Cofrestru Mangreoedd Bwyd
Pwy sy'n gorfod ymgofrestru eu bod yn fusnes bwyd?
Mae'r holl fangreoedd a ddefnyddir i gynnal busnes bwyd (gan gynnwys stondinau marchnad, cerbydau danfon ac adeileddau symudol eraill) yn Sir Benfro yn gorfod, yn ôl y gyfraith, cael eu cofrestru. Mae cofrestru'n caniatáu inni nodi'r holl fangreoedd bwyd yn ein hardal a bydd yn ein cynorthwyo i drefnu rhaglenni arolygu mangreoedd bwyd.
Os ydych chi'n cynnal busnes bwyd yn Sir Benfro rhaid ichi gofrestru unrhyw fangreoedd a ddefnyddiwch i storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd. Mae mangreoedd bwyd yn cynnwys bwytai, gwestai, caffis, siopau, archfarchnadoedd, cantins gweithwyr, ceginau mewn swyddfeydd, warysau, tai aros, cerbydau danfon, cerbydau bwffe ar drenau, stondinau marchnad ac eraill, faniau cŵn poeth a hufen iâ, ac yn y blaen.
Os byddwch chi'n defnyddio cerbydau ar gyfer eich busnes bwyd, mewn cysylltiad â mangreoedd parhaol fel siop, neu warws, yr unig beth y mae'n rhaid ichi ddweud wrth yr awdurdod lleol yw faint o gerbydau sydd gyda chi. Nid ydych yn gorfod cofrestru pob cerbyd ar wahân.
Os oes gyda chi un cerbyd bwyd teithiol neu ragor, fel fan hufen ia neu fan cŵn poeth, sydd fel arfer yn cael ei chadw yn Sir Benfro, yna rydych chi'n gorfod ei chofrestru â ni, hyd yn oed os taw dim ond y tu fas i Sir Benfro yr ydych chi'n masnachu.
Mae pawb sy'n rhoi cychwyn ar fusnes newydd yn Sir Benfro yn gorfod cofrestru â'r Adran hon o leiaf 28 diwrnod cyn iddynt ddechrau masnachu.