Compostio yn y Cartref
Beth ddylwn i ddodi yn y bin compost?
Cofiwch fod compost yn gweithio orau gyda chymysgedd da o Bethau Brown a Gwyrdd.
Pethau gwyrdd – crwyn llysiau, ffrwythau a saladau, torion gwair (dim gormod ar unwaith), chwyn ifanc meddal, torion gwrych ifanc meddal, gweddillion planhigion, sachau te a gwaelodion coffi, deunyddiau naturiol e.e. cotwm neu wlân a fydd yn compostio orau o’i dorri’n stribedi, blew a phlu.
Pethau brown - deunydd pacio cardbord wedi’i grychu neu rwygo, gwastraff papur wedi’i grychu, blychau wyau heblaw’r rhai plastig! Tocion prennaidd (wedi’u malu neu rwygo), llwch a blew o’r sugnwr llwch, gwellt a gwair, e.e. gwelyau moch cwta neu gwningod.
Peidiwch  Chompostio - plastigion, metel a gwydr, cig, pysgod a chynhyrchion llaeth, olew, gweddill bwyd wedi’i goginio, ysgarthion cŵn a chathod, clytiau untro, deunyddiau gwneud fel neilon, unrhyw ddeunydd o blanhigion afiach, lludw glo.