Compostio yn y Cartref
Beth yw compost?
Compostio yw ffordd natur o ailgylchu.
Mae deunyddiau organaidd yn dadelfennu ym mhresenoldeb ocsigen. Bydd dadelfenwyr cyfeillgar, gan gynnwys bacteria, ffyngau ac organebau sy’n haws eu gweld fel pryfed genwair a phryfed lludw, yn bwydo ar y deunyddiau gwastraff organig a ddarparwch - gan eich gadael gyda chompost rhyfeddol!
Mae’n broses hollol naturiol - ac mae’n hawdd! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw creu’r amgylchiadau iawn, a bydd yn digwydd heb fawr ddim ymdrech ar eich rhan chi!
Mae’r dadelfenwyr cyfeillgar yn bethau byw ac, fel ni, mae arnynt angen bwyd, lleithder ac aer i aros yn fyw. Ond gofalu amdanynt, byddant yn dal i roi gwrtaith gardd rhyfeddol i chi.
ID: 708, adolygwyd 13/06/2022