Compostio yn y Cartref
Datrys problemau
A oes angen gardd fawr arnaf?
Nac oes. Gallwch wneud ychydig o gompost o sbarion cegin, digon ar gyfer potiau neu ddysglau plannu yn y tŷ.
A yw hi’n ddiogel gwneud compost gyda phlant o gwmpas?
Ydi. Dim ond dilyn rhagofalon hylendid call, fel golchi’r dwylo, fel y byddech ar ôl unrhyw chwarae awyr agored. Ni ddylech fyth gynnwys baw cathod neu gŵn yn eich compost.
Pam fod fy nghompost wedi rhoi’r gorau i weithio?
Mae’n rhy sych yn ôl pob tebyg. Rhowch ddŵr arno, ei gymysgu, ac ychwanegu mwy o ddail gwyrdd.
Pam fod fy nghompost yn ddrewllyd a seimlyd?
Yn ôl pob tebyg rydych wedi ychwanegu gormod o ddail gwyrdd. Ychwanegwch fwy o bethau brown i adfer y cydbwysedd, a defnyddio coes ysgub i brocio tyllau aer yn y pentwr.
Pan fyddaf yn tynnu’r caead oddi ar y bin, pam fod pryfed bach duon ynddo?
Mae’r pryfed ffrwythau hyn yn hollol ddiniwed. Yn yr haf byddant yn bwydo ar dameidiau ffrwythau a llysiau. Gallwch eu rhwystro rhag ymddangos trwy ychwanegu haen o bridd neu dorion gwair a gadael y caead oddi ar y bin am ychydig er mwyn iddynt allu hedfan i ffwrdd.