Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Cynllun Gwella Strydlun Sir Benfro (2025)

Canllawiau a sut i wneud cais

 

Ar y dudalen hon:

1. Cyflwyniad

2. Cymhwysedd

3. Ar gyfer beth y gallwch chi ddefnyddio’r grant?

4. Yr hyn na allwch ddefnyddio’r grant ar ei gyfer

5. Ceisiadau ac asesu 

6. Rheolau caffael

7. Rheoli cymorthdaliadau

8. Ar ôl cwblhau – telerau ac amodau

9. Hawlio arian grant yn ôl

10. Diogelu data

11. Sut i wneud cais

 

Gall y canllawiau newid.

 




1. Cyflwyniad

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i adfywio yn Sir Benfro, rydym yn darparu’r Cynllun Gwella Strydlun sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Nod yr ymyriad grant yw gwneud eiddo masnachol canol tref yn fwy deniadol er mwyn annog mwy o ymwelwyr a chynorthwyo busnesau a sefydliadau i greu swyddi newydd, a chryfhau’r cymysgedd o fusnesau canol tref wrth wella golwg cyffredinol yr ardal gyfagos.

Mae’r Cynllun Gwella Strydlun yn cynnig grant o 80%, hyd at uchafswm gwerth grant o £24,999, tuag at gyfanswm y gwariant ar uwchraddio ffasadau eiddo allanol eiddo manwerthu canol tref ym mharthau canol tref Abergwaun ac Wdig, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod.

Mae'r cynllun grant newydd hwn yn estyniad i'r cynllun gwella cynllun paentio blaenorol ar gyfer eiddo masnachol sy'n parhau o fewn parthau canol trefi y trefi uchod, ac ar gyfer Tyddewi, Saundersfoot, Arberth, Crymych a Threfdraeth.

Bydd y cynllun paentio yn darparu cyllid ar gyfer 80% o'r costau, hyd at uchafswm gwerth grant o £4,999, tuag at ailbaentio ffasâd(au) sy'n wynebu'r stryd.

 

 

2. Cymhwysedd

Bydd y gronfa yn cynorthwyo perchnogion eiddo masnachol cymwys a thenantiaid / lesddeiliaid sydd â chaniatâd ysgrifenedig perchennog yr eiddo.

Mae’r Cynllun Gwella Strydlun yn cynnwys ardaloedd canol tref ar gyfer y trefi canlynol: Abergwaun ac Wdig, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro, Dinbych-y-pysgod. Cysylltwch â ni i ddarganfod ardal gymwys y camau sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Rhaid i ffasâd yr eiddo fod yn weladwy o’r stryd y mae’r eiddo wedi’i leoli arni.

Mae'r cynllun grant newydd hwn yn estyniad i'r cynllun gwella cynllun paentio blaenorol ar gyfer eiddo masnachol sy'n parhau o fewn parthau canol trefi y trefi uchod, ac ar gyfer Tyddewi, Saundersfoot, Arberth, Crymych a Threfdraeth.

Bydd y cynllun paentio yn darparu cyllid ar gyfer 80% o'r costau, hyd at uchafswm gwerth grant o £4,999, tuag at ailbaentio ffasâd(au) sy'n wynebu'r stryd.

Rhaid i daliadau awdurdod lleol sy’n ddyledus gan geiswyr fod wedi’u talu.

 



3. Ar gyfer beth y gallwch chi ddefnyddio’r grant?

Mae’r Cynllun Gwella Strydlun yn cefnogi’r gwaith canlynol:

  • Gosod arwyddion newydd
  • Trin, glanhau, atgyweirio neu ailosod ffenestri / wynebfyrddau / cafnau a pheipiau glaw sy’n wynebu’r stryd
  • Atgyweirio neu ailosod rendrad ar ffasâd allanol yr adeilad (gan gynnwys unrhyw wedd sy’n wynebu’r stryd)
  • Atgyweirio a gwella gwedd yr eiddo sy’n wynebu’r stryd
  • Addurno ffasâd allanol yr adeilad (gan gynnwys unrhyw wedd sy’n wynebu’r stryd)

Bydd y cynllun paentio yn darparu cyllid ar gyfer 80% o'r costau, hyd at uchafswm gwerth grant o £4,999, tuag at ailbaentio ffasâd(au) sy'n wynebu'r stryd.

Arwyddion / hysbysebion

Mae arddangos hysbysebion yn cael ei reoleiddio gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992. Mae’r rheoliadau’n nodi dosbarthiadau o hysbysebion sydd wedi’u heithrio rhag rheolaeth uniongyrchol a dosbarthiadau o hysbysebion y gellir eu harddangos gyda ‘chaniatâd tybiedig’ ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â chyfyngiadau o ran arwyddion a chaniatâd. Bydd angen cais am ganiatâd datganedig ar hysbysebion nad ydynt wedi’u heithrio ac nad ydynt yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau ar gyfer ‘caniatâd tybiedig’. Mae’r canllaw y gellir ei gyrchu trwy’r ddolen atodedig yn ymwneud â Lloegr ac fe’i darperir er gwybodaeth gyffredinol yn unig gan nad yw Rheoliadau Hysbysebion Cymru yr un peth. Os yw eich cynnig yn ymwneud ag uwchraddio neu newid eich arwyddion, dylech gysylltu â’r Adran Gynllunio am gyngor pellach.

Cysylltwch â’r Adran Gynllunio hefyd os nad ydych yn siŵr a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich newidiadau arfaethedig. Dylech sicrhau a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich gwaith arfaethedig cyn cyflwyno cais ar gyfer y Cynllun Gwella Strydlun.

 

Cyngor Sir Penfro – 01437 764551

wefan: cynllunio a rheoli adeiladau

 

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – 01646 624800

wefan: Arfordir Penfro - cynllunio (yn agor mewn tab newydd)

 

Gall eiddo fod eisoes yn cael ei feddiannu, neu’n wag ond bod bwriad i’w ddefnyddio eto fel gofod manwerthu. Gellir defnyddio’r arian i brynu deunyddiau neu ei roi tuag at gost defnyddio contractwr. Gwerthfawrogir y gallai fod angen ystyried ffactorau ychwanegol ar gyfer rhai eiddo, ac felly bydd y costau hyn, megis sgaffaldiau a gwaith paratoi, yn cael eu hystyried fel rhan o’r cais.

Gall ceiswyr ofyn am gyllid ar gyfer deunyddiau yn unig a bydd angen iddynt gyflwyno copïau o dderbynebau wrth hawlio grant ar gyfer 80% o’r costau hyn. Lle defnyddir contractwr, bydd lefel y grant yn seiliedig ar dalu 80% o gostau’r cyflenwr a ddewiswyd a darparu dyfynbris ysgrifenedig i gadarnhau’r costau.

Uchafswm y grant fesul eiddo yw £24,999, neu £4,999 ar gyfer gwelliant cynllun paent yn unig.

 

Dim ond unwaith y gall ceiswyr grant y Cynllun Gwella Strydlun wneud cais fesul eiddo, ond gallant hefyd elwa ar geisiadau annibynnol a wneir i weithgareddau eraill y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan gynnwys Grant Creu Lleoedd, Cronfa Twf Busnesau Sir Benfro neu’r Grantiau Cymunedau Cynaliadwy. Fodd bynnag, nodwch yr adran Rheoli Cymorthdaliadau isod.

Gellir cael caniatâd adeilad rhestredig a chyngor ar ardaloedd cadwraeth trwy gysylltu â Swyddog Adeiladau Hanesyddol a Chadwraeth y cyngor ar gyfer yr ardal briodol:

 

Abergwaun ac Wdig, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro: adeiliadau rhestredig ac ardal gadwraeth  

Dinbych-y-pysgod: Arfordir Penfro - cadwraeth adeiliadau - adeiladau rhestredig (yn agor mewn tab newydd)   

 

Sylwer: Cyfrifoldeb y ceisydd yw sicrhau y ceir yr holl ganiatâd adeiladu neu ganiatâd cynllunio cyn i unrhyw waith gael ei wneud, gan nodi’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.  Nid yw gwaith atgyweirio ac addasiadau i adeilad nad ydynt yn effeithio’n sylweddol ar edrychiad allanol adeilad yn ddatblygiad ac felly nid oes angen cais am ganiatâd cynllunio arnynt. Mae paentio tu allan unrhyw adeilad neu baentwaith yn ddatblygiad a ganiateir (nid oes angen cais am ganiatâd cynllunio) ar yr amod nad yw’r paentiad at ddiben hysbysebu neu gyfarwyddyd. Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd hysbysebu i wella neu addasu arwyddion, a dylid gwneud ymholiadau ynghylch a ddylid gwneud cais am ganiatâd hysbysebu i Dîm Rheoli Datblygu (Cynllunio) y cyngor perthnasol (gweler y manylion cyswllt uchod).

 

                   

4. Yr hyn na allwch ddefnyddio’r grant ar ei gyfer  

Ni ddylid gwario unrhyw gyllid cyn bod y grant yn cael ei gymeradwyo, gan na ellir dyfarnu’r grantiau yn ôl-weithredol. Mae hyn yn cynnwys gwaith y mae contractau eisoes wedi’u llofnodi neu archebion wedi’u gosod ar ei gyfer, cyn cymeradwyo cyllid.

Os yw’r busnes wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau heb eu cofrestru ar gyfer TAW lle nad oes modd adennill TAW.

 

Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.

Ni fydd eitemau a brynir ar les, hurbwrcas, cytundeb credyd estynedig / les cyllid yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.

Mae gwariant anghymwys yn cynnwys y canlynol:

  • Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcasu / prynu ar les, ffioedd cyfreithiwr.
  • Ffioedd cais cynllunio.
  • Talu am eitemau neu wariant a wneir ag arian parod.
  • Ni fydd prosiectau ar gyfer eiddo preswyl yn gymwys.

 



5. Ceisiadau ac asesu

Mae hon yn alwad agored am geisiadau. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mehefin 2025. Mae’n rhaid bod modd cwblhau’r cynlluniau erbyn 31 Hydref 2025.

Dylid nodi mai grant dewisol yw Cynllun Gwella Strydlun a’i fod yn amodol ar asesiad am werth am arian a chymeradwyaeth gan Gyngor Sir Penfro. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy’n cyfarfod yn fisol, i ystyried ceisiadau sy’n bodloni’r safon.

Sylwer: Rhaid i geisiadau gael eu cwblhau’n llawn cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r panel, felly rhaid cadarnhau gofynion hanfodol megis arian cyfatebol, cydsyniad adeilad rhestredig (lle bo’n berthnasol) ac ati cyn i’r tîm grant baratoi’r cais i’w ystyried gan y panel.

Os bydd gormod o geisiadau am y cynllun, bydd y ceiswyr sy’n gymwys i barhau yn y broses gwneud cais yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd y ceiswyr sy’n gymwys i barhau yn y broses gwneud cais yn cael eu hysbysu trwy e-bost o fewn 14 diwrnod ar ôl i’r panel asesu’r cais. 

Bydd gofyn i’r ceiswyr llwyddiannus gael pob caniatâd angenrheidiol a chydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer, gan gynnwys iechyd a diogelwch, sy’n berthnasol i waith o’r fath.

Ni thelir cyllid ar gyfer gwaith ôl-weithredol, ac mae Cyngor Sir Penfro yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais.

 



6. Rheolau caffael – Cael dyfynbrisiau

Wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau, disgwylir i geiswyr gynnal y broses mewn modd sy’n sicrhau bod yn agored, gwerth am arian a thegwch, a rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel yr amlinellir yn yr adran hon.

Wrth ddarparu manylion costau i gefnogi’ch cais, sicrhewch fod cyfanswm costau’r prosiect yn cael eu darparu fel y gellir cyfrifo gwerth y grant yn briodol. Dylid cynnwys manylion ynghylch a ddylid ychwanegu TAW yn y dyfynbris hefyd.

  • Ar gyfer cynlluniau lle mae’r ceisydd yn cwblhau gwaith ei hun, rhaid cyflwyno copïau o dderbynebau’r holl ddeunyddiau i hawlio 80% o’r costau, hyd at uchafswm gwerth grant o £24,999. Rhaid i’r ceisydd gadw’r derbynebau gwreiddiol. Sylwer nad yw pryniannau arian parod yn gymwys i’w hystyried, a bydd angen tystiolaeth o daliad (trafodiad banc) wrth brosesu’r taliad grant.
  • Ar gyfer cynlluniau lle mae’r ceisydd yn defnyddio contractwr, rhaid darparu dyfynbris ysgrifenedig. Ar gyfer prosiectau sydd â chyfanswm gwerth amcangyfrifedig o hyd at £10,000 (£12,000 gan gynnwys TAW), gallwn ystyried ceisiadau ar sail un dyfynbris cyn belled ag y gellir dangos gwerth am arian.
  • Ar gyfer cynlluniau lle mae’r ceisydd yn defnyddio contractwr, rhaid darparu dyfynbris ysgrifenedig. Ar gyfer prosiectau sydd â gwerth amcangyfrifedig rhwng £10,000 (£12,000 gan gynnwys TAW) a £25,000 (£30,000 gan gynnwys TAW) gofynnwn am o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol i sicrhau’r gwerth gorau. Rhaid i’r dyfynbrisau fod yn seiliedig ar yr un fanyleb a’u gwerthuso ar sail tebyg am debyg.
  • Dylid cadw cofnod wedi’i ddogfennu o’r dyfynbrisiau, y broses werthuso a’r penderfyniad i’w dyfarnu.
  • Rhaid cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch dewis y cyflenwr enwebedig at ddibenion archwilio a hawlio. 

 

Osgoi gwrthdaro buddiannau wrth gaffael

Rydym yn cydnabod ei bod yn bosibl y bydd ceisydd, neu bobl sy’n gysylltiedig â nhw (megis perthnasau, partneriaid busnes neu ffrindiau), yn dymuno tendro am gontract sy’n cael ei gynnig gan y ceisydd.

Mae hyn yn dderbyniol, ond bydd angen i geiswyr sicrhau bod y broses dendro yn cael ei chynnal mewn modd agored, tryloyw a theg, fel yr amlinellir uchod. Ni ddylai’r broses roi unrhyw fantais i un unigolyn neu gwmni sy’n tendro dros unigolyn neu gwmni arall. Os oes gan geisydd / datblygwr neu unrhyw unigolyn sy’n gysylltiedig â nhw fuddiant mewn unrhyw un o’r cynigion posibl am gontract a gynigir:

  • Mae’n rhaid i’r ceisydd / datblygwr, yr unigolyn neu’r parti sydd â buddiant roi gwybod am y buddiant hwnnw yn ysgrifenedig.
  • Ni ddylai’r unigolyn neu’r parti hwnnw sydd â buddiant gymryd unrhyw ran o gwbl yn unrhyw un o’r gweithdrefnau gwerthuso tendrau.

 

 

7. Rheoli cymorthdaliadau

Mae’r cynllun hwn yn dod o dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022 Llywodraeth y DU ac yn cael ei weinyddu fel cymorth ariannol lleiaf.  Ni ddylai cyfanswm y cymorth ariannol lleiaf a geir dros gyfnod treigl o dair blynedd ariannol fod yn fwy na £315,000 fesul busnes. Cyfrifoldeb y ceisydd yw monitro lefel y cymorth ariannol lleiaf a gafwyd. Gofynnir i chi gadarnhau na fyddwch yn mynd uwchlaw’r lefel os bydd cynnig yn cael ei wneud. [Sylwer bod y terfyn cymorth ariannol lleiaf yn berthnasol ar lefel grŵp cwmni].

Bydd grantiau’n cael eu dyfarnu yn unol â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn unig.

 



8. Telerau ac amodau

Cynigir grantiau yn amodol ar gwblhau gwiriadau rheoli cymorthdaliadau a diwydrwydd dyladwy boddhaol, ac maent at ddiben y gwaith y manylir arno yn y pecyn llythyr cynnig yn unig, a fydd yn cael ei ddosbarthu i’r ceisydd ar ôl cymeradwyo’r dyfarniad.

Ni fydd grantiau’n cael eu cynnig na’u talu os yw’r busnes neu’r ceisydd mewn ôl-ddyledion gydag unrhyw daliad i unrhyw un o’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan mewn gweithredu’r cynllun.

Os bydd y cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn uniongyrchol i gyfrif banc busnes y ceisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbynneb neu dystiolaeth o bryniant a thaliad, h.y. cyfriflenni banc gwreiddiol wedi’u hargraffu neu ar-lein, ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant. Sylwer nad yw pryniannau arian parod yn gymwys i’w hystyried, a bydd angen tystiolaeth o daliad (trafodiad banc) wrth brosesu’r taliad grant.

Os caiff y gwaith ei gwblhau am lai na’r amcangyfrif cost y seiliwyd ein cynnig grant arno, telir y grant ar sail pro rata. Ni chynyddir y grant os bydd unrhyw orwariant.

Rhaid i’r ceisydd dderbyn telerau ac amodau’r grant trwy lenwi’r Ffurflen Derbyn Grant o fewn 30 diwrnod iddo ddod i law. Rhaid cwblhau’r holl wariant sy’n gysylltiedig â’r grant o fewn tri mis i ddyddiad y llythyr cymeradwyo, neu erbyn 31 Hydref 2025; pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf.

Rhaid cyflwyno hawliadau erbyn 10 Tachwedd 2025 fan bellaf. Ni roddir estyniad amser o ran cyflwyno hawliad. Anogir cyflwyno hawliadau cyn gynted ag y bo modd unwaith y bydd y prosiectau wedi’u cwblhau.

Os na fydd y prosiect yn mynd rhagddo o fewn y cyfnod a nodir yn y cynnig grant, bydd y cynnig grant yn dod i ben yn awtomatig. Rhaid gofyn am unrhyw amrywiad i’r telerau ac amodau a nodir yn y llythyr cymeradwyo a chytuno arno.

Rhaid i unrhyw newidiadau i gyflenwyr neu wariant sy’n wahanol i’r hyn a nodwyd yn y cais gael eu cymeradwyo gan y tîm grant cyn gwneud unrhyw bryniannau. Gall methu â cheisio cymeradwyaeth olygu na fydd y grant yn cael ei dalu am yr eitemau hynny.

Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio’r cyfrif banc busnes i brynu’r holl eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant. Anogir unig fasnachwyr a phartneriaethau i ddefnyddio eu cyfrif banc busnes ar gyfer pob pryniant sy’n gysylltiedig â’r grant. Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant. Mae eitemau a brynwyd gyda chardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i geiswyr ddangos tystiolaeth o’r trafodiad ar eu bil cerdyn credyd. Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio cardiau credyd y busnes i brynu eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant, yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr/cyfarwyddwyr.

Os bydd unrhyw newid i statws TAW y sefydliad, mae’r ceisydd yn gyfrifol am hysbysu Cyngor Sir Penfro ar unwaith oherwydd gallai hyn arwain at newid i gostau cymwys y grant.

Grant dewisol yw hwn sy’n daladwy ar ôl ei gwblhau, a’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno hawliadau fydd 10 Tachwedd 2025. Ni fydd hawliadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu talu. Caniatewch 28 diwrnod ar gyfer prosesu.

Bydd y ceisydd yn atebol am faint o waith a wneir ar ran y ceisydd. Ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â’r gwaith gan Gyngor Sir Penfro. Ni fydd y cyngor yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i eiddo, deunyddiau neu anafiadau i unigolion a achosir gan weithredoedd personol y ceisydd neu’r unigolyn/unigolion sy’n ymgymryd â’r gwaith ar eu rhan cyn, yn ystod nac ar ôl gwneud gwaith o’r fath.

Cyfrifoldeb y ceisydd yw sicrhau y ceir yr holl ganiatâd adeiladu neu ganiatâd cynllunio cyn i unrhyw waith gael ei wneud, gan nodi’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.

Bydd y ceisydd yn cymryd camau priodol ac ymarferol i sicrhau bod yr amgylchedd lle mae’r gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel er mwyn osgoi risg o anaf iddynt hwy eu hunain, a/neu bartïon eraill. Nid yw’r cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am weithredoedd y ceisydd na’u contractwr penodedig sy’n arwain at ddifrod neu anaf i unigolion neu eiddo. Sylwer, pan fydd contractwr yn cael ei gyflogi i gyflawni’r gwaith, mae’r contract rhwng y ceisydd a’r contractwr. Rhaid i bob contractwr sy’n gwneud gwaith gydymffurfio o ran treth.

Bydd y ceisydd yn gyfrifol am sicrhau bod yswiriant digonol yn cael ei gadw ar yr eiddo, y gwaith ac unrhyw ddeunyddiau / nwyddau fel rhan o’r prosiect. 

Bydd gofyn i’r ceiswyr llwyddiannus gwblhau’r gwaith cymeradwy mewn modd boddhaol ar neu cyn y dyddiad hawlio terfynol, gan ddarparu tystiolaeth ffotograffig a chopïau o anfonebau a phrawf talu, cyn bod taliad yn cael ei ryddhau. Mewn rhai achosion, bydd angen ymweliad safle cyn i’r taliad gael ei gymeradwyo.

Bydd yn ofynnol i’r ceiswyr llwyddiannus gwblhau’r gwaith cymeradwy mewn modd boddhaol, ac o fewn amserlen benodol.Gallai methu â chyflawni’r hyn yr ymrwymwyd iddo arwain at beidio â thalu’r grant.

Rhaid i’r ceiswyr llwyddiannus wneud cais am daliad o’r grant cymeradwy (drwy gyflwyno derbynebau am ddeunyddiau neu anfonebau contractwr, gyda thystiolaeth o wariant) pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, ac erbyn 10 Tachwedd 2025 ar yr hwyraf.

Nid yw pryniannau arian parod yn gymwys ar gyfer taliad grant, a bydd hawliadau yn cael eu prosesu dim ond ar ôl derbyn tystiolaeth o wariant trwy brawf o daliad(au) banc.

Rhaid cynnal y gwaith a wneir, sy’n defnyddio’r cyllid hwn, am o leiaf 12 mis yn dilyn taliad terfynol y grant, neu 31 Mawrth 2026; pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf.

Bydd gan y cyngor yr hawl i gyhoeddi swm y cyllid, cyfeiriad yr eiddo a disgrifiad byr o ddibenion y cyllid heb gydsyniad y derbynnydd at ddibenion hyrwyddo’r cynllun. Dylai unrhyw hyrwyddiad o’r gwaith a wneir gan y ceisydd gydnabod cefnogaeth y cyngor trwy ganllawiau y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae’n ofynnol i geiswyr llwyddiannus ddeall bod y cyngor yn ddarostyngedig i ofynion y Cod Ymarfer ar Fynediad at Wybodaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (y Cod), Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, a Deddf Diogelu Data 2018.

Bydd gan y cyngor yr hawl i gyhoeddi swm y cyllid, enw’r derbynnydd a disgrifiad byr o ddibenion y cyllid heb gydsyniad y derbynnydd mewn perthynas ag unrhyw gais rhyddid gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Mewn perthynas ag unrhyw gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol sy’n gofyn am unrhyw ddatgeliad o ddogfennau’r derbynnydd, bydd y cyngor yn ceisio barn y derbynnydd ar ddatgeliad o’r fath, a bydd yn cymryd y safbwyntiau hynny i ystyriaeth wrth gydymffurfio â’i rwymedigaethau statudol.  

 



9. Ad-dalu cronfeydd grant

Rhaid ad-dalu’r grant yn llawn ar alw:

  • Os canfyddir bod y ceisydd wedi camliwio unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â’r cais.
  • Os yw’r ceisydd, wedi hynny, yn achosi newid sylweddol i’r cynllun cymeradwy, o’r manylion a ddarparwyd gennych yn eich cais, o fewn oes economaidd y gwaith.
  • Os ydyw’n dod i’r amlwg bod grant wedi’i dalu ac eithrio yn unol â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, bydd yn cael ei adennill gyda llog.

 



10. Diogelu data a phreifatrwydd

Cyngor Sir Penfro yw’r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol yr ydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth wrth arfer ein hawdurdod swyddogol, ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Sylwer y gallwn wirio’r data y byddwch yn eu rhoi yma yn erbyn setiau data eraill y cyngor a Llywodraeth y DU er mwyn dilysu’ch cais ac atal twyll. I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir Penfro yn trin eich data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol.

Bydd yr wybodaeth bersonol yr ydym wedi’i chasglu gennych yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac er mwyn dilysu pwy ydych chi. Os caiff twyll ei ganfod, gallai gwasanaethau penodol, cyllid neu gyflogaeth gael eu gwrthod i chi. Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn ni a’r asiantaethau atal twyll hyn yn defnyddio’ch gwybodaeth, a gwybodaeth am eich hawliau diogelu data, ar gael yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd).

 



11. Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais, sicrhewch eich bod wedi darllen y canllawiau uchod yn drylwyr ac yn deall cwmpas y grant. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn gwneud cais, cysylltwch â’r tîm gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.

Bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ategol yn dilyn asesiad cychwynnol o’ch cais. Ar ôl i’ch cais ddod i law, bydd y tîm yn cysylltu â chi i ofyn am y canlynol:

  • Gwybodaeth diwydrwydd dyladwy (dogfennau adnabod / prawf cyfeiriad / prawf cyfrif banc).
  • Cadarnhad o waith arfaethedig a chopïau o ddyfynbris(iau) perthnasol.
  • Cadarnhad, os bydd y cais yn llwyddiannus, y bydd taliad y dyfarniad yn cydymffurfio â’r rheoliadau Rheoli Cymorthdaliadau (fel y manylir uchod). Cofiwch fod trothwy’r cymorth ariannol lleiaf yn berthnasol ar lefel grŵp cwmni.

 

I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r tîm ar spfstreetenhancement@pembrokeshire.gov.uk

 

Sylwer nad yw pryniannau arian parod yn gymwys i’w hystyried, a bydd angen tystiolaeth o daliad (trafodiad banc) wrth brosesu’r taliad grant, os bydd eich cais yn llwyddiannus.

 

 

 

 

 

 

 

 

ID: 13022, adolygwyd 15/05/2025