Cofrestru Mangreoedd Bwyd
A oes unrhyw fusnesau'n cael eu hesgusodi rhag cofrestru?
O dan y ddeddfwriaeth bresennol prin iawn yw'r mangreoedd bwyd hynny sy'n cael eu hesgusodi rhag cofrestru. Mae rhai mangreoedd neilltuol yn cael peidio â chofrestru am eu bod yn gorfod cael eu cymeradwyo o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd benodol sy'n ymwneud â hylendid. Dyma fangreoedd sy'n ymdrin â chynhyrchion sy'n cynnwys bwydydd sy'n deillio o anifeiliaid, fel cig, cynhyrchion llaeth a chynhyrchion pysgod/pysgodfeydd, lle mae'r busnesau'n darparu a throsglwyddo eu cynhyrchion, yn bennaf, i fanwerthwyr eraill, yn hytrach na'u trosglwyddo i'r defnyddiwr terfynol.
Fe fydd rhai eraill yn cael eu hesgusodi rhag cofrestru hefyd - cynhyrchwyr, ar raddfa fach iawn, sy'n gwneud cynhyrchion sylfaenol ac yna'n eu gwerthu i'r defnyddiwr terfynol neu i siopau lleol.
O ran yr holl fusnesau bwyd eraill lle mae rhywfaint o ddilyniant ynghylch y gweithgareddau busnes bwyd a lle mae peth trefniadaeth, yna mae gofyn iddynt gofrestru. Bydd hyn yn cynnwys busnesau nad ydynt yn cael eu cynnal er mwyn gwneud elw.