Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Grant cychwyn busnes - Canllawiau a sut i wneud cais

Ar y dudalen hon:

1. Cyflwyniad

2. Y cynnig

3. Cymhwysedd

4. Diben y grant

5. Allbynnaur

6. Offer ail-law

7. Ceisiadau

8. Rheolau caffel

9. Y gymraeg

10. Rheoli cymorthdaliadau

11. Ar ôl cwblhau - Y telerau ac amodau

12. Ad-dalu arian

13. Diogelu data

14. Sut i ymgeisio

 

Canllawiau yn unig yw’r wybodaeth a ddangosir yma, ac mae telerau ac amodau cyfreithiol y grant wedi’u nodi yn llythyr cynnig y ceisiadau cymeradwy. 

Mae’r canllawiau ar ffurf ddrafft o hyd ac yn agored i newid.



1. Cyflwyniad

Fel rhan o’u hymrwymiad parhaus i ddatblygu economaidd a chefnogi busnesau mae Cyngor Sir Penfro yn darparu Grant Cychwyn Busnes Sir Benfro a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Nod yr ymyriad grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o’u datblygiad: i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys drwy rwydweithiau lleol.

Nod y Gronfa Cychwyn Busnes yw cefnogi ymgeiswyr i greu busnesau newydd yn y sir, gan arwain yn uniongyrchol at greu swyddi, a thrwy wneud hynny, gwella’r economi leol.

Bydd y gronfa yn gynllun grant busnes, a fydd yn cynnwys cymorth tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (heb gynnwys costau rhedeg parhaus) lle mae swyddi newydd yn cael eu creu a/neu eu diogelu oherwydd y cymorth ariannol.

Mae manylion y canllawiau ymgeisio ar ffurf ddrafft ac yn agored i newid.

 

2. Y cynnig

  • Mae grantiau ar gael rhwng £1,000 a £10,000.
  • Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys NEU uchafswm o 
  • £5,000 am bob swydd sy’n cael ei chreu, pa un bynnag sydd leiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd i gael mynediad i’r gronfa). Gellir cynnwys perchennog y busnes fel swydd newydd.
  • Yr isafswm grant a ddyfernir yw £1,000 (yn seiliedig ar o leiaf un swydd newydd ran-amser yn cael ei greu), a’r dyfarniad grant uchaf fesul busnes yw £10,000 (yn seiliedig ar o leiaf ddwy swydd yn cael eu creu).
  • Rydym yn annog bod yr holl swyddi sy’n cael eu creu gyda chymorth y grant yn cael y cyflog byw gwirioneddol (yn agor mewn tab newydd).
  • Bydd y gronfa yn cefnogi entrepreneuriaid newydd gyda’u dyheadau i gychwyn busnes trwy ddarparu cyfraniad ariannol tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a/neu wariant refeniw arbenigol, a fydd naill ai’n galluogi prosiectau buddsoddi cyfalaf pellach neu gynnig cychwyn busnes penodol 
  • a all olygu costau refeniw uchel.
  • Ystyrir dwy swydd ran-amser fel un swydd gyfwerth ag amser llawn. Os ydych ond yn creu neu’n diogelu swydd ran-amser (lleiafswm o 16 awr yr wythnos) dim ond ar sail pro rata y bydd y grant yn cael ei thalu, h.y. uchafswm o £2,500 ar gyfer swydd ran-amser.
  • Dim ond unwaith y gall pob busnes wneud cais am y Gronfa Cychwyn Busnes, ond gallant wneud cais am Gronfa Twf Busnes Sir Benfro ar gyfer prosiectau ar wahân os byddant yn tyfu’r busnes ac yn creu rhagor o swyddi yn y dyfodol. Mae’n rhaid i’r deilliannau o’r gronfa gychwynnol, h.y. dechrau masnachu a’r swyddi a grëwyd, gael eu cyflawni cyn y gellir ystyried y cais am y gronfa twf.
  • Mae’n rhaid hawlio pob swydd a grëwyd fel rhan o’r grant o fewn tri mis i ddyddiad y taliad grant terfynol, neu erbyn 30 Tachwedd 2025, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf.
  • Mae’n bwysig nodi bod grantiau’n cael eu talu’n ôl-weithredol. Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr arian digonol i brynu’r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Penfro yn dilyn y broses hawlio (gweler y telerau ac amodau yn y ddogfen hon).
  • Mae’n rhaid cyflwyno’r ddau hawliad o fewn tri mis i ddyddiad y llythyr cynnig, neu erbyn 31 Hydref 2025, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf.        I gefnogi llif arian, bydd y tîm grant yn ystyried cyflwyno dau hawliad, ond mae’n rhaid ceisio cytundeb ymlaen llaw gan y cyngor.
  • Mae’n rhaid i bob taliad a wnaed ar gyfer gwariant cymwys gael ei ddangos trwy gopi o’r anfoneb a phrawf o’r treuliau. (Dim ond trwy ddarparu cyfriflen banc sy’n dangos taliad llawn yn mynd allan o’r cyfrif i’r cyflenwr y gellir dangos tystiolaeth o’r treuliau).



3. Cymhwysedd

Ariennir Grant Cychwyn Busnes Sir Benfro gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac fe’i darperir gan Gyngor Sir Penfro. Felly, mae’r grant dim 

ond ar gael i grwpiau neu unigolion sydd â chynigion dichonadwy ar gyfer busnesau newydd a fydd yn cael eu lleoli yn Sir Benfro, ac yn gweithredu o fewn un o’r sectorau cymwys neu’n eu gwasanaethu. Mae’r grant ar gael ar gyfer busnesau cyn cychwyn yn unig (nad ydynt yn masnachu eto).

Bydd modd gwneud cais am y grant rhwng Ebrill 2025 a Medi 2025, neu hyd nes y bydd y gronfa wedi’i dyrannu’n llawn.

Mae cymorth wedi’i anelu’n bennaf at fusnesau newydd sy’n gweithredu yn y sectorau twf a sylfaen canlynol neu’n gwasanaethu’r sectorau hyn:

  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
  • Adeiladu
  • Y diwydiannau creadigol
  • Ynni a’r amgylchedd
  • Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
  • Technoleg gwybodaeth a thelathrebu
  • Gwyddorau bywyd
  • Bwyd a diod
  • Twristiaeth
  • Manwerthu
  • Gofal

Fodd bynnag, bydd ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos yn amodol ar eu cyfraniad posibl a’u gwerth i’r economi leol, e.e. lle maent yn creu swyddi yng nghanol prif drefi a threfi llai y sir, ac mewn ardaloedd gwledig, a lle maent yn cysylltu â phrosiectau strategol allweddol.

Nid yw’r sectorau / busnesau / prosiectau canlynol yn gymwys am gymorth:

  • Cynhyrchu amaethyddiaeth sylfaenol
  • Coedwigaeth
  • Pysgota
  • Gwasanaethau statudol, e.e. iechyd ac addysg sylfaenol.
  • Gweithdrefnau iechyd mewnwthiol heb eu rheoleiddio
  • Unrhyw fusnes sy’n cyflogi mwy na 250 o weithwyr
  • Unrhyw fusnes sydd â throsiant o fwy na £50 miliwn
  • Unrhyw fusnes neu brosiect grant arfaethedig heb ganiatâd cynllunio angenrheidiol

Mae’n rhaid prynu a hawlio’r holl wariant sy’n gysylltiedig â’r grant o fewn tri mis i ddyddiad y llythyr cymeradwyo, neu ddim hwyrach na 31 Hydref 2025, pa un bynnag sydd gynharaf. Ni roddir estyniadau amser o ran cyflwyno ceisiadau. Mae’n rhaid creu’r busnes arfaethedig, a’r swyddi cysylltiedig, o fewn chwe mis i daliad terfynol y grant, neu 30 Tachwedd 2025, pa un bynnag yw’r cynharaf. Bydd y busnes a’r swyddi a grëwyd yn cael eu monitro a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni’r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at ad-dalu’r arian grant.

Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Penfro yn cadw’r hawl i fonitro a chynnal tystiolaeth ymhen un flwyddyn, tair blynedd a phum mlynedd o gael cais am grant.

 

4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio’r grant ar ei gyfer

Bydd y grant yn gymwys ar gyfer gwariant cyfalaf a/neu refeniw mewn prosiect cymeradwy, a gall gynnwys y canlynol:

Gwariant cyfalaf:

  • Prynu offer newydd neu ail-law, e.e. offer, peiriannau, offer arbenigol, ac ati. Sylwch y gallai offer gynnwys eitemau megis wagenni fforch godi, llwythwyr telesgopig, peiriannau cloddio, ac ati. Nid yw cerbydau cyffredinol, megis faniau a cheir yn gymwys. **Gweler y nodyn isod ynglŷn â phrynu eitemau ail-law.
  • Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e. llochesi, gasebos, ac ati. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r caniatadau perthnasol, os yw’n briodol, h.y. caniatâd cynllunio, trwyddedau, ac ati.
  • Caledwedd TG a thelathrebu os yw’n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyflawni’r prosiect.
  • Gosodiadau a ffitiadau, dodrefn, ac offer swyddfa cyffredinol ac ati fel rhan o symud i swyddfa wahanol neu i swyddfa newydd.

Gwariant refeniw arbenigol:

  • Dylech fod wedi'ch hyfforddi ymlaen llaw/wedi cymhwyso yn y busnes/gwasanaeth yr ydych yn bwriadu ei ddarparu wrth gychwyn, ond efallai y bydd rhywfaint o hyfforddiant ategol yn gymwys.
  • Comisiynu / gosod peiriannau
  • Meddalwedd arbenigol
  • Creu gwefannau, e-fasnach / siopau ar-lein, apiau, ac ati
  • Mae’n rhaid creu gwefannau a datblygiadau e-fasnach sy'n gysylltiedig â’r grant yn ddwyieithog
  • Deunyddiau hyrwyddo a marchnata fel rhan o gynllun marchnata cyflawn (a asesir fesul achos)
  • Mae’n rhaid cynhyrchu pob deunydd marchnata a deunydd hyrwyddo yn ddwyieithog
  • Ymgynghorwyr arbenigol (a asesir fesul achos)
  • Tystysgrif sicrhau ansawdd (a asesir fesul achos)
  • Taliadau sy’n gysylltiedig â danfon unrhyw offer cyfalaf



5. Yr hyn na allwch ddefnyddio’r grant ar ei gyfer

Mae gwariant anghymwys yn cynnwys y canlynol:

  • Gwariant refeniw cyffredinol, megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcas / prynu ar les
  • Cerbydau cyffredinol
  • Gwaith adeiladu mawr (yn amodol ar achos busnes ar gyfer gwaith ategol i eitemau a gymeradwywyd)
  • Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno (yn amodol ar waith ategol achos busnes)
  • Amnewid gosodiadau a ffitiadau presennol (yn amodol ar waith ategol achos busnes)
  • Ffioedd a chostau ar hap yr ymrwymwyd iddynt neu a wariwyd cyn cynnig a derbyn y grant
  • Costau cyfalaf gweithio megis stoc, rhent, ardrethi, gweinyddu
  • Tystysgrifau, trwyddedau, aelodaeth a chysylltiad â chyrff llywodraethu, ac ati
  • Costau unrhyw waith sy’n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, yn cynnwys caniatâd cynllunio
  • Astudiaethau dichonoldeb
  • Os yw’r busnes wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, ni fydd TAW yn gymwys. Bydd rhaid i gwmnïau nad ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer TAW dalu TAW.
  • Ni ddylid gwario unrhyw gyllid cyn bod y grant yn cael ei gymeradwyo, gan na ellir dyfarnu’r grantiau yn ôl-weithredol.
  • Ni fydd pryniannau arian parod (neu ddefnyddio arian parod / cardiau rhodd) yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.
  • Ni fydd eitemau a brynir drwy brydles, hurbwrcas, cytundeb credyd estynedig / les cyllid yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.
  • Ffioedd proffesiynol sy’n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol, yn cynnwys cynlluniau busnes / ysgrifennu cynigion ar gyfer ardaloedd gwella busnes, ac unrhyw ffioedd sy’n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau.
  • Unrhyw fusnes neu brosiect grant arfaethedig heb ganiatâd cynllunio angenrheidiol.



6. Offer ail-law

Mae costau prynu offer ail-law yn gymwys am grant o dan yr amodau canlynol:

  • Mae’n rhaid i werthwr yr offer ddarparu datganiad yn nodi eu tarddiad, a chadarnhau na chawsant eu prynu ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd diwethaf gyda chymorth grantiau cenedlaethol neu grantiau Ewropeaidd.
  • Ni ddylai pris yr offer fod yn fwy na’i werth ar y farchnad a rhaid iddo fod yn llai na chost offer newydd tebyg.
  • Mae’n rhaid i’r offer feddu ar y nodweddion technegol sy’n angenrheidiol ar gyfer y gweithrediad, a chydymffurfio â normau a safonau cymwys, e.e. iechyd a diogelwch.



7. Ceisiadau ac asesu

Bydd pob cais sydd wedi’i gwblhau yn cael ei ystyried ar sail y cyntaf i’r felin hyd nes y bydd y gronfa wedi’i dyrannu’n llawn.

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn allbynnau a deilliannau’r prosiect grant, h.y.

  • Cymhareb gwerth am arian / grant fesul swydd a grëwyd, a buddsoddiad sector preifat a ysgogwyd gan y grant, yn ogystal â hyfywedd y cynllun busnes i gefnogi’r cynlluniau cychwyn a thwf cynaliadwy.
  • Nifer y swyddi a grëwyd.

Bydd y datganiad o ddiddordeb wedyn yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd, ac os caiff ei gymeradwyo, fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn.

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd y canlynol:

  • Ffurflen gais
  • Cynllun busnes (dylai’r cynllun busnes gynnwys adran ar sut y mae’r busnes yn gweithredu arferion busnes cynaliadwy)
  • Rhagolygon dwy flynedd (llif arian a/neu elw a cholled)

Dylid nodi bod Cronfa Cychwyn Busnes Sir Benfro yn grant yn ôl disgresiwn ac yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Penfro. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy’n cyfarfod yn fisol i ystyried ceisiadau sy’n cyrraedd y safon erbyn y dyddiad cau penodol.

Sylwer – Bydd angen i geisiadau fod yn barod i’w symud ymlaen cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r panel; felly, rhaid cadarnhau gofynion hanfodol megis arian cyfatebol, caniatâd cynllunio (lle bo’n berthnasol) ac ati cyn i’r tîm grant baratoi’r cais i’w ystyried gan y panel. 



8. Rheolau caffael – cael dyfynbrisiau

Canllawiau Caffael Cronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Penfro 2025-2026  ar gyfer gwerth yn is na £90,000

(yn cynnwys TAW) i’w ddefnyddio gyda chynlluniau grant angori y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Benfro

Cyn caffael nwyddau a gwasanaethau a gynhwysir yn eich ceisiadau grant, disgwylir i ymgeiswyr gynnal y broses o roi dyfynbris mewn modd sy’n sicrhau didwylledd, gwerth am arian a thegwch, a rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel y’u hamlinellir yn yr adran hon.

Cost yr eitem neu gontract â gwerth cyfanredol o hyd at £999 (yn cynnwys TAW)

Mae’n rhaid cael un dyfynbris a’i gadw.

Mae’n rhaid sicrhau’r gwerth gorau am arian a chymryd gofal rhesymol i gael nwyddau neu wasanaethau o ansawdd priodol am bris cystadleuol.

Cost yr eitem neu gontract â gwerth cyfanredol rhwng £1,000 ac £11,999 (yn cynnwys TAW)
  • Mae’n rhaid ceisio o leiaf ddau ddyfynbris o ffynonellau cystadleuol. Mae’n rhaid i’r dyfynbrisau fod yn seiliedig ar yr un manylion a’u gwerthuso ar sail tebyg am debyg.
  • Mae’n rhaid sicrhau’r gwerth gorau am arian a chymryd gofal rhesymol i gael nwyddau neu wasanaethau o ansawdd priodol am bris cystadleuol.
Cost yr eitem neu gontract â gwerth cyfanredol rhwng £12,000 a £29,999 (yn cynnwys TAW)
  • Rhaid ceisio o leiaf dri dyfynbris o ffynonellau cystadleuol. Mae’n rhaid i’r dyfynbrisau fod yn seiliedig ar yr un manylion a’u gwerthuso ar sail tebyg am debyg.
  • Mae’n rhaid sicrhau’r gwerth gorau am arian a chymryd gofal rhesymol i gael nwyddau neu wasanaethau o ansawdd priodol am bris cystadleuol.
Gwerth y contract £30,000 – £89,999 (yn cynnwys TAW)
  • Ceisiwch dri dyfynbris cystadleuol gan ddefnyddio dyfynbrisiau cyflym GwerthwchiGymru os yw’n gorff cyhoeddus.
  • Os nad yw’n gorff cyhoeddus, dangoswch fod tri dyfynbris wedi’u cael o’r farchnad agored. I wneud hyn, rhaid i chi hysbysebu eich gofyniad yn y wasg ranbarthol neu arbenigol gan nodi dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a thrwy hynny roi dyfynbris cyfle i’r farchnad agored. Dylai’r dyddiad cau cynharaf fod 14 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi, ond gallai hyn fod yn hirach os yw’r eitemau’n arbenigol neu’n gymhleth, neu os ydych yn ystyried bod cyfnod rhybudd hirach yn briodol.
  • Mae’n rhaid cofnodi’n ddogfennol y dyfynbrisiau a geisir, y broses werthuso a’r penderfyniad i ddyfarnu.
Osgoi gwrthdaro buddiannau gyda dyfynbrisiau

Rhaid esbonio unrhyw wrthdaro buddiannau canfyddedig neu wirioneddol rhyngoch chi a’r cyflenwyr y gofynnir iddynt ddarparu dyfynbrisiau, er enghraifft, cael dyfynbrisiau gan gwmnïau cysylltiedig, yn y dogfennau ategol. Lle bo gwrthdaro posibl, rhaid cymryd camau lliniaru a’u dogfennu.

 

9. Safonau’r Gymraeg

Pan fo’r cyllid yn cynnwys neu’n ymwneud â darparu gwasanaethau neu ddeunyddiau ysgrifenedig (gan gynnwys arwyddion a gwybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi ar-lein) yng Nghymru, mae’n rhaid eu darparu mewn modd nad yw’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

10. Rheoli cymorthdaliadau 

Mae’r cynllun hwn yn dod o dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 gan Lywodraeth y DU, sydd mewn grym ar hyn o bryd. Ni ddylai cyfanswm yr isafswm cymorth ariannol a geir dros gyfnod treigl o dair blynedd ariannol fod yn fwy na £315,000 fesul busnes*. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw monitro lefel yr isafswm cymorth ariannol sy’n dod i law. Gofynnir i chi GADARNHAU nad aethpwyd y tu hwnt i hyn os bydd

cynnig yn cael ei wneud. [*Sylwch fod trothwy’r isafswm cymorth ariannol yn berthnasol i lefel grwpiau’r cwmni.]

Rhaid i bob cynnig hefyd ystyried sut y byddant yn cyflawni yn unol â’r trefniadau rheoli cymorthdaliadau a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth y DU (yn agor mewn tab newydd).

Pan nad yw ymgeiswyr yn dangos, yn ddigonol, bod y prosiect arfaethedig yn cydymffurfio â chyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU, efallai y caiff ei ystyried yn anghymwys, a gallai eich cais gael ei wrthod.

 

11. Ar ôl cwblhau – telerau ac amodau

Dylid nodi bod Cronfa Cychwyn Busnes Sir Benfro yn grant yn ôl disgresiwn ac yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Penfro.

Gellir cymryd y grant yn ôl pe bai’r busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu, yn adleoli neu’n gwerthu’r eitemau a brynwyd fel rhan o’r grant o fewn pum mlynedd i’w ddyfarnu.

Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio’r cyfrif banc busnes i brynu’r holl eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant. Anogir unig fasnachwyr a phartneriaethau i ddefnyddio eu cyfrif banc busnes ar gyfer pob pryniant sy’n gysylltiedig â’r grant.

Mae’n bwysig nodi bod grantiau’n cael eu talu’n ôl-weithredol. Felly, mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr arian digonol i brynu’r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Penfro. 

Os bydd y cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn syth i gyfrif banc busnes yr ymgeisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbynneb neu dystiolaeth o bryniant a thaliad, h.y. datganiadau banc printiedig gwreiddiol neu ar-lein

ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant.

Rhaid i unrhyw newidiadau i gyflenwyr neu wariant sy’n wahanol i’r hyn a nodwyd yn y cais gael eu cymeradwyo gan y tîm grant cyn gwneud unrhyw bryniannau. Gall methu â cheisio cymeradwyaeth olygu na fydd y grant yn cael ei dalu am yr eitemau hynny.

Bydd angen tystiolaeth ffotograffig o’r holl eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant i gefnogi’r hawliad. Mewn rhai achosion, bydd angen cynnal ymweliad safle.

Rhaid i’r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau’r grant trwy gwblhau’r hysbysiad o gymeradwyaeth a’r telerau ac amodau o fewn 30 diwrnod o’u cael. Rhaid cwblhau’r holl wariant sy’n gysylltiedig â’r grant o fewn tri mis i ddyddiad y llythyr cymeradwyo, neu erbyn 30 Hydref 2025, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf. Ni 

roddir estyniad ar gyfer cyflwyno’r hawliad.

Rhaid cyflawni / cynnal y swydd, neu swyddi, sydd wedi’u creu ac sy’n gysylltiedig â’r prosiectau o fewn chwe mis i daliad olaf y grant, neu erbyn 30 Tachwedd 2025, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf. Bydd y busnes a’r swyddi a grëwyd a/neu a ddiogelwyd yn cael eu monitro, a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni’r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at ad-dalu’r arian grant.

I bob diben yn ymwneud â’r grant, bydd yr hawliad a thystiolaeth yn cael eu monitro gyda rhybudd ymlaen llaw ymhen un flwyddyn, tair blwyddyn a phum mlynedd o ddyddiad dyfarnu’r grant.

Os na fydd y prosiect yn mynd rhagddo o fewn y cyfnod a nodir yn y cynnig grant, 

bydd y cynnig grant yn dod i ben yn awtomatig. Rhaid gofyn am unrhyw amrywiad i’r telerau ac amodau a nodir yn y llythyr cymeradwyo a chytuno arno.

Ni fydd pryniannau arian parod (neu ddefnyddio cardiau rhodd / arian parod) yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.

Mae eitemau a brynwyd gyda chardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o’r trafodiad ar eu bil cerdyn credyd. **Mae’n rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio’r cardiau credyd busnes i brynu eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr neu’r cyfarwyddwyr.

Ni fydd grantiau’n cael eu cynnig na’u talu os yw’r busnes neu’r ymgeisydd mewn ôl-ddyledion gydag unrhyw daliad i unrhyw un o’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan mewn gweithredu’r cynllun. 

 

12. Ad-dalu cronfeydd grant

Bydd cyllid yn cael ei atal a/neu, i’r graddau y mae taliad wedi’i wneud, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu cyllid naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol, gan gynnwys os:

1. a) bu gordaliad cyllid;

2. b) yn ystod ei oes economaidd, mae’r prosiect yn mynd trwy newid sylweddol fel bod yr arian yn cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw’r rhai a nodir yn y cais, neu’n destun newid perchennog heb hysbysu Cyngor Sir Penfro.

Yr oes economaidd yw’r cyfnod hyd at bum mlynedd o ddyddiad taliad olaf y grant, a bydd angen ad-dalu’r cyllid fel a ganlyn:

  • O fewn un lwyddyn – ad-dalu’r cyllid yn llawn
  • O fewn dwy flynedd – ad-dalu 80% o’r cyllid
  • O fewn tair blynedd – ad-dalu 60% o’r cyllid
  • O fewn pedair blynedd – ad-dalu 40% o’r cyllid
  • O fewn pum mlynedd – ad-dalu 20% o’r cyllid
  • Ar ôl pum mlynedd – dim cyllid i’w ad-dalu

Yr ad-daliadau gofynnol lleiaf yw’r hyn a nodir uchod.

Os na chaiff y swyddi eu creu a/neu eu diogelu, mae gan y cyngor sir yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu’n llawn.

Mae’n rhaid ad-dalu’r grant yn llawn ar gais:

  • Os canfyddir bod yr ymgeisydd wedi camliwio mewn cysylltiad â’r cais
  • Os na chaiff y swyddi eu creu a/neu eu diogelu, yna mae gan y cyngor sir yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu’n llawn

Mae’n rhaid ad-dalu’r grant yn llawn ar gais:

  • Os canfyddir bod yr ymgeisydd wedi camliwio mewn cysylltiad â’r cais
  • Os nad yw’r busnes yn masnachu rhagor
  • Os bu newid sylweddol i’r manylion a ddarparwyd gennych yn eich cais
  • Os gwerthir unrhyw eitem a brynwyd gyda’r arian grant
  • Os bydd y busnes yn newid perchnogaeth 
  • Os bydd y cwmni yn gadael Sir Benfro neu’n cael ei werthu



13. Diogelu data a phreifatrwydd

Cyngor Sir Penfro yw’r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth wrth arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Noder y gallwn wirio’r data y byddwch yn eu rhoi yma yn erbyn setiau data eraill y cyngor a Llywodraeth y DU er mwyn dilysu’ch cais ac atal twyll. I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir Benfro yn trin eich data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol. 

Bydd yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio pwy ydych. Os canfyddir twyll, efallai y gwrthodir rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi. Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn ni a’r asiantaethau atal twyll hyn yn defnyddio’ch gwybodaeth, a gwybodaeth am eich hawliau diogelu data, ar gael yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd).

 

14. Sut i wneud cais

Cyn i ni ofyn i chi wneud cais llawn, bydd angen i chi gyflwyno datganiad o ddiddordeb sy’n amlinellu eich cynnig busnes a’ch costau. Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Eich manylion
  • Manylion y busnes a disgrifiad o’i brif weithgaredd
  • Costau dangosol y prosiect
  • Manylion unrhyw gyllid / arian ychwanegol

 

Noder na ddylech ddechrau ar eich prosiect cyn i’r cyllid gael ei ddyfarnu. Bydd unrhyw waith a ddechreuir / costau yr eir iddynt cyn dyfarnu’r cyllid yn cael eu hystyried yn anghymwys.

Mae ‘Mynegiadau Diddordeb (EOI) ar gyfer y Grantiau Cefnogaeth Busnes ar GYFRAITH ar hyn o bryd oherwydd y nifer fawr o ddiddordeb a'r adnoddau cyfyngedig.

 

ID: 9830, revised 21/07/2025