Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028

Atodiad Dangos Datblygu Cynaliadwy Trwy Osod Amcanion Llesiant

Mae'r adran ganlynol yn esbonio pam fod yr amcanion llesiant yr ydym wedi'u gosod yn cyd-fynd â fframwaith deddfwriaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer cyrff cyhoeddus ynghylch pennu amcanion llesiant  yn ailadrodd y dylem gyhoeddi datganiad sy'n mynd i'r afael â'r penawdau a restrir yn yr atodiad hwn.

Mae'r Ddeddf yn gosod nodau llesiant cenedlaethol yn ogystal â diffinio ffyrdd o weithio y disgwylir i gyrff cyhoeddus eu dilyn i sicrhau eu bod yn ateb gofynion i gyflawni datblygu cynaliadwy. Os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yna man cychwyn da yw Canllawiau Hanfodion (yn agor mewn tab newydd) Llywodraeth Cymru.

Amcanion llesiant y Cyngor yw asgwrn cefn y Strategaeth Gorfforaethol ac maent yn crynhoi'r blaenoriaethau ar gyfer y sefydliad am y pum mlynedd nesaf. Mae'r rhain yn deillio o'r Rhaglen Weinyddu, y cytunodd y Cabinet arni yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2023. 

Mae'n ofynnol i'r Cyngor bennu amcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel 'corff cyhoeddus' (gofyniad ar wahân i’r un fel un o bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus).  Mae'n ofynnol i ni ymgynghori ar amcanion llesiant drafft.  Mae'r Strategaeth Gorfforaethol yn rhan o'r Fframwaith Polisi ac mae angen iddi gael ei chymeradwyo gan y Cyngor.

Cafodd ein set ddiwethaf o amcanion llesiant eu diwygio ddiwethaf ym mis Medi 2020 yng ngoleuni ein hymateb cychwynnol i bandemig COVID-19.  Yn dilyn etholiadau’r Cyngor ym mis Mai 2022, Rhaglen Weinyddu newydd, a datblygu cynllun newydd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, mae'n bryd datblygu amcanion llesiant newydd sy'n adlewyrchu'r rhain. 

Rydym wedi ystyried amrywiaeth eang o dystiolaeth wrth ddatblygu ein hamcanion llesiant newydd.  Rydym hefyd wedi ystyried sut y mae'r broses o osod amcanion llesiant o gymorth i integreiddio cynlluniau gwasanaeth tymor canolig â chynllunio ariannol.

  • Hunanasesiad corfforaethol o berfformiad 2021-22 a'i argymhellion
  • Cynllun Gweithredu Llywodraethu Corfforaethol.  Gweler y rhesymeg dros bennu ein hamcan llesiant llywodraethu
  • Cynllun Ariannol Tymor Canolig
  • Negeseuon allweddol o berfformiad yn erbyn amcanion llesiant (gweler y Mesurau)

Cyn ymgynghori, rhannwyd yr amcanion llesiant drafft gyda'r Cabinet fel rhan o'r trafodaethau ynglŷn â chwblhau Rhaglen Weinyddu 2023-2027. Dechreuodd yr ymgynghoriad hwn ychydig cyn y Nadolig trwy Dweud Eich Dweud a daeth i ben ar 27 Ionawr 2023 (gweler canlyniadau'r ymgynghoriad am ragor o fanylion). Cafodd yr amcanion llesiant drafft eu hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 19 Ionawr 2023.  Nododd Cadeirydd y Pwyllgor, er ei fod yn teimlo eu bod yn briodol ac y gallent fod o fudd mawr i'r boblogaeth, y byddai effaith yr amcanion llesiant drafft yn dibynnu ar y gallu i’w cyflawni yng nghyd-destun pwysau o ran y galw a chyllidebau sy'n lleihau.  Nododd y Pwyllgor hefyd fod yr ymgynghoriad ar amcanion llesiant CSP yn ategu yn hytrach na dyblygu'r amcanion llesiant a ddatblygwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro.

Y saith nod cenedlaethol

Mae'r Ddeddf yn nodi bod rhaid i'r Cyngor fynd ar drywydd datblygu cynaliadwy, ac fel rhan o hyn bod rhaid iddo bennu a chyhoeddi amcanion llesiant.  Rhaid i'n hamcanion llesiant gael eu dylunio fel ag i gynyddu i’r eithaf ein cyfraniad at bob un o'r saith nod llesiant cenedlaethol.  Mae'r diagram isod yn dangos y rhain a sut y mae Llywodraeth Cymru yn eu disgrifio.  Yn ôl Llywodraeth Cymru:

"Gyda’i gilydd maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf, i weithio tuag ati. Maent yn gyfres o nodau; mae’r Ddeddf yn datgan yn glir bod rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni’r holl nodau, nid dim ond un neu ddau."

Disgrifiad o'r Nodau Llesiant Cenedlaethol

  • Cymru lewyrchus- Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
  • Cymru gydnerth- Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
  • Cymru iachach- Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
  • Cymru sy’n fwy cyfartal- Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
  • Cymru o gymunedau cydlynus- Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu- Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang- Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Arddangos cyfraniad i'r saith nod llesiant cenedlaethol

Mae'r Ddeddf yn datgan bod rhaid i ni gyhoeddi datganiad am ein hamcanion llesiant pan gânt eu cyhoeddi sy'n esbonio pam ein bod o'r farn y bydd ein hamcanion llesiant yn cyfrannu at gyrraedd y saith nod llesiant cenedlaethol.  Fel a nodwyd yn y cyflwyniad i'n hamcanion llesiant mae’r tri olaf yn canolbwyntio’n fewnol.  Mae'r rhain yn cysylltyu’n ôl â'n hunanasesiad a'i themâu, sef: Strategaeth a Pherfformiad; Cynllunio a rheoli adnoddau; Arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant; a Gweithio gyda phartneriaid a chwsmeriaid.

Er mwyn gweld pa nodau llesiant cenedlaethol sy’n berthnasol i bob un o’n hamcanion llesiant, cyfeiriwch at y dudalen amcanion llesiant berthnasol.

Mae’r canlynol yn rhoi mwy o fanylion ac enghreifftiau penodol o sut mae’r saith nod llesiant cenedlaethol yn cyfrannu at ein hamcanion llesiant.

A1- Byddwn yn gwella'r ddarpariaeth addysg a dysgu, gan arfogi ein dysgwyr â sgiliau a gwybodaeth gydol oes y bydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.

  • Llewyrchus- Bydd gwell addysg a dysgu yn arfogi cenedlaethau'r dyfodol â’r sgiliau y mae eu hangen arnynt i ddatblygu economi carbon isel yn Sir Benfro.
  • Iechyd- Rydym wedi cynnwys ystod o gamau gweithredu o ran datblygu dulliau ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl ac ymgorffori dysgu a chwarae tu allan.
  • Cyfartal- Lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer anfantais economaidd-gymdeithasol yw'r amcan allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yn y tymor hir.
  • Diwylliant bywiog- Rydym yn buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac mae hyn yn allweddol i wneud ein cyfraniad at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
  • Yn gyfrifol ar lefel fyd-eang- Trwy ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy rydym yn lleihau ôl troed carbon ysgolion – nid yw ysgolion newydd yn rhai carbon sero.

A2- Byddwn yn sicrhau darpariaeth briodol o ran gofal a chymorth, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel.

  • Iechyd- Mae'r pandemig (a gwaith parhaus ar Ymgyrch Nightingale) wedi dangos bod gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol mewn iechyd ac rydym wedi datblygu camau gweithredu sy'n ymwneud â'u hintegreiddio.
  • Cyfartal- Mae llawer o gwsmeriaid gofal cymdeithasol yn rhannu nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd) ac mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan allweddol o ran gwneud Sir Benfro yn lle mwy cyfartal a chyflawni ein hamcanion cydraddoldeb strategol.
  • Cydlynus- Mae'r Hyb Cymunedol, a sefydlwyd yn wreiddiol mewn ymateb i'r pandemig, yn tanategu ein gwaith ar atal a gofal cymdeithasol.  Mae addasiadau i’w tai yn galluogi pobl i aros yn eu cymunedau wrth iddynt ddod yn fwy eiddil.

A3- Byddwn yn galluogi darparu cartrefi sy’n fforddiadwy, sydd ar gael, y gellir eu haddasu ac sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.

  • Llewyrchus- Bydd ein dull o ymdrin â thai o fudd i adfywio canol trefi.  Mae'r diwydiant adeiladu yn sector pwysig yn Sir Benfro.
  • Cydnerth- Bydd ein dull o ymdrin â thai yn lleihau eu hôl troed carbon, nid dim ond trwy lai o ddefnydd o ynni, ond hefyd trwy leihau dŵr ffo.  Mae rhai cynlluniau tai wedi mynd i rigol ar hyn o bryd oherwydd tanfuddsoddi mewn gweithfeydd trin carthffosiaeth.
  • Iechyd- Mae tai da’n cael effaith sylweddol ar lesiant pobl.
  • Cyfartal- Bydd camau gweithredu ar ddigartrefedd (anfantais economaidd-gymdeithasol) a chynorthwyo pobl i fyw'n annibynnol (pobl anabl) yn helpu i gyrraedd y nod hwn.
  • Cydlynus- Bydd cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da yn ei gwneud yn haws i bobl aros yn y cymunedau lle maent yn byw.
  • Yn gyfrifol ar lefel fyd-eang- Mae gwresogi/goleuo cartrefi’n defnyddio tua thraean o'r holl drydan yn y DU.  Mae angen gwneud yr holl stoc dai – yn dai cyhoeddus a phreifat – yn fwy effeithlon o ran defnyddio ynni er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau newid hinsawdd.

A4- Byddwn yn cyflawni ein huchelgais economaidd trwy gefnogi twf, swyddi a ffyniant ac yn galluogi'r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach.

  • Llewyrchus- Mae'r amcan llesiant hwn yn canolbwyntio ar y nod llesiant ffyniannus, ac yn benodol, y newid i ynni gwyrdd. 
  • Cydnerth- Mae'r amcan llesiant hwn yn cynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud â hybu cynaliadwyedd arlwy twristiaeth Sir Benfro yn ogystal â chysylltiadau ag amaethyddiaeth.
  • Cyfartal- Mae'r amcan llesiant hwn yn cynnwys gweithredu ar gynorthwyo pobl i wella eu cydnerthedd a'u cyfleoedd bywyd trwy ennill y sgiliau a'r cymwysterau galwedigaethol hollbwysig.  Mae hyn yn allweddol i gyfle cyfartal.
  • Cydlynus- Bydd ein gwaith ar ganol trefi yn gwneud y mannau hyn yn ddeniadol gan cysylltu cymunedau o ystadau o'u cwmpas.
  • Yn gyfrifol ar lefel fyd-eang- Ein huchelgais yw y dylai Sir Benfro fod yn brifddinas ynni gwyrdd y DU a chyfrannu at ddatblygu technolegau glân sy'n lleihau carbon.

A5- Byddwn yn hybu ac yn cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng natur.

  • Cydnerth.  Ni yw un o’r awdurdodau gorau, os nad yr awdurdod gorau un ar gyfer ailgylchu yng Nghymru.  Mae arnom eisiau cynnal y perfformiad hwn a buddsoddi yn y gwasanaethau hyn yn ogystal â chyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd.
  • Yn gyfrifol yn fyd-eang.  Mae'r amcan llesiant hwn yn canolbwyntio ar leihau ein heffaith ar newid hinsawdd.  Gan bod gan Sir Benfro gynefinoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, bydd mynd i'r afael â'r argyfwng natur yn lleol yn arwain at fanteision dros ardal fwy o lawer.

A6- Byddwn yn cefnogi ein cymunedau, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy i helpu i greu cymunedau llesol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol.

  • Cydlynus- Mae'r Amcan Llesiant hwn yn canolbwyntio ar nod cenedlaethol cymunedau cydlynus.
  • Diwylliant bywiog- Yn aml, mae gan grwpiau cymunedol ddiddordeb mewn hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol, gan gynnwys y Gymraeg. 
  • Yn gyfrifol ar lefel fyd-eang- Rydym wedi helpu teuluoedd o Wcráin i ymgartrefu yn Sir Benfro. Mae meithrin perthynas dda rhwng cymunedau a phobl, ni waeth ym mha wlad y cawsant eu geni, yn rhan allweddol o gydlyniant cymunedol.

A7- Byddwn yn cefnogi'r Gymraeg o fewn cymunedau a thrwy ysgolion.

  • Llewyrchus- Bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ehangu rhagolygon gwaith pobl ifanc.
  • Cyfartal- Bydd cefnogi'r Gymraeg trwy ein cymunedau a'n hysgolion yn mynd i'r afael â'r rhwystr daearyddol (llinell Landsker) a allai fel arall gyfyngu ar allu pobl Sir Benfro i ddysgu Cymraeg.
  • Cydlynus- Ceir polisi ar y Gymraeg yn ein Cynllun Datblygu Lleol sy'n effeithio ar sut mae tai yn cael eu datblygu.  Mae cysylltiad annatod rhwng y Gymraeg a chymunedau.
  • Diwylliant bywiog- Mae’r amcan llesiant yn cyd-fynd yn gryf iawn â'r nod cenedlaethol hwn – mae'r Gymraeg yn rhan o'r nod cenedlaethol hwn.

A8- Byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar ddarparu gwasanaethau craidd megis priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu'r cyhoedd a hamdden a diwylliant sy'n cyfrannu at ansawdd bywyd pob cymuned, gan sicrhau bod trigolion yn byw mewn cymdogaethau sy'n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llesol.

  • Llewyrchus- Mae gwasanaethau craidd yn sail i'r economi twristiaeth fel a ddangosir gan yr 'hanfodion gwych' a nodwyd yng Nghynllun Rheoli Cyrchfan Sir Benfro.  Mae diogelu'r cyhoedd yn cynnal chwarae teg i fusnesau.
  • Cydnerth- Bydd yr amcan llesiant yn arwain at amgylchedd glanach gan felly leihau straeniau ar fioamrywiaeth.
  • Iechyd- Mae gwasanaethau craidd yn cynorthwyo pobl i ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eu trefn ddyddiol, gan hyrwyddo ffyrdd iach o fyw.
  • Cyfartal- Yn aml, nid oes cost am wasanaethau craidd neu mae’r gost yn isel felly nid yw tlodi yn rhwystr i fynediad.  Mae tystiolaeth yn dangos, o ganlyniad i'r argyfwng costau byw, bod pobl a theuluoedd ar incwm isel yn dibynnu mwy ar y gwasanaethau hyn.
  • Cydlynus- Bydd yr amcan llesiant hwn yn arwain at amgylcheddau mwy diogel; cymunedau mwy diogel yw un o'r disgrifyddion ar gyfer y nod cenedlaethol Cydlynus.
  • Diwylliant bywiog- Mae'r amcan llesiant hwn yn cynnwys cefnogaeth i wasanaethau diwylliannol fel llyfrgelloedd sy'n cynyddu ymdeimlad pobl o lesiant.
  • Yn gyfrifol ar lefel fyd-eang- Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn lleihau ôl troed carbon Sir Benfro yn ogystal â'r galw ar adnoddau'r Ddaear.

A9- Byddwn yn datblygu strategaeth i leihau tlodi ac anghydraddoldeb.

  • Llewyrchus- Nod yr amcan llesiant hwn yw gwella rhagolygon gwaith ar gyfer holl gymunedau Sir Benfro. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu argaeledd llafur crefftus i'r economi leol.
  • Iechyd- Mae lleihau anghydraddoldebau yn tueddu i wella llesiant. Mae rhaniad gagendor mawr mewn disgwyliad oes iach a bydd lleihau tlodi, yn yr hirdymor, yn lleihau'r galw ar wasanaethau iechyd.
  • Cyfartal- Mae’r amcan llesiant hwn yn cyd-fynd yn glir â'r nod cenedlaethol Cyfartal.
  • Cydlynus- Gall anghydraddoldebau ysgogi tensiwn cymdeithasol a gall y nod llesiant hwn helpu i fynd i'r afael â'r achos sylfaenol. Mae tai fforddiadwy yn rhan o leihau tlodi ac mae methu â mynd i'r afael â hyn yn creu risg y bydd pobl ar incwm isel yn cael eu heithrio o'r cymunedau y cawsant eu magu ynddynt.

B1- Byddwn yn adeiladu diwylliant o lywodraethu da yn y Cyngor i wella ymddiriedaeth a hyder yn ein prosesau penderfynu.

  • Strategaeth a Pherfformiad- Mae rhai camau gwella wedi cael eu cwblhau, gan gynnwys cynhyrchu'r cynllun hwn, mae angen mwy o waith ar eraill fel rheoli perfformiad sy'n cysylltu â’r adran Mesurau yn y Strategaeth hon.
  • Arweinyddiaeth a llywodraethu- Camau gwella sy'n dal ar y gweill ac sy'n cynnwys datblygu trefniadau newydd i weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned a defnyddio'r wybodaeth a gafwyd o Ganmoliaeth, Pryderon a Chwynion.
  • Gweithio gyda phartneriaid a chwsmeriaid- Er bod y Cynllun Gweithredu Llywodraethu Corfforaethol wedi cael ei adnewyddu a'i ffocws wedi cael ei ailbennu, mae rhai camau gweithredu’n dal i fynd rhagddynt.

B2- Byddwn yn Gyngor sy’n gynaliadwy ac yn gydnerth yn ariannol ac sy'n rheoli ein hadnoddau a'n hasedau'n effeithiol ac yn effeithlon, er enghraifft trwy adolygu a gwneud y gorau o'n hystâd gorfforaethol.

  • Cynllunio a rheoli adnoddau- Mae llawer o gamau gwella wedi cael eu cwblhau ond cyfeirir at brosiectau tymor hwy fel cyflwyno trefniadau cynllunio ariannol aml-flwyddyn treigl sy'n cysylltu â threfniadau cynllunio corfforaethol yn y Strategaeth hon.

B3- Byddwn yn gwella datblygiad ein gweithlu, gan wella sgiliau a chyfleoedd yn ogystal â mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw.

  • Cynllunio a rheoli adnoddau- Mae enghreifftiau o Gamau Gwella sy'n dal i fynd rhagddynt yn cynnwys datblygu cynllun ar gyfer y gweithlu.
  • Gweithio gyda phartneriaid a chwsmeriaid- Mae enghreifftiau o gamau gwella yn cynnwys gwaith rhanbarthol ar gynllunio'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Egwyddor datblygu cynaliadwy a'r pum ffordd o weithio

Mae'r Ddeddf yn nodi bod pum peth y mae angen i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt i ddangos eu bod wedi cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd dilyn y ffyrdd hyn o weithio yn ein helpu i gydweithio'n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol a mynd i'r afael â rhai o'r heriau hirdymor yr ydym yn eu hwynebu.

Rhestrir y pum ffordd o weithio a'u disgrifiadau isod.  Mae'r canllawiau ynghylch amcanion llesiant yn rhoi pwyslais penodol ar gynnwys, ac yn fwy penodol sut rydym wedi cynnwys pobl sydd â buddiant mewn cyrraedd y nodau llesiant.  Pan fyddwn yn cynnwys pobl rhaid i ni adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Sir Benfro.

  1. Hirdymor: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
  2. Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion
  3. Integreiddio: Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
  4. Cydweithio: Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant.
  5. Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.

Cynnwys

Mae cynnwys yn elfen allweddol o gyflawni datblygu cynaliadwy.  Oni bai bod cynlluniau'n adlewyrchu barn a phrofiadau personol dinasyddion, mae'r Strategaeth Gorfforaethol yn llawer llai tebygol o gyflawni'r deilliannau y mae arnom eu heisiau.

Datblygwyd y Strategaeth Gorfforaethol tuag at ddiwedd cyfnod o ymgysylltu ac ymgynghori helaeth gan y Cyngor a'i bartneriaid ar beth ddylai'r blaenoriaethau ar gyfer Sir Benfro fod yn ogystal â'r mathau o ddewisiadau y dylai cyrff cyhoeddus fod yn eu gwneud mewn ymateb i bwysau cyllidebol.  Fe wnaeth canlyniadau a thystiolaeth o'r gwaith hwn, fel yr asesiad llesiant, datblygu cynllun llesiant a blaenoriaethau cyllidebol newydd Sir Benfro helpu i oleuo ein hamcanion llesiant.

Ymgynghoriad ar yr amcanion llesiant drafft

Fe wnaethom ymgynghori ar yr amcanion llesiant drafft yn y cynllun hwn trwy ymgynghoriad ar-lein (ffurflen ymateb hunan-gwblhau a gwybodaeth gefndir) trwy Dweud Eich Dweud ar wefan y Cyngor mewn fformat ar-lein a chopi caled o ddydd Iau 15 Rhagfyr tan ddydd Gwener 27 Ionawr 2023. Cafodd gwybodaeth am yr ymgynghoriad ei hanfon yn uniongyrchol trwy e-bost at y 3,000 fwy neu lai o danysgrifwyr sydd gan y gwasanaeth Dweud Eich Dweud ar ddydd Llun 9 Ionawr gyda nodyn atgoffa terfynol yn cael ei anfon ar ddydd Iau 26 Ionawr. Cafwyd cyfanswm o 21 o ymatebion.

Mae'r gyfradd ymateb isel yn adlewyrchu nifer yr ymgyngoriadau eraill yr oedd angen eu cynnal ar yr adeg hon gan gynnwys Cynllun Llesiant y BGC ac ymgynghoriad ar gyllideb y Cyngor.  Mae dadansoddiad o'r ymatebion yn dangos bod dwy ran o dair o’r ymatebwyr dros 64 oed (mae tua 25% o boblogaeth Sir Benfro yn 65 oed neu'n hŷn) a bod dwy ran o dair yn ddynion.  Er bod y ganran yn seiliedig ar sampl fach iawn, nododd 14% o’r ymatebwyr eu bod o leiafrif ethnig, sy’n llawer uwch na chanran Sir Benfro, sef 2.4%.

 Amcan Llesiant  Cytuno (gan gynnwys cytuno'n gryf)  Niwtral  Anghytuno (gan gynnwys anghytuno'n gryf)  Dim ateb
 A1- Addysg 19 
 A2- Gofal cymdeithasol 18 
 A3- Tai 14 
 A4- Yr Economi 14 
 A5- Carbon sero 13 
 A6- Cymunedau 16 
 A7- Y Gymraeg 11 
 A8- Craidd 21 
 A9- Tlodi 16 
 B1- Llywodraethu 18 
 B2- Cyllid 20 
 B3- Y Gweithlu 18 

Mae'r canlyniadau uchod yn dangos cefnogaeth i'r holl amcanion llesiant drafft ac eithrio'r Gymraeg o bosibl:

  • Mae cefnogaeth gref i ofal cymdeithasol ac addysg, ein hamcanion llesiant craidd, yn ogystal â'r holl rai sy'n canolbwyntio’n fewnol.  Roedd cefnogaeth yn arbennig o gryf i'r amcan llesiant sy’n canolbwyntio ar wasanaethau craidd.  Adlewyrchwyd hyn yn yr ymatebion a gawsom ar gyfer ein hymgynghoriad diweddar ar y gyllideb.
  • Roedd cefnogaeth, er ei bod yn wannach, i’r amcanion llesiant sy’n ymwneud â thlodi, cymunedau, tai, yr economi a’r agenda carbon niwtral
  • Roedd cefnogaeth gyfyngedig i gynnwys amcan llesiant mewn perthynas â’r Gymraeg gyda'r rhan fwyaf o bobl yn ddifater ynghylch ei gynnwys.

Mae copi o'r adroddiad ymgynghori llawn ar yr amcanion llesiant drafft wedi'i gynnwys gyda phapurau'r Cyngor ar gyfer cyfarfod mis Mai 2023.  Mae'r canlyniadau hyn yn gyson ag ymarferion ymgynghori eraill a gynhaliwyd tuag at ddiwedd 2022 ac yn gynnar yn 2023.  Amlygodd trafodaethau grŵp a gynhaliwyd fel rhan o’r ymgynghoriadau ar amcanion llesiant y BGC fod angen i gyrff y sector cyhoeddus helpu i sicrhau bod gan gymunedau’r sgiliau cywir i helpu eu hunain a chynorthwyo cymunedau i ddysgu oddi wrth ei gilydd (mae’n ymwneud ag A6 – Cymunedau).  Yn yr un modd, dywedodd pobl ifanc fod angen llawer mwy o ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a'r hyn a oedd eisoes yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag ef, yn ogystal â llu o awgrymiadau ar gyfer camau gweithredu pellach y gellid eu cymryd.  Roedd llawer o'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â'r ymgynghoriad ffurfiol neu fel rhan o drafodaethau grŵp yn cytuno â chynnwys amcan llesiant mewn perthynas â thlodi gyda hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth arbennig o ddybryd yng ngoleuni'r argyfwng costau byw.

Dangosodd canlyniadau'r ymgynghoriad ar gyllideb y Cyngor 2023-24, a ddenodd 581 o ymatebion, mai toriadau i wasanaethau craidd fel trafnidiaeth gyhoeddus, llyfrgelloedd, gwasanaethau hamdden, toiledau cyhoeddus, a chlybiau ieuenctid oedd leiaf derbyniol i bobl o'i gymharu â ffyrdd eraill o ddod o hyd i arbedion.

Cydweithio

Mae cydweithio yn nodwedd gref ar sut y bydd y Strategaeth hon yn cael ei chyflawni a bydd ein holl amcanion llesiant yn dibynnu ar weithio gyda sefydliadau eraill er mwyn cyflawni deilliannau.  Mae'r adran gweithio rhanbarthol a chydweithredol yn esbonio'r saernïaeth sy'n tyfu i gefnogi cydweithredu ffurfiol. Mae’r amcanion llesiant canlynol yn golygu mwy o waith cydweithredol. Er enghraifft:

  • Mae amcan llesiant Yr Economi yn dibynnu ar gydweithio gyda chyflogwyr mawr, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a sefydliadau hyfforddi yn ogystal â chydweithio agos rhwng gwahanol adrannau yn y Cyngor, e.e. gofal cymdeithasol.
  • Mae deilliannau Addysg yn dibynnu ar weithio gyda, a chefnogi, cyrff llywodraethu sy'n rhedeg ysgolion ac sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o wariant addysg, yn ogystal â Partneriaeth, y consortiwm gwella addysg.
  • Gofal Cymdeithasol- Mae enghreifftiau’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, darparwyr yn y sector gofal annibynnol, mudiadau’r trydydd sector (yn enwedig trwy'r Hyb Cymunedol), a Phartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.
  • Tai- Mae enghreifftiau'n cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a landlordiaid preifat.

Integreiddio

Mae amcanion llesiant ychwanegol fel y Gymraeg, llywodraethu da, tlodi a newid hinsawdd yn adlewyrchu newidiadau i'r materion y mae'r Cyngor yn eu hwynebu (gweler tueddiadau hirdymor). Mae cynnwys yr amcanion llesiant newydd hyn yn golygu bod cyfeiriad y Cyngor yn cyd-fynd yn well â'r heriau hyn.

Mae'r amcanion llesiant newydd hefyd yn cyd-fynd yn dda ag amcanion llesiant newydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro (a restrir yn ein Datganiad Gweledigaeth).

Atal

Mae gweithredu ataliol yn gost-effeithiol gan ei fod yn lleihau'r angen am weithredu (sydd fel arfer yn llawer mwy costus) i fynd i'r afael â symptomau problemau. Mae atal yn rhan allweddol o'n dull o ddarparu gofal cymdeithasol a heb weithredu ataliol effeithiol mae costau gofal cymdeithasol yn debygol o godi i lefelau anghynaliadwy. Cyfeirir at gyrhaeddiad addysgol yn aml fel y cam ataliol mwyaf effeithiol i fynd i'r afael â'r risg o dlodi gyda gwasanaethau fel clybiau ieuenctid yn rhoi cymorth ychwanegol i bobl ifanc sy’n fwy agored i niwed.

Hirdymor

Mae ein hamcanion llesiant wedi'u bwriadu i ymateb i dueddiadau hirdymor. Mae newid hinsawdd yn enghraifft amlwg. Mae effaith newidiadau eraill, fel newid demograffig, yn fwy cynnil. 

Bydd ein poblogaeth sy'n heneiddio’n cynyddu'r galw am ofal cymdeithasol a bydd hyn hefyd yn lleihau nifer y bobl sy'n gweithio yn ein heconomi; mae mynd i'r afael â fforddiadwyedd tai yn allweddol i annog mwy o bobl ifanc i aros yn Sir Benfro neu adleoli i’r sir.

Sut y bydd pob corff cyhoeddus yn llywodraethu ei hun i gyflawni ei amcanion llesiant

Mae'r amcanion llesiant yn deillio o'r Rhaglen Weinyddu gan felly sicrhau cysondeb cryf â blaenoriaethau gwleidyddol y sefydliad. Mae prosesau llywodraethu'r Cyngor; y Cabinet gyda chraffu ar benderfyniadau a throsolwg ar effeithiolrwydd polisïau gan bwyllgorau sy'n gytbwys yn wleidyddol mewn sefyllfa dda i gynnal ffocws ar gyflawni amcanion llesiant.

Rydym eisoes wedi gwneud sylwadau am brosesau monitro a sut mae camau gweithredu'n cael eu gwreiddio, trwy gynlluniau gwasanaeth tymor canolig, yng nghynlluniau perfformiad unigolion yn ein hadran ar y fframwaith rheoli perfformiad.

Sut y bydd pob corff cyhoeddus yn adolygu'r camau y mae'n eu cymryd i gyflawni ei amcanion llesiant

Mae'r camau gweithredu (neu'r camau yn iaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol) wedi'u rhestru o dan bob amcan llesiant.  Yn hyn o beth, mae camau gweithredu lefel uwch yn cael eu tanategu gan is-gamau gweithredu (sy’n aml yn fwy byrdymor). Mae camau gweithredu lefel uwch yn aml yn ymrwymiadau o fewn y Rhaglen Weinyddu ac rydym yn rhagweld y bydd y rhain yn llai tebygol o newid. Mewn cyferbyniad, mae is-gamau gweithredu’n debygol o gael eu hadolygu'n amlach, naill ai am ein bod yn disgwyl iddynt gael eu cwblhau neu am bod cynnal ffocws ar ddeilliannau’n golygu bod angen gwahanol fathau o gamau gweithredu oherwydd newidiadau yn yr amgylchedd allanol.

Bydd proses yr hunanasesiad (ac asesiad panel) yn canolbwyntio ar y camau gweithredu i gyflawni ein hamcanion llesiant a'n cynnydd yn eu herbyn. Fel a nodwyd, bydd ffocws pum mlynedd i’r Strategaeth Gorfforaethol, ond bydd yn cael ei hadolygu'n flynyddol gyda'r dystiolaeth o'r hunanasesiad yn cael ei hystyried. Bydd y sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr hunanasesiad yn cynnwys safbwyntiau cwsmeriaid a dinasyddion sy'n ddefnyddiol ar gyfer barnu cynnydd yn erbyn canlyniadau.

Sut y bydd pob corff cyhoeddus yn sicrhau bod adnoddau, gan gynnwys adnoddau ariannol, yn cael eu dyrannu bob blwyddyn at ddiben cymryd camau i gyflawni ei amcanion

Bydd y prif fecanweithiau y byddwn yn eu defnyddio i sicrhau bod digon o adnoddau’n cael eu darparu i gyflawni’r amcanion llesiant yn cynnwys proses y cynlluniau gwasanaethau tymor canolig sy'n cysylltu â'r ymarfer cynllunio cyllideb blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod a chreu Cynllun Ariannol Tymor Canolig byw.

Fel pob Cyngor, mae cryn dipyn o wariant refeniw Cyngor Sir Penfro yn dod o gyllid allanol. Yn 2023-24, mae'r Cyngor yn bwriadu gwario £262.0m o wariant net amcangyfrifedig gwreiddiol (£481.2m gros) tra bo’r Dreth Gyngor, gan gynnwys y 7.5% y cytunwyd arno, wedi codi dim ond £74.2m.  Bydd newidiadau i lefelau ariannu allanol yn cael effaith sylweddol ar ein gallu i gyflawni amcanion llesiant.  Trafodwyd yr effaith ar godi lefelau’r dreth gyngor yn yr asesiad effaith a oedd yn cyd-fynd â chyllideb 2023-24; mae’r Dreth Gyngor yn dreth atchweliadol ac mae hyn yn arbennig o arwyddocaol yng nghyd-destun argyfwng costau byw.

Byddwn yn uchelgeisiol a byddwn yn adnabod ffynonellau cyllido newydd ar gyfer pobl Sir Benfro.  Mae angen i ni reoli disgwyliadau hefyd; dros y pum mlynedd nesaf mae'n rhaid i ni ddisgwyl gostyngiad parhaus mewn termau real yn y cyllid ac mae hyn yn debygol o effeithio ar ein gallu i gyflawni mewn rhai achosion, neu fe allai olygu bod angen aildrefnu graddfeydd amser.

Pryd y mae pob corff cyhoeddus yn disgwyl cyflawni ei amcanion llesiant

Rydym wedi nodi yn yr adran camau gweithredu ym mhob amcan llesiant pa un a ydym o'r farn bod camau gweithredu yn debygol o gael eu cwblhau yn y tymor canolig ynteu yn y tymor byr. Po fwyaf uchelgeisiol yw amcan a pho fwyaf y mae’n canolbwyntio ar ddeilliannau, po leiaf sicr y gallwn fod ynghylch graddfeydd amser. Bydd yr hunanasesiad yn ystyried yr amserlenni hyn wrth adrodd ar gynnydd.

Cymhariaeth ag amcanion llesiant blaenorol

Mae’r canlynol yn cymharu amcanion llesiant presennol y Cyngor â’r amcanion llesiant newydd yn y cynllun hwn. Mae hyn yn dangos bod parhad gyda'r amcanion a nodwyd yn y weinyddiaeth flaenorol, ond hefyd bod yr amcanion wedi ehangu o ran uchelgais a chwmpas mewn ymateb i adfer o'r pandemig a'r ffocws cynyddol ar newid hinsawdd.

  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “A1- Byddwn yn gwella'r ddarpariaeth addysg a dysgu, gan arfogi ein dysgwyr â sgiliau a gwybodaeth gydol oes y bydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol” yn cyfateb i'n hamcan llesiant blaenorol o “Sir Benfro – lle gwych i ddysgu, byw a thyfu”.
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “A2- Byddwn yn sicrhau darpariaeth briodol o ran gofal a chymorth, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel” yn cyfateb i'n hamcan llesiant blaenorol o “Byddwn yn gwneud beth bynnag a allwn i gynorthwyo pobl i fyw’r bywyd gorau y gallant tra’n canolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel”.
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “A3- Byddwn yn galluogi darparu cartrefi sy’n fforddiadwy, sydd ar gael, y gellir eu haddasu ac sy’n defnyddio ynni’n effeithlon” yn cyfateb i'n hamcan llesiant blaenorol o “Gwneud cartrefi fforddiadwy, gweddus ac addasadwy yn bosibl i bawb mewn lleoliadau cynaliadwy”.
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “A4- Byddwn yn cyflawni ein huchelgais economaidd trwy gefnogi twf, swyddi a ffyniant ac yn galluogi'r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach” yn cyfateb i'n hamcan llesiant blaenorol o “Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo Sir Benfro fel lle gwych i ymweld, byw a gweithio ynddo”.
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “A5- Byddwn yn hybu ac yn cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng natur” yn cyfateb i'n hamcan llesiant blaenorol o “Mae’n cysylltu â Byddwn yn hybu balchder yn Sir Benfro gan geisio gwella ei henw da fel lle am ansawdd amgylcheddol eithriadol”.
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “A6- Byddwn yn cefnogi ein cymunedau, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy i helpu i greu cymunedau llesol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol” yn cyfateb i'n hamcan llesiant blaenorol o “Mae’n cysylltu â Thrawsnewid Perthnasoedd – creu, mewn ymgynghoriad â'n staff a'n rhanddeiliaid allanol, partneriaeth newydd”.
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “A7- Byddwn yn cefnogi'r Gymraeg o fewn cymunedau a thrwy ysgolion” nid oes ganddo amcan llesiant blaenorol
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “A8- Byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar ddarparu gwasanaethau craidd megis priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu'r cyhoedd a hamdden a diwylliant sy'n cyfrannu at ansawdd bywyd pob cymuned, gan sicrhau bod trigolion yn byw mewn cymdogaethau sy'n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llesol” yn cyfateb i'n hamcan llesiant blaenorol o “Byddwn yn hybu balchder yn Sir Benfro gan geisio gwella ei henw da fel lle am ansawdd amgylcheddol eithriadol”.
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “A9- Byddwn yn datblygu strategaeth i leihau tlodi ac anghydraddoldeb” nid oes ganddo amcan llesiant blaenorol
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “B1- Byddwn yn adeiladu diwylliant o lywodraethu da yn y Cyngor i wella ymddiriedaeth a hyder yn ein prosesau penderfynu” nid oes ganddo amcan llesiant blaenorol
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “B2- Byddwn yn Gyngor sy’n gynaliadwy ac yn gydnerth yn ariannol ac sy'n rheoli ein hadnoddau a'n hasedau'n effeithiol ac yn effeithlon, er enghraifft trwy adolygu a gwneud y gorau o'n hystâd gorfforaethol” yn cyfateb i'n hamcan llesiant blaenorol o Mae’n cysylltu â Thrawsnewid technolegol – defnyddio technoleg i’r eithaf alluogi newid busnes, gan greu effeithlonrwydd, a galluogi gweithlu mwy ystwyth”.
  • Mae ein hamcan llesiant newydd: “B3- Byddwn yn gwella datblygiad ein gweithlu, gan wella sgiliau a chyfleoedd yn ogystal â mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw” yn cyfateb i'n hamcan llesiant blaenorol o “Mae’n cysylltu â Thrawsnewid diwylliannol - datblygu diwylliant sy'n cyd-fynd â ffordd o weithio sy'n seiliedig ar werthoedd, nid ar reolau”.
ID: 10920, adolygwyd 05/01/2024