Cofrestru/Trwyddedau Storfeydd Ffrwydron

Storio Tân Gwyllt a Ffrwydron Eraill

Mae'n rhaid i adeiladau yn Sir Benfro sy'n storio ffrwydron fel rheol fod wedi eu cofrestru gan y Cyngor Sir. Mae'r rheoliadau yn rhagnodi'r math o adeiladau a'r math o gynwysyddion y caniateir dal ffrwydron ynddynt, a'r math a'r swm y ceir eu storio a'u cyflenwi. Rhaid bod mesurau diogelwch yn eu lle. Mae'r mathau o ffrwydron sydd angen cofrestriad yn cynnwys tân gwyllt a fflerau. Efallai y bydd ar siopau mawr angen trwydded yn lle cofrestriad.

 

ID: 1529, adolygwyd 22/09/2023