Compostio yn y Cartref
Sut mae defnyddio compost?
Dyma ble mae’r hwyl yn dechrau! Defnyddiwch y compost yn rheolaidd a gweld eich gardd yn ffynnu. Gallwch ddefnyddio compost yn unrhyw fan i wella pridd a bwydo eich planhigion.
Taenu - mae haen drwchus o gwmpas eich planhigion yn helpu cadw lleithder ac atal chwyn.
Cyflyru pridd - taenu compost ar eich gwelyau blodau a llysiau i wella adeiladwaith y pridd a chydbwyso draenio gyda dal gafael ar ddŵr.
Bwydo eich planhigion yn naturiol heb gemigion gwneud - bydd pryfed genwair yn mynd â’r maetholion o’r compost i lawr i’r pridd. Mae planhigion iach yn tyfu mewn pridd iach!
Potio - defnyddio compost yn lle compost o’r siop yn eich potiau blodau, blychau ffenestri a basgedi crog.
Ychwanegu ychydig gentimetrau o gompost gardd at botiau a dysglau plannu yn y gwanwyn.