Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028
Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028
Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein blaenoriaethau allweddol dros y tymor byr a'r tymor canolig. Strategaeth bum mlynedd dreigl ydyw, y cytunwyd arni gan y Cyngor, ac mae'n cael ei hadolygu a'i hadnewyddu'n flynyddol i ystyried materion sy'n dod i'r amlwg ac i ymateb i heriau wrth iddynt godi.
Daw’r arweiniad ar gyfer y Strategaeth o Raglen Weinyddu’r Cabinet (a gymeradwywyd ym mis Ionawr 2023) sy'n disgrifio nodau a dyheadau gwleidyddol am y tymor gweinyddol.
Mae'r Strategaeth Gorfforaethol yn elfen allweddol yn ein 'llinyn aur'. Mae'n darparu'r fframwaith trosfwaol ar gyfer datblygu cynlluniau gwasanaeth tymor canolig manwl, cynlluniau unedau (lle bo hynny'n briodol) ac yn y pen draw cynlluniau perfformiad a llesiant unigol. Wrth wneud hynny, mae'r Cyngor yn sefydlu cysylltiad clir rhwng blaenoriaethau strategol sefydliadol a chyflawni, ac yn cefnogi ac yn gwella dealltwriaeth am sut mae pawb sy'n gweithio i'r Cyngor yn gwneud cyfraniad hanfodol i waith y sefydliad cyfan.
O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae'n ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu amcanion llesiant i ddangos y cyfraniad y bydd y Cyngor yn ei wneud tuag at y nodau llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Ddeddf. Ein Strategaeth Gorfforaethol yw'r cyfrwng a ddefnyddir gan y Cyngor i osod a mynegi ein hamcanion llesiant. Mae'r rhain yn bwysig yn yr ystyr eu bod yn darparu fframwaith ar gyfer yr holl waith a wnawn.
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein Strategaeth Gorfforaethol a'n hymagwedd at gynllunio corfforaethol a pherfformiad yn gyffredinol, cysylltwch â: Dan Shaw, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol, Dan.shaw@pembrokeshire.gov.uk