Cofrestru Mangreoedd Bwyd

Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth sy'n cael ei rhoi ar y Ffurflen Cofrestru Bwyd?

Byddwn yn dodi'r manylion ar ein Cofrestr.  Bydd hyn yn cynnwys enw, cyfeiriad, manylion a pha fath o fusnes ydyw, ar gyfer yr holl fusnesau cofrestredig sy'n cael eu cynnal yn Sir Benfro.  Bydd y gofrestr hon ar gael i'r cyhoedd fwrw golwg arni.

Bydd y ceisiadau am wybodaeth am sefydliadau busnes bwyd nad yw wedi cael ei chynnwys yn y Gofrestr, yn cael ei thrin a'i thrafod yn unol â gofynion deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth a gwarchod data.

ID: 1546, adolygwyd 12/10/2022