Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Rhaglen Gwella Strydoedd

 

**Mae ceisiadau bellach wedi cau**

 

Cynllun Paentio Strydlun Sir Benfro (2024)

 

Canllawiau a sut i wneud cais

 

Ar y dudalen hon:

 

  1. Cyflwyniad
  2. Cymhwysedd
  3. Ar gyfer beth allwch chi ddefnyddio'r grant?
  4. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
  5. Cais ac Asesu 
  6. Rheolau Caffael
  7. Rheoli Cymorthdaliadau
  8. Ôl-gwblhau – Telerau ac Amodau
  9. Adennill arian
  10. Diogelu Data
  11. Sut i wneud cais

 

Mae’r canllawiau yn amodol ar newid.

 


1. Cyflwyniad

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i Adfywio yn Sir Benfro, rydym yn darparu'r Cynllun Paent Strydlun sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Nod yr ymyriad grant yw gwella golwg eiddo canol trefi er mwyn annog ymwelwyr a chefnogi busnesau a sefydliadau i greu swyddi newydd a chryfhau'r cymysgedd o fusnesau yng nghanol y trefi wrth wella golwg gyffredinol yr ardal gyfagos.

Mae'r Cynllun Paent Strydlun yn cynnig grant o 80%, hyd at uchafswm gwerth grant o £4,999, tuag at gyfanswm gwariant ailbeintio ffasadau eiddo allanol canol trefi ym mharthau canol tref Abergwaun ac Wdig, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro, Dinbych-y-pysgod, Crymych, Llanusyllt, Tyddewi a Arberth.

 


2. Cymhwysedd

Bydd y gronfa'n cefnogi perchnogion eiddo cymwys a thenantiaid/lesddeiliaid sydd â chaniatâd ysgrifenedig perchennog yr eiddo.

Mae'r Cynllun Paent Strydlun yn cynnwys ardaloedd canol y trefi canlynol: Abergwaun ac Wdig, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro, Dinbych-y-pysgod, Crymych, Llanusyllt, Tyddewi a Arberth. Cysylltwch â ni i ddarganfod ardal gymwys y camau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Rhaid i ffasâd yr eiddo fod yn weladwy o'r stryd y mae'r eiddo wedi'i leoli arni.

Rhaid i Daliadau Awdurdod Lleol sy'n ddyledus gan ymgeiswyr fod yn gyfredol.

 


3. Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio'r grant?

Dyfernir y grant am baentio blaen ac unrhyw ochrau eraill sy'n wynebu'r stryd pob adeilad, wedi’i feddiannu neu yn wag o fewn ffiniau canol y trefi a nodir uchod a gellir ei ddefnyddio ar gyfer prynu deunyddiau (primer, tangôt ar gyfer wyneb o garreg a phaent ar gyfer wyneb o garreg allanol) neu tuag at gost defnyddio contractwr. Gwerthfawrogir y gallai fod angen ystyried ffactorau ychwanegol ar gyfer rhai eiddo ac o'r herwydd bydd y costau hyn, fel sgaffaldiau a gwaith paratoi, yn cael eu hystyried fel rhan o'r cais.

Gall ymgeiswyr ofyn am gyllid ar gyfer deunyddiau yn unig a bydd angen iddynt gyflwyno copïau o dderbynebau wrth wneud cais am grant am 80% o'r costau hyn. Pan ddefnyddir contractwr, bydd lefel y grant yn seiliedig ar dalu 80% o gostau'r cyflenwr a ddewiswyd a darparu dyfynbris ysgrifenedig i gadarnhau'r costau.

 

Uchafswm y grant fesul eiddo yw £4,999.

Dim ond unwaith y gall ymgeiswyr i'r Cynllun Paentio Strydlun wneud cais am bob eiddo, ond gallant hefyd elwa o geisiadau annibynnol a wneir i weithgareddau eraill y Gronfa Ffyniant Gyffredin gan gynnwys y Grant Creu Lleoedd, Grant Twf Busnes Sir Benfro neu'r Grantiau Cymunedau Cynaliadwy. Fodd bynnag, nodwch yr adran Rheoli Cymhorthdal isod.

 

Canllawiau Ailbeintio Adeiladau Hanesyddol

Mae angen Caniatâd Adeilad rhestredig i ailbeintio adeiladau rhestredig mewn lliw gwahanol. Nid oes angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer ailbeintio lliw tebyg neu gyda lliw agos, fel gwyn i lwydwyn.

Nid oes angen caniatâd cynllunio ar adeiladau nad ydynt wedi'u rhestru mewn Ardaloedd Cadwraeth, os ydynt yn anheddau, i ailbeintio neu newid eu lliw, ond efallai y bydd angen caniatâd cynllunio ar adeiladau ond bydd yn dibynnu faint y bydd y lliw yn newid.

Dylai lliwiau waliau allanol fod yn lliwiau pastel meddal sy'n cyd-fynd â phigment cerrig naturiol a daear yn Sir Benfro. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gwyn a llwydwyn
  • Llwyd golau
  • Llwydfelyn
  • Ocr melynaidd
  • Melyn golau
  • Pinc golau
  • Pinc-llwyd

Mae llawer o'r lliwiau hyn ar gael o ystodau paent masnachol fel Dulux Heritage neu Farrow & Ball neu'r Little Greene Paint Company a gellir cyfateb lliw yn eang.

Dylid paentio ffenestri pren yn y canlynol:

  • Llwyd Golau
  • Llwydwyn
  • Du
  • Coch Tywyll

Gellir paentio drysau ffrynt pren, ffasgiâu, a blaen siopau mewn lliwiau pastel neu liwiau sylfaenol:

  • Glas Tywyll
  • Gwyrdd Tywyll
  • Coch Tywyll
  • Llwyd
  • Du

Mae'r lliwiau hyn hefyd yn berthnasol i osodiadau metel a ffitiadau fel pibellau dŵr glaw, gwteri a rheiliau.

Os oes angen, gellir ystyried paent calch fesul achos.

Dylid trwsio arwynebau yn ôl yr angen ac yna eu glanhau a'u paratoi cyn eu hailbeintio.

Nid yw llawer o frandiau paent cerrig cyffredin yn anadladwy a gallent fod yn anaddas ar gyfer adeiladau hanesyddol. Cyn ailbeintio, dylid archwilio'r adeilad ar gyfer unrhyw broblemau lleithder. Os canfyddir problemau lleithder, dylid nodi a datrys yr hyn sy’n ei achosi. Argymhellir bod y paent presennol yn cael ei dynnu oddi yno gan ddefnyddio system powltris i ganiatáu i'r rendr a'r waliau sychu, cyn ailbeintio mewn paent cerrig anadladwy. Dylid atgyweirio rendr presennol sydd wedi'i ddifrodi gan gynnwys stucco addurnol, ar sail debyg am debyg, neu ei adnewyddu mewn rendr/stucco calch yn dibynnu ar bresenoldeb lleithder yn yr adeilad. Bydd cyflwr pob adeilad yn amrywio fesul achos.

 

Gellir cael caniatâd adeilad rhestredig a chyngor ar Ardaloedd Cadwraeth drwy gysylltu â'r Swyddog Cadwraeth ar gyfer yr ardal briodol

Cyngor Sir Penfro

Cadwraeth yr Amgylchedd Hanesyddol

 

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Adeiladau Rhestredig - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (yn agor mewn tab newydd)

 


4. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Ni ddylid gwario cyn i’r grant gael ei gymeradwyo, gan na ellir dyfarnu'r grantiau'n ôl-weithredol. Mae hyn yn cynnwys gwaith y mae contractau eisoes wedi'u llofnodi neu archebion wedi'u gosod ar ei gyfer, cyn cymeradwyo cyllid.

Os yw'r busnes wedi cofrestru ar gyfer TAW, yna ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau cofrestredig nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer  TAW lle nad oes modd adennill TAW.

Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.

Ni fydd eitemau a brynir drwy bryniant les, hurbwrcasu, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.

Mae gwariant anghymwys yn cynnwys: -

  • Gwariant refeniw cyffredinol fel costau staff neu unrhyw drethi eraill, pryniant hurbwrcas/prydlesu.
  • Amnewid gosodiadau a ffitiadau presennol.

 


5. Cais ac Asesiad

Mae hon yn alwad agored am geisiadau. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw diwedd mis Medi 2024. Mae'n rhaid bod modd cwblhau'r cynlluniau erbyn diwedd mis Tachwedd 2024.

Os yw'r cynllun yn cael ei ordanysgrifio, bydd yr ymgeiswyr sy'n gymwys i barhau yn y broses ymgeisio yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Bydd yr ymgeiswyr sy'n gymwys i barhau yn y broses ymgeisio yn cael eu hysbysu drwy e-bost o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael yr holl gydsyniadau angenrheidiol a chydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer gan gynnwys iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i waith o'r fath.

Dylid nodi bod Cynllun Paent Strydlun Sir Benfro yn grant dewisol ac mae'n destun asesiad am werth am arian a chymeradwyaeth Cyngor Sir Penfro. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy'n cwrdd bob mis, i ystyried ceisiadau sy'n bodloni'r safon.

Ni thelir cyllid am waith ôl-weithredol ac mae CSP yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais.

 


6. Rheolau caffael – Cael dyfynbrisiau

Wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau, disgwylir i ymgeiswyr gynnal y broses mewn modd sy'n sicrhau bod yn agored, gwerth am arian a thegwch a rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel yr amlinellir yn yr adran hon.

Wrth ddarparu manylion costau i gefnogi eich cais, sicrhewch fod cyfanswm costau'r prosiect yn cael eu darparu fel y gellir cyfrifo gwerth y grant yn briodol. Dylid cynnwys manylion ynghylch a ddylid ychwanegu TAW yn y dyfynbris hefyd.

  • Ar gyfer cynlluniau lle mae'r ymgeisydd yn gwneud y gwaith ei hun, rhaid cyflwyno copïau o dderbynebau ar gyfer yr holl ddeunyddiau i hawlio 80% o'r costau, hyd at uchafswm grant o £4,999. Rhaid i'r derbynebau gwreiddiol gael eu cadw gan yr ymgeisydd.
  • Ar gyfer cynlluniau lle mae'r ymgeisydd yn defnyddio contractwr, rhaid darparu dyfynbris ysgrifenedig. Ar gyfer prosiectau dros £5000, rydym yn annog ceisio o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol i sicrhau'r gwerth gorau. Rhaid i'r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar yr un fanyleb a'u gwerthuso ar sail debyg am debyg. Fodd bynnag, gallwn ystyried ceisiadau lle darparwyd un dyfynbris ysgrifenedig.
  • Dylid cadw cofnod wedi'i ddogfennu o'r dyfynbrisiau, y broses werthuso a'r penderfyniad i'w dyfarnu.
  • Rhaid cadw cofnodion o wneud penderfyniadau ynghylch dewis y cyflenwr enwebedig at ddibenion archwilio a hawlio.

Osgoi gwrthdaro buddiannau wrth gaffael

Rydym yn cydnabod ei bod yn bosibl y bydd ymgeiswyr neu bobl sy'n gysylltiedig â nhw (fel perthnasau, partneriaid busnes neu ffrindiau) yn dymuno tendro am gontract a gynigir gan yr ymgeisydd.

Mae hyn yn dderbyniol, ond bydd angen i ymgeiswyr sicrhau bod y broses dendro yn cael ei chynnal mewn modd agored, tryloyw a theg, fel yr amlinellir uchod, nad yw'n rhoi mantais i un person neu gwmni sy'n tendro dros un arall, sy'n deillio o'r broses. Os oes gan ymgeisydd/datblygwr neu unrhyw berson sy'n gysylltiedig â nhw, fuddiant yn unrhyw un o'r ceisiadau posibl am gontract a gynigir:

  • Rhaid i'r ymgeisydd/datblygwr, y person neu'r parti hwnnw sydd â buddiant amlinellu'r buddiant hwnnw yn ysgrifenedig.
  • Ni ddylai'r person neu'r parti hwnnw sydd â buddiant gymryd unrhyw ran o gwbl yn unrhyw un o'r gweithdrefnau gwerthuso tendro.

 


 7. Rheoli Cymorthdal 

Mae'r cynllun hwn yn dod o dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdal Llywodraeth y DU 2022 ac mae'n cael ei weinyddu fel Cymorth Ariannol Lleiaf.  Ni ddylai cyfanswm y Cymorth Ariannol Lleiaf a dderbyniwyd dros gyfnod treigl o dair blynedd ariannol fod yn fwy na £315,000 ar gyfer pob busnes. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw monitro lefel y Cymorth Ariannol Lleiaf a dderbyniwyd. Gofynnir i chi gadarnhau na fydd yn mynd uwchlaw'r lefel os bydd cynnig yn cael ei wneud. [Sylwch fod yr uchafswm Cymorth Ariannol Lleiaf yn berthnasol ar lefel grŵp cwmni.]

Bydd grantiau'n cael eu dyfarnu yn unol â Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022 yn unig.

 


8. Telerau ac Amodau

Ni fydd grantiau'n cael eu cynnig na'u talu os yw'r busnes neu'r ymgeisydd mewn ôl-ddyledion gydag unrhyw daliad i unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yn y cynllun.

Os bydd y cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn uniongyrchol i gyfrif banc busnes yr ymgeisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbynneb neu dystiolaeth o brynu a thaliadau, h.y. cyfriflenni banc gwreiddiol wedi’u hargraffu neu ar-lein ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant.

Rhaid i'r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant drwy lenwi'r Hysbysiad o Gymeradwyaeth a Thelerau ac Amodau o fewn 30 diwrnod o'i dderbyn. Rhaid i'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant gael ei gwblhau o fewn 3 mis i ddyddiad y llythyr cymeradwyo erbyn diwedd Hydref 2024 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. Ni roddir estyniad ar gyfer cyflwyno'r hawliad.

Os na fydd y prosiect yn mynd rhagddo o fewn y cyfnod a nodir yn y cynnig grant, bydd y cynnig grant yn dod i ben yn awtomatig. Rhaid gofyn am unrhyw amrywiad i'r Telerau ac Amodau a nodir yn y Llythyr Cymeradwyo a'u cytuno.

Rhaid gofyn am unrhyw wyriadau i'r cais o ran cyflenwyr a gwariant i'r tîm grant cyn prynu. Gall methu â cheisio cymeradwyaeth olygu na thelir y grant am yr eitemau hynny.

Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio'r cyfrif banc busnes i brynu'r holl eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant. Anogir Unig Fasnachwyr a phartneriaethau bod yr holl nwyddau a brynir mewn perthynas â'r grant yn cael eu prynu gan ddefnyddio'r cyfrif banc busnes. Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant. Mae eitemau a brynir gyda chardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r trafodiad ar eu bil cerdyn credyd. Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio'r cardiau credyd busnes i brynu eitemau sy'n gysylltiedig â'r grant yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr(wyr).

Grant dewisol yw hwn sy'n daladwy ar ôl ei gwblhau a’r dyddiad olaf o gyflwyno hawliadau fydd 6 Rhagfyr 2024. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu talu. Caniatewch 28 diwrnod ar gyfer prosesu.

Bydd yr ymgeisydd yn atebol am faint o waith a wneir, ac ar ran yr ymgeisydd. Ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â’r gwaith gan Gyngor Sir Penfro. Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i eiddo, deunyddiau neu anafiadau i unigolion a achosir gan weithredoedd personol yr ymgeisydd neu'r person/unigolion sy'n ymgymryd â'r gwaith ar eu rhan cyn, yn ystod nac ar ôl gwneud gwaith o'r fath.

Bydd yr ymgeisydd yn cymryd mesurau priodol ac ymarferol i sicrhau bod yr amgylchedd lle mae'r gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel er mwyn osgoi risg o anaf iddynt eu hunain, a/neu bartïon eraill. Nid yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw atebolrwydd am weithredoedd yr ymgeisydd na'u contractwr penodedig sy'n arwain at ddifrod neu anaf i bersonau neu eiddo. Sylwch, pan fydd contractwr yn ymgysylltu i gyflawni'r gwaith, mae'r Cytundeb rhwng yr ymgeisydd a'r contractwr paentio. Rhaid i bob contractwr sy'n gwneud gwaith gydymffurfio o ran treth.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau'r gwaith cymeradwy, mewn modd boddhaol, ar neu cyn y dyddiad hawlio terfynol, gan ddarparu tystiolaeth ffotograffig a chopïau o anfonebau a phrawf talu, cyn bod taliad yn cael ei ryddhau. Mewn rhai achosion, bydd angen ymweliad safle cyn i'r taliad gael ei gymeradwyo.

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau'r gwaith cymeradwy, mewn modd boddhaol, ac o fewn amserlen benodol. Gallai methu â chyflawni'r hyn yr ymrwymwyd iddo arwain at beidio â thalu'r grant.

Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus wneud cais am daliad o'r grant cymeradwy (drwy gyflwyno derbynebau ar gyfer deunyddiau paentio neu anfonebau contractwyr) pan fydd gwaith wedi'i gwblhau ac erbyn 6 Rhagfyr 2024 ar yr hwyraf.

Rhaid cynnal y cynllun paent sy'n defnyddio'r cyllid hwn am o leiaf 6 mis yn dilyn taliad terfynol y grant neu 31 Mawrth 2025; pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf.

 


9. Ad-dalu Cronfeydd Grant

Rhaid ad-dalu'r grant yn llawn ar alw os:

  • Mae’r ymgeisydd wedi gwneud unrhyw gamgynrychiolaeth mewn cysylltiad â'r cais.
  • Wedi hynny, mae’r ymgeisydd yn achosi newid sylweddol i'r cynllun paent, o'r manylion a ddarparwyd gennych yn eich cais (e.e. lliw, deunyddiau, ansawdd), o fewn oes economaidd y gwaith.
  • Dylai ddod i'r amlwg bod grant wedi'i dalu ac eithrio yn unol â Deddf Rheoli Cymhorthdal 2022 bydd yn cael ei adennill gyda llog.

 


10. Diogelu Data a Phreifatrwydd 

Cyngor Sir Penfro yw'r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth bersonol a roddwch ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan ein hawdurdod swyddogol ac ni fydd yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Sylwch y gallwn wirio'r data a roddwch yma yn erbyn setiau data eraill y Cyngor a Llywodraeth y DU er mwyn gwirio eich cais ac atal twyll. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Penfro yn trin eich data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol.

Bydd y wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio pwy ydych chi. Os canfyddir twyll, efallai y gwrthodir cyllid, rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Mae rhagor o fanylion am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gennym ni a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, ar gael drwy ymweld â: CIFAS (yn agor mewn tab newydd)

 


11. Sut i wneud cais

Mae ceisiadau bellach wedi cau

 
       

ID: 11187, adolygwyd 11/11/2024