Compostio yn y Cartref

Pam gompostio?

Fel sir ni allwn mwyach daflu popeth fel sbwriel a rhaid i ni oll Arbed, Ailddefnyddio ac Ailgylchu. Mae’n ofynnol arnom i leihau’n yn eithafol faint o wastraff sy’n mynd i dirlenwi er mwyn cyrraedd targedau newydd anodd. Os na wnawn, bydd Sir Benfro’n wynebu cosbau ariannol mawr a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n rhedeg i filiynau o bunnoedd y flwyddyn – y byddwn i gyd yn talu amdanynt.

Nid oes raid i chi fod â gardd fawr na bod yn arddwr brwd i wneud eich compost eich hun. Gyda bin compost, mae’n hawdd troi sgrapiau cegin sydd heb eu coginio, gwastraff gardd a darnau o “sbwriel” eraill yn wrtaith cyfoethog, ac yn fwyd arbennig i blanhigion ... ac mae am ddim!

 

ID: 706, adolygwyd 13/06/2022