Cofrestru/Trwyddedau Storfeydd Ffrwydron

Cyflenwi tân gwyllt drwy gydol y flwyddyn

Os nad oes gennych drwydded ar wahân ar gyfer gwneud hynny, ni cheir cyflenwi tân gwyllt ond yn ystod y cyfnodau canlynol yn unig:

  • Ar ddiwrnod cyntaf y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a'r tri diwrnod yn union cyn hynny;
  • Ar ddiwrnod Diwali a'r tri diwrnod yn union cyn hynny;
  • Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y 15fed o Hydref ac yn diweddu ar y 10fed o Dachwedd;
  • Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y 26ain o Ragfyr ac yn diweddu ar yr 31ain o Ragfyr.

Mae trwydded i gyflenwi tân gwyllt y tu allan i'r cyfnodau hyn, ar hyn o bryd, yn costio £500. Gellir talu â siec, wedi ei gwneud yn daladwy i Gyngor Sir Penfro, neu os yw'n well gennych dalu drwy BACS, cysylltwch â ni ar 01437 775179

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r:

Tîm Iechyd a Diogelwch, 
Adran Diogelwch y Cyhoedd, 
Cyngor Sir Penfro, 
Neuadd y Sir, 
Hwlffordd, 
Sir Benfro, 
SA61 1TP


Ffôn:  01437 775179  
E-bost: health&safety@pembrokeshire.gov.uk              

ID: 1533, adolygwyd 23/08/2017