr i ddod mas yn iawn.   

Gellir defnyddio paneli ffotograffig hefyd i roi hanes bywyd yr ymadawedig.  Os byddwch yn rhoi testun ysgrifenedig i ni, bydd pob panel yn mesur 13 cm o led a 15 cm o uchder (oddeutu 5” X 6”). Mae defnyddio’r maint hwn yn hwylus o ran cyfyngu ar y testun a sicrhau y bydd yn ddarllenadwy. 

Trydydd posibilrwydd yw defnyddio panel ar gyfer poced gofio i gadw rhagor o luniau neu atgofion personol eraill o’r ymadawedig. 

Mae modd i’r Waled fod yn gofeb i fwy nag un person os dymunwch chi.  Mae pob math o amrywiadau yn bosibl. 

Mae tri dewis o liw ar gyfer y clawr a’r rhwymiad: coch, gwyrdd neu las. 

Mae dau ddewis o ddefnydd ar gyfer y clawr: brethyn llyfr o’r radd flaenaf neu ledr esmwyth.

Ffurflen Archebu Waled Goffa

ID: 2568, adolygwyd 22/02/2023

Placiau Wal a Chwrbyn Gwenithfaen

Placiau wal gwenithfaen

Wedi eu gosod ym mur allanol adeilad yr Amlosgfa 

Maint y placiau wal o wenithfaen du yw 6" x 4". Mae llythrennau o eurddalen arnynt ac mae lle i hyd at oddeutu 100 o lythrennau mewn arysgrif. Mae’r gost o’u prynu yn cynnwys eu gosod mewn fframiau o fetel du ar y wal rhwng y drws mas o’r Prif Gapel a’r Capel Coffa am gyfnod o ddeng mlynedd. 

Pan fyddwch yn penderfynu ar arysgrif, mae’n bwysig cyfyngu’r llinellau gyda’r enw ynddynt i 15 llythyren oherwydd bod y rhain yn cael eu torri’n briflythrennau. Dylid cyfyngu llinellau eraill i 20 llythyren.  Rhoddir enghreifftiau isod i ddangos rhai o’r amrywiadau sy’n bosibl. 

Placiau cwrbyn gwenithfaen

Gellir gosod placiau cwrbyn gwenithfaen llwyd ar hyd ymylon y llwybr yn yr Ardd Goffadwriaeth. Gwnaed pob cwrbyn o wenithfaen llwyd cadarn wedi’u cwyro a gellir gosod enw un person ac arysgrif byr neu enwau dau berson ynghyd â dyddiadau marwolaeth. Mae’n bosibl gadael hanner cwrbyn yn wag ar gyfer ail arysgrif yn ddiweddarach. Mae’n bosib hefyd gosod cwrbyn ar gadw.

Cyrbau a Phlaciau Mur Gwenithfaen: Gwybodaeth Bwysig

Sylwch os gwelwch yn dda: -

  • Pan ddaw’r cyfnod o ddeng mlynedd i ben byddwn yn cysylltu â chi i’ch gwahodd i adnewyddu’r trefniadau.  Am y rheswm hwn mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newid cyfeiriad.  Yn lle hynny, efallai y byddai’n well gennych chi fynd â’r plac bant gyda chi. 
  • Os ydych chi’n teimlo bod angen mwy nag un plac, mae modd gwneud cais am ddodi dau gyda’i gilydd er mwyn parhad.
  • Mae cost y placiau ar y rhestr brisiau atodedig.
  • Mae’r cyfnod o ddeng mlynedd yn dechrau 3 mis wedi i chi dderbyn eich archeb.  Byddwch yn derbyn datganiad sy’n dangos y dyddiad ar gyfer adnewyddu gyda’ch derbynneb. 
  • Bydd placiau nad ydynt yn cael eu hadnewyddu neu eu symud yn cael eu cadw am fis cyn cael gwared â hwy. 

 Ffurflen Achebu Placiau Mur Gwenithfaen a Chrybau

 Engraifft Placiau Wal Gwenithfaen

 Enghraifftiau o Cyrbau Gwenithfaen

ID: 2569, adolygwyd 11/09/2023

Rhoddion

O bryd i'w gilydd byddwn yn derbyn rhoddion gan aelodau o'r cyhoedd a defnyddir y rhain er budd yr adeiladau a'r gerddi ym Mharc Gwyn.  Bu rhoddion caredig o'r fath yn fodd i ni gael nodweddion fel y llyn addurnol o flaen yr amlosgfa.  Mae rhoddion llai wedi cyfrannu at blannu bylbiau a choed ym mhob rhan o'r gerddi. 

Os ydych chi'n dymuno cyflwyno rhodd er cof am rywun, mae croeso i chi lenwi'r ffurflen isod a'i dychwelyd gyda'ch rhodd.  Mae'n rhaid i sieciau ac archebion post fod yn daladwy i 'Gyngor Sir Penfro'. 

Os oes gennych chi syniad penodol am nodwedd newydd a fyddai o fudd i bobl a fydd yn ymweld â'r amlosgfa a'i gerddi yn y dyfodol ac yr ydych yn meddwl y byddai'n gofeb addas, mae croeso i chi gysylltu â'r goruchwyliwr yn y cyfeiriad a welir isod i drafod y manylion. 

Rhoddion 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â :  

 

Superintendent & Registrar
Parc Gwyn Crematorium
Narberth
Pembrokeshire
SA67 8UD

Ffôn: 01834 860622

Ffacs: 01834 861039

E-bost: parcgwyn@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2570, adolygwyd 22/02/2023

Cofebion Amlosgfa

Y prif fath o gofeb yw beddargraff o waith llaw yn ein Llyfr Coffa wedi ei ysgrifennu gan ein ceinysgrifwyr. Mae'r arysgrifau'n gallu cynnwys enw'r ymadawedig a chymaint â 200 o lythrennau. Gellir gosod llun priodol o waith llaw gyda'r arysgrif hefyd.
  
Fel arfer, dangosir cofnodion ar ddyddiad y farwolaeth, er bod modd dewis unrhyw ddyddiad arall fel pen-blwydd neu ben-blwydd priodas. Yn ystod oriau swyddfa gall aelod o'r staff droi'r tudalennau i ddyddiad gwahanol ar gais.  Fodd bynnag, ar adegau penodol gosodir arysgrifau newydd ar dudalennau unigol.  Byddwch bob amser yn gallu gweld eich arysgrifen fis cyn ac ar ôl y dyddiad coffa rydych wedi'i ddewis. Ond er mwyn osgoi cael eich siomi, ar adegau eraill, mae'n werth chweil cysylltu â'r swyddfa cyn galw heibio i Barc Gwyn.

Er mwyn caniatáu ei weld gydol y flwyddyn, mae panel yn y Capel Coffa sy'n dangos lluniau digidol o'r Llyfr. Mae modd ychwanegu ffotograffau a thestun at y rhain Agorir y rhain gyda cherdyn llithro a roddir i bawb sy'n archebu arysgrif yn y Llyfr. Mae modd hefyd gweld y lluniau trwy'r cysylltiad isod E-Llyfr (yn agor mewn tab newydd)

Mae modd archebu Waledi Coffa sy'n plygu mas,  yn cynnwys hyd at dri beddargraff, lluniau o'r ymadawedig a thestun fel hanes bywyd, ar gyfer eu cadw gartref. Mae Cardiau Coffa ar gael hefyd yn swyddfa'r fynwent, yn dwyn un arysgrif a phrint ffotograffig o unrhyw dudalen yn y Llyfr. Mae'r rhain yn un ffordd o fedru gweld arysgrif gydol y flwyddyn. Mae'n ddefnyddiol hefyd i'r rheiny nad yw'n hawdd iddynt ymweld â Pharc Gwyn.  

Gellir gosod Placiau Gwenithfaen gydag arysgrif ar furiau adeilad yr amlosgfa ger allanfa'r Capel ac yng Ngardd Goffadwriaeth y Babanod. Gellir gosod cyrbau gwenithfaen ar hyd ymylon y llwybr yn yr Ardd Goffadwriaeth ar yr amod bod lle ar gael. 

Derbynnir unrhyw roddion tuag at blannu bylbiau a phlanhigion yn y gerddi.  

Arolygwr a Chofrestrydd

Amlosgfa Parc Gwyn
Arberth
Sir Benfro
SA67 8UD

 

Ffôn: 01834 860622

Ffacs: 01834 861039

E-bost: parcgwyn@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2565, adolygwyd 20/07/2023

Y Llyfr Coffadwriaeth

Y llyfr coffadwriaeth

Mae’r Llyfr Coffadwriaeth yn goffâd parhaol o’r ymadawedig. Mae yna dudalen wahanol ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn, ac ar ben pob tudalen nodir y diwrnod a’r mis. 

Mae'n bosib cyrraedd y Llyfr Coffa ar lein. Dilynwch y cyfarwyddiadau syml a gallwch archwilio'r E-Llyfr (yn agor mewn tab newydd) trwy ddefnyddio enw'r ymadawedig neu ddyddiad gosod y manylion yn y llyfr Coffa neu'r rhif sydd ar y cerdyn. Gellir edrych ar y delweddau ychwanegol rydych wedi'u harchebu trwy ddefnyddio'r rhifau sydd ar eich cerdyn.

Cardiau coffa

Mae’r rhain ar gael yn gopïau o’r hyn sy wedi ei roi yn y prif Lyfr Coffadwriaeth neu yn gofebion ar wahân.

Dyddiad Dangos

Bydd eich arysgrif i’w weld yn y Capel Coffa ar y dyddiad y gofynnoch amdano yn eich cais. Gall y dyddiad rydych yn gofyn amdano fod yn ddyddiad marwolaeth, dyddiad geni neu briodas neu goffâd arall.

Edrych ar y llyfr

Gellir mynychu’r Capel Coffa 365 diwrnod y flwyddyn o 10.00am tan 5.00pm (4.00pm yn y gaeaf). Os byddwch yn ymweld ar ddiwrnod ar wahân i’r diwrnod coffâd rydych wedi’i ddewis bydd angen i chi ofyn i aelod o’r staff i’ch cynorthwyo. Mae rhywun bob amser ar gael i’ch helpu ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 9.00am a 4.00pm. Gellir trefnu’r un modd ar benwythnosau o wneud trefniant rhag blaen.

*Nodwch bydd yna adegau pan na fyddwch yn medru gweld eich arysgrif*

Hyn am nad yw arysgrifau newydd yn cael eu gwneud ym Mharc Gwyn. Os bydd arysgrif arall yn cael ei hychwanegu at yr un dudalen â’ch un chi, yna, ni fydd yn bosib i chi weld eich arysgrifen.

Byddwch bob amser yn medru edrych ar eich arysgrif fis cyn ac ar ôl y dyddiad cofio rydych wedi gofyn amdano

Nid yw arysgrifau newydd yn cael eu hychwanegu yn ystod y cyfnod oddeutu’r dyddiad cyfredol.

Yn ystod gweddill y flwyddyn fe’ch cynghorir i gysylltu â Swyddfa’r Amlosgfa cyn ymweld rhag eich bod yn cael eich siomi. Mae yna hefyd ffyrdd eraill o weld eich arysgrif sy’n cael eu disgrifio drosodd.

Llunio eich arysgrif

  • Dim ond enw’r ymadawedig a ganiateir yn y llinell gyntaf. Cyfyngwch y llinell hon i fwyafswm o 24 o lythrennau. Os oes angen, dylid talfyrru enwau bedydd ychwanegol.
  • Mae’r lle sy ar gael yn llinellau 2-8 hefyd yn brin. Cyfyngwch bob llinell o destun i fwyafswm o 32 o lythrennau fesul llinell.
  • Gellir archebu darluniadau o unrhyw destun priodol i’w osod gydag arysgrif o 5 neu 8 llinell. Os bydd y darluniad o natur bersonol neu anarferol, mae’n bosib y bydd angen enghraifft dda ar y ceinlythrennydd i’w gynorthwyo.
  • Bydd y dyddiad rhifol a’r mis (er enghraifft 31 Mawrth) yn ymddangos ar ben uchaf pob tudalen yn y Llyfr Coffadwriaeth. Ni fydd blwyddyn y farwolaeth yn ymddangos oni bai eich bod yn ei gynnwys yn yr arysgrif. Os ydych yn dymuno i’r arysgrif ymddangos ar ddyddiad pen-blwydd neu goffâd arall, efallai y byddwch am gynnwys dyddiad llawn y farwolaeth yn yr arysgrif.
  • Bydd y dyddiad rhifol a’r mis wedi’u gosod uwchben y prif arysgrif ar Gardiau Coffa hefyd. Yr un modd, os ydych am i flwyddyn y farwolaeth gael ei ddangos ar y garden, yna, mae’n rhaid ei gynnwys yn yr arysgrif.
ID: 2068, adolygwyd 20/07/2023