Compostio yn y Cartref
Beth wnaf i pan fydd y bin yn llawn?
Mewn gardd fechan efallai na fyddwch fyth yn llenwi eich bin. Bydd y cynnwys yn suddo wrth ddadelfennu. Gallwch dynnu compost sy’n barod drwy’r drws ar y gwaelod, gan adael yr haenau uchaf i aeddfedu.
Neu... gadewch i’r bin ‘llawn’ orffen compostio, a dechrau llenwi ail fin! Bydd gan lawer o bobl fin ‘ar waith’ – i’w lenwi gyda deunydd newydd - tra bo ail fin yn cael ei adael i wneud compost i’w ddefnyddio pan fydd yn barod. Yna’u ffeirio, gan ddechrau llenwi’r bin gwag a gadael y llall i wneud rhagor o gompost.
Neu... codwch y bin yn ofalus oddi ar y pentwr, cyn rhoi hen ddarn o garped neu sach drosto (gyda phwysau rhag iddo chwythu o gwmpas).
Yna gallwch ddechrau llenwi’r bin eto, gan ychwanegu rhywfaint o’r haen sydd heb gompostio’n llwyr i roi hwb i bethau eto.