Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028
Ein Hamcanion Llesiant 2023-2028
Mae ein Hamcanion Llesiant 2023-2028 wedi'u rhestru isod. Mae'r naw cyntaf yn edrych tuag at allan, gan ganolbwyntio ar sut y bydd y Cyngor yn gwella llesiant pobl a chymunedau yn Sir Benfro ac ar y cyfraniad y byddwn yn ei wneud tuag at y nodau llesiant cenedlaethol i Gymru. Mae'r tri olaf yn canolbwyntio'n fewnol ar yr hyn y mae angen i'r Cyngor ei wella a'i gryfhau. Mae'r rhain yn sail i gyflawni ein holl waith yn effeithiol ac yn cysylltu’n ôl â'n hunanasesiad yn ogystal ag adran Gwella Corfforaethol y Rhaglen Weinyddu. Caiff y themâu a'r camau gweithredu yn yr adran Gwella Corfforaethol eu hadlewyrchu mewn trefniadau llywodraethu, cynaliadwyedd ariannol a datblygu'r gweithlu.
Mae gwneud cynnydd ar ein tri amcan llesiant sy’n canolbwyntio’n fewnol yn rhagofyniad i wneud cynnydd ar amcanion llesiant allanol. Maent yn rhoi cymorth i gyrraedd pob un o'r saith nod llesiant cenedlaethol ond nid ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â hwy.
Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu ein rhesymeg dros ddewis pob un o'n hamcanion llesiant a'r camau gweithredu y bwriadwn eu cymryd i'w cyflawni yn ystod y 5 mlynedd nesaf.
A1. Byddwn yn gwella'r ddarpariaeth addysg a dysgu, gan arfogi ein dysgwyr â sgiliau a gwybodaeth gydol oes y bydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.
A2. Byddwn yn sicrhau darpariaeth briodol o ran gofal a chymorth, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel.
A3. Byddwn yn galluogi darparu cartrefi sy’n fforddiadwy, sydd ar gael, y gellir eu haddasu ac sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.
A4. Byddwn yn cyflawni ein huchelgais economaidd trwy gefnogi twf, swyddi a ffyniant ac yn galluogi'r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach.
A5. Byddwn yn hybu ac yn cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng natur.
A6. Byddwn yn cefnogi ein cymunedau, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy i helpu i greu cymunedau llesol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol.
A7. Byddwn yn cefnogi'r Gymraeg o fewn cymunedau a thrwy ysgolion.
A8. Byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar ddarparu gwasanaethau craidd megis priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu'r cyhoedd a hamdden a diwylliant sy'n cyfrannu at ansawdd bywyd pob cymuned, gan sicrhau bod trigolion yn byw mewn cymdogaethau sy'n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llesol.
A9. Byddwn yn datblygu strategaeth i leihau tlodi ac anghydraddoldeb.
B1. Byddwn yn adeiladu diwylliant o lywodraethu da yn y Cyngor i wella ymddiriedaeth a hyder yn ein prosesau penderfynu.
B2. Byddwn yn Gyngor sy’n gynaliadwy ac yn gydnerth yn ariannol ac sy'n rheoli ein hadnoddau a'n hasedau'n effeithiol ac yn effeithlon, er enghraifft trwy adolygu a gwneud y gorau o'n hystâd gorfforaethol.
B3. Byddwn yn gwella datblygiad ein gweithlu, gan wella sgiliau a chyfleoedd yn ogystal â mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw.