Cofebion Amlosgfa
Y Llyfr Coffa Electronig
I’w weld 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn
Er mwyn ymestyn argaeledd y Llyfr, gwnaed yn siŵr bod yna fersiwn electronig ar gael yn y Capel Coffa sy’n eich galluogi i weld delwedd ddigidol o’r arysgrif ei hun 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r ‘Llyfr E’ yn hawdd i’w ddefnyddio. Yr hyn oll sy ei angen i weld yr arysgrif yw llithro carden blastig trwy’r rhwyll ar y cabinet. Daw eich arysgrif i’r golwg ar drawiad amrant. Mae gan y ‘Llyfr E’ gyfleusterau ychwanegol. Mae’n bosib gwella’r arysgrif gwreiddiol gyda thestun ychwanegol, pennill neu ddelweddau ffotograffig.
Er enghraifft, gellir gosod portread o’r ymadawedig ar ôl yr arysgrif, ac yna hoff gerdd neu efallai crynodeb o fywyd yr ymadawedig. Mae’n bosib y byddai yna wedyn ffotograff arall o’r ymadawedig yn ei hoff lecyn neu yng nghwmni aelodau eraill o’r teulu efallai. Gellir gweld y delweddau ychwanegol unwaith eto trwy ddefnyddio’r cerdyn llithro. Mae pob llithriad yn symud at y ddelwedd nesaf.
Ar gyfer pob arysgrif newydd bydd eich cerdyn llithro bersonol yn cael ei hanfon atoch ar ôl i’ch arysgrif gael ei osod yn y Llyfr Coffadwriaeth. Atodir ffurflen archebu sy’n eich galluogi i roi eich cyfarwyddiadau i ni.
Mae hefyd yn bosib cyrraedd y ‘Llyfr E’ ar lein. Dilynwch y cyfarwyddiadau syml a gallwch archwilio’r E-Llyfr trwy ddefnyddio enw’r ymadawedig neu ddyddiad gosod y manylion neu’r rhif sy ar y cerdyn llithro. Gellir edrych ar y delweddau ychwanegol rydych wedi’u harchebu trwy ddefnyddio’r rhifau sy ar eich cerdyn llithro.
Yn ychwanegol gallwn ddarparu copi caled, ffotograffig, wedi’i lamineiddio, o’r dudalen arysgrif yn y Llyfr E. Mae hefyd yn bosib archebu cardiau llithro ychwanegol ar gyfer eraill y byddech am iddynt rannu’r cyfleuster hwn â chi.