Compostio yn y Cartref

Sut mae gwneud compost?

1. Dodwch eich bin heb fod yn rhy bell o’r gegin mewn llecyn gwastad sy’n draenio’n dda. Os gallwch, dodwch ef ar bridd noeth yn hytrach na choncrid fel bod dadelfenwyr yn gallu mynd iddo.

2. Rhowch ychydig o goesau planhigion prennaidd ar y gwaelod, i gynorthwyo cylchrediad aer.

3. Ychwanegwch gompost fel y daw. Cofiwch gael cymysgedd da o bethau brown a gwyrdd gyda’i gilydd neu bob yn ail, mewn haenau tenau.

4. Casglwch wastraff ffrwythau a llysiau o’r gegin mewn bwced compost (wedi’i phrynu i’r diben neu wneud un eich hun e.e. twb hufen iâ gyda chaead). Cadwch hon wrth law (ger y sinc) a’i gwagio i’ch bin compost bob dydd.

5. Ysgogwyr. Os byddwch yn ychwanegu cymysgedd da o ddeunydd, ni fydd angen unrhyw gymorth ychwanegol ar eich compost. Os yw’n ymddangos nad oes dim yn digwydd, gallwch ddefnyddio ysgogydd i ‘gychwyn’ y bin. Mae unrhyw rai o’r canlynol yn gwneud dewisiadau rhagorol am ddim yn lle ysgogwyr siop: danadl, dail cwmffri, baw ieir, chwyn ifanc neu droeth gwan.

ID: 716, adolygwyd 13/06/2022