Compostio yn y Cartref

Beth ddylwn i wneud ynghylch...

  • Fe all gwreiddiau chwyn bythol (e.e. dant y llew, tafol, marchwellt, blodau-ymenyn ymlusgol, llysiau’r gymalwst, cwlwm coed) aildyfu yn eich compost. Gallwch eu hychwanegu’n ddiogel at eich bin ond i chi eu lladd yn gyntaf. Dodwch nhw mewn bag plastig, ei glymu, a’u gadael i bydru nes byddant yn frown a slwtshlyd neu eu cadw mewn bwced o ddŵr dan gaead am ychydig ddyddiau neu eu gadael yn yr haul i sychu’n llwyr.
  • Nid yw plisgyn wyau’n pydru’n gyfan gwbl ond dylid eu cynnwys i ddarparu calsiwm defnyddiol. Ceisiwch eu malu’n gyntaf.
  • Mae dail yr hydref yn compostio’n araf. Dodwch nhw mewn bag plastig dan sêl am 2 flynedd i wneud deilbridd rhagorol i’ch gardd.
ID: 715, adolygwyd 13/06/2022