Cronfa Adfywio Cymunedol y Du
Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
Mae Sir Benfro wedi llwyddo i ennill naw dyfarniad gan Gronfa Adfywio Cymunedol newydd y DU, gwerth cyfanswm o £2.92m.
Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu’n genedlaethol gan yr Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau, a werthusodd y ceisiadau am gyllid. Caiff ei weinyddu’n lleol gan Gyngor Sir Penfro.
Roedd pob awdurdod lleol yn gallu cyflwyno rhestr fer o geisiadau yn ôl blaenoriaeth o’u hardal, hyd at uchafswm o £3m ar gyfer 2021/22.
Roedd angen i ymgeiswyr ddatblygu prosiectau a aeth i’r afael â’r themâu canlynol:
- Buddsoddi mewn sgiliau
- Buddsoddiad ar gyfer busnesau lleol
- Buddsoddi mewn cymunedau a lle
- Cynorthwyo pobl i gael gwaith
Llwyddodd Sir Benfro i gael cyllid ar gyfer yr holl geisiadau a gyflwynwyd. Llwyddodd yr ymgeiswyr lleol canlynol i gael grantiau:
Enw'r cynnig |
Prif gyflawnwr y prosiect a’i fanylion cyswllt |
Disgrifiad byr |
Freshwater West Cynaliadwy – yn cydweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Freshwater West yw prif draeth syrffio Cymru. Mae ei brysurdeb wedi cynyddu’n enfawr ac, yn sgil ei boblogrwydd, ceir heriau i’r gymuned leol, ei seilwaith oedrannus a'r gwasanaethau brys. Bydd y prosiect hwn yn datblygu cynnig opsiynau a gweledigaeth dan arweiniad y gymuned ar gyfer Freshwater West, gan gynnwys amcanion economaidd, mynediad a llesiant. |
Sir Benfro Ar Agor i Bawb |
Visit Pembrokeshire Ltd Ffôn: 01646 622228 E-bost: admin@visitpembrokeshire.com |
Bydd y prosiect yn gwneud Sir Benfro yn gyrchfan ragorol, gan gynnig gwasanaeth a chyfleusterau gwych i ymwelwyr anabl. Mae yna ymdeimlad fod 'hygyrchedd' yn ddrud, ond bydd addasiadau syml ac ystyriaethau gwasanaeth cwsmer meddylgar yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiad pob ymwelydd anabl, wrth wella proffidioldeb ac ymestyn y tymor ymwelwyr. |
Astudiaeth Ddichonoldeb – Twristiaeth y Gaeaf yng Ngogledd-ddwyrain Sir Benfro |
Cyngor Sir Penfro E-bost: Eleanor.brick@pembrokeshire.gov.uk neu karen.davies@pembrokeshire.gov.uk |
Bydd Astudiaeth Ddichonoldeb Twristiaeth y Gaeaf yn ystyried os gall dull partneriaeth greu rhaglen hyfyw o ddigwyddiadau gaeaf (mis Tachwedd i fis Mawrth), cynyddu niferoedd ymwelwyr, creu swyddi twristiaeth gydol y flwyddyn, lleihau tangyflogi o ganlyniad i waith tymhorol, yn enwedig ar gyfer y rhai â rhwystrau ychwanegol rhag gweithio, a lleihau beichiau recriwtio a hyfforddi. |
Cymunedau Dyfeisgar: Ar gyfer economi llesiant |
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Penfro (PAVS) 36/38 Stryd Fawr, Hwlffordd, Sir Penfro, SA61 2DA Ffôn: 01437 769422 E-bost: enquiries@pavs.org.uk |
Cais consortiwm o dan arweiniad y trydydd sector sy’n darparu ystod o weithgareddau cynhwysol ar gyfer pob oed sy’n cyfrannu at economi llesiant a gwerthuso'r canlyniadau. Mae'r cais yn canolbwyntio ar greu seilwaith ar gyfer cynllunio a buddsoddiad cymunedol, cynhyrchu bwyd yn lleol a chyfleoedd ar gyfer gofal cydweithredol, a syniadau i fynd i'r afael â thlodi, diweithdra ac allgau digidol. |
Ymaddasu i Newid Hinsawdd – Mynd i'r afael â Pheryglon Hinsawdd o fewn Cymunedau Sir Benfro |
Fforwm Arfordirol Sir Benfro CIC 2ail Lawr, Pier House Doc Benfro, Sir Benfro, SA72 6TR |
Bydd y prosiect yn datblygu Strategaeth Ymaddasu i Newid Hinsawdd ar gyfer Sir Benfro, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn dylanwadu ar gynllunio strategol, cynllunio yn seiliedig ar leoedd, a chamau ymaddasu i newid hinsawdd wedi eu targedu ar lawr gwlad. Caiff ei gefnogi gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ac mae ei angen gan y bydd effeithiau’r hinsawdd yn cael effaith ar wneud penderfyniadau, darparu gwasanaethau a gwaith partneriaeth. |
Prosiect THRIVE |
Really Pro Ltd 20 Stryd Fawr, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 2DA E-bost: info@reallypro.co.uk |
Bydd prosiect THRIVE yn darparu hyfforddiant achrededig a chefnogaeth dechrau a thyfu busnes i 430 o fusnesau bwyd a lletygarwch, manwerthu, a thwristiaeth a hamdden drwy ddefnyddio platfform sgiliau ar-lein THRIVE a chymorth cynghori cyfunol. Byddwn yn cefnogi 270 o unigolion rhwng 16 a 65 oed i ennill cymwysterau Lefel 2 er mwyn cael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth. |
Datblygu Cynllun Rheoli Muriau Tref Penfro |
Ymddiriedolaeth Muriau Tref Penfro E-bost: pembroketwt@gmail.com |
Diben y prosiect hwn yw datblygu cynllun arloesol a hirdymor i adfer a rheoli muriau canoloesol dirywiedig tref Penfro, gan archwilio a darparu atebion i faterion o ran cyllid cynaliadwy ar gyfer adeileddau rhestredig â sawl perchnogion preifat, prinder sylweddol hyfforddiant sgiliau adeiladu treftadaeth yng Nghymru, a chynyddu'r ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol a lle. |
Partneriaeth Fenter ar Lefel yr Ecosystem – Adeiladu Atebion Naturiol |
Fforwm Arfordirol Sir Benfro CIC 2ail Lawr, Pier House Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6TR |
Nod y prosiect yw goresgyn heriau a fyddai'n dod â datblygiad tai i ben o ganlyniad i safbwynt CNC ar ffosffadau ac afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Bydd mesur effeithiau datblygiadau tai ac amaethyddol arfaethedig o ran ffosffadau, ymgysylltu â rheolwyr tir, darganfod a phrisio atebion, a chreu cynlluniau lliniaru ar gyfer datblygiadau penodol yn caniatáu i ganiatâd cynllunio gael ei roi. |
ESP – Menter a Sgiliau Sir Benfro |
Cyngor Sir Penfro |
Bydd datblygu sgiliau yn lleol yn creu gweithlu hyblyg ac addasadwy, gan gefnogi entrepreneuriaeth a thyfu busnesau. Bydd ESP yn cwmpasu galw symudol yn y farchnad a gofynion capasiti ar gyfer y dyfodol. Bydd ein partneriaid cyflenwi yn darparu mentrau sgiliau allweddol sy’n canolbwyntio ar y sector a fydd yn arwain pobl tuag at weithgarwch economaidd ac ysbrydoli a chyffroi arloesedd busnes drwy ddiddymu rhwystrau entrepreneuriaeth. |
Strategaeth Adnewyddu ac Adfywio 2020-2030
Nodyn technegol ar gyfer ymgeiswyr a chyflenwyr prosiect
Ystafell Newyddion - Sir Benfro'n llwyddo i dderbyn bron i £3m o gronfa o Gymunedol Newydd y DU