Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Creu Lleoedd yn Sir Benfro; Prosiect Angor

Hyrwyddo a darparu ymyriadau creu lleoedd canol trefi trwy gyflawni cyfres o Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Trefi Cyngor Sir Penfro.  

Mae'r cynnig angori ‘Lle’ hwn yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn gweithredu adfywio yn seiliedig ar le i fynd i'r afael â dirywiad sylweddol yng nghanol trefi ar gyfer chwe thref sy’n cael blaenoriaeth, sef Hwlffordd, Penfro, Doc Penfro, Dinbych-y-pysgod, Aberdaugleddau ac Abergwaun ac Wdig.

Bydd buddsoddiad yn mynd i'r afael â'r materion craidd o ran sut rydym yn annog canol trefi bywiog, yn cynnal ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i gefnogi siopau, lleihau stoc adeiladau gwag, adeiladau nas defnyddir yn llawn a rhai nas defnyddir ddigon, creu swyddi a hyrwyddo byw yng nghanol trefi. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu drwy gyflawni cyfres o gamau gweithredu cydlynol:

  • Datblygu datganiadau dylunio trefi a phrosbectysau datblygu cysylltiedig i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo canol ein trefi yn effeithiol 
  • Buddsoddi mewn adeiladau gwag yng nghanol trefi, adeiladau nas defnyddir yn llawn a rhai nas defnyddir ddigon
  • Buddsoddi yn ansawdd, hygyrchedd a diogelwch tir y cyhoedd yng nghanol trefi 
  • Diogelu a gwella treftadaeth ein trefi 
  • Cefnogi mynediad i raglenni treftadaeth i gynyddu'r gwaith o hyrwyddo ac ymgysylltu â'r economi treftadaeth leol 

Bydd y rhaglen hon o welliannau i dreflun canol trefi a strydoedd mawr yn cefnogi adferiad ôl-COVID ac yn cynorthwyo canol ein trefi hanesyddol i addasu, ond eto'n cadw eu gwerth atyniadol ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol ac economaidd. Bydd buddsoddiad yn hwyluso defnyddio canol trefi ar gyfer defnydd manwerthu a chymdeithasol modern, yn arbennig drwy sicrhau bod eiddo gwag nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn ac nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon, yn dychwelyd i gael eu defnyddio’n gynhyrchiol a darparu gwell hygyrchedd a mynediad i bob cymuned yng nghanol ein trefi.

Bydd rhestr fer o eiddo masnachol gwag, eiddo nas defnyddir yn llawn ac nas defnyddir ddigon yng nghanol trefi, sy’n deillio o chwe chynllun Creu Lleoedd Sir Benfro yn cael buddsoddiad cyfalaf drwy raglen grant, i sicrhau bod eiddo yn cael eu defnyddio eto. Mae’r cynnig hwn hefyd yn cynnwys cyllid i gynnig pecyn o gymorth proffesiynol a chymorth meithrin gallu i ddarpar datblygwyr eiddo gwag, eiddo nas defnyddir yn llawn ac eiddo nas defnyddir ddigon, er mwyn annog eiddo gwag hirdymor heriol i gael eu hystyried.

Dan arweiniad ein Strategaeth Ddiwylliannol, bydd y dyraniad hwn yn cefnogi datblygiad isadeiledd treftadaeth a diwylliannol yn ein trefi. Bydd Rhaglen Ddatblygu Canolfannau Treftadaeth yn cefnogi datblygu cyfleusterau sy’n ymwneud â diwylliant a threftadaeth i ymwelwyr mewn adeiladau treftadaeth.

I gyd-fynd â'r rhaglen uchod, bydd Rhaglen Sgiliau Treftadaeth yn seiliedig ar arferion sefydledig a phrofedig yn cael ei chynnal gan Fenter Treftadaeth Treflun a rhaglen Cysylltiadau Hynafol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl leol ddatblygu sgiliau ac ennill profiad ymarferol o sgiliau treftadaeth.

Cynllun Gwella Strydlun Sir Benfro 2025 - Mae ceisiadau ar agor tan fis Mai 2025

Rhaglen Gwella Strydoedd - Cynllun Paentio Strydlun Sir Benfro - Mae ceisiadau bellach wedi cau

ID: 11186, adolygwyd 07/04/2025