Compostio yn y Cartref
Pryd fydd y compost yn barod?
Mae eich compost yn barod pan fydd yn edrych fel pridd brown tywyll gydag aroglau priddlyd dymunol. Fe all hyn gymryd unrhyw beth o 3 i 12 mis.
Os ydych yn ychwanegu llawer o ddarnau bach mae’r broses gompostio’n gyflymach – mae gan y dadelfenwyr arwynebedd mwy i weithio arno.
Os yw’n cynnwys tameidiau sydd heb bydru’n briodol, dodwch nhw yn eich swp nesaf o gompost.
Rydych yn barod i ddefnyddio’ch compost hyfryd yn yr ardd neu ar gyfer planhigion pot o gwmpas y cartref.
ID: 718, adolygwyd 13/06/2022