Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028

Cydnerthedd Ariannol

B2- Byddwn yn Gyngor sy’n gynaliadwy ac yn gydnerth yn ariannol ac sy'n rheoli ein hadnoddau a'n hasedau'n effeithiol ac yn effeithlon, er enghraifft trwy adolygu a gwneud y gorau o'n hystâd gorfforaethol

Thema hunanasesu: Cynllunio a rheoli adnoddau.

Rhesymeg

  • Roedd y fersiwn ddiweddaraf o'n Cofrestr Risgiau Corfforaethol yn nodi cydnerthedd ariannol fel y risg â’r sgôr uchaf yn y Cyngor.  Mae angen i'r Cyngor fod â Chynllun Ariannol Tymor Canolig sy'n gynaliadwy yn ariannol er mwyn sicrhau y gall ymateb i bwysau ariannol nas rhagwelwyd a allai arwain at bwysau o ran llifoedd arian parod yn ystod y flwyddyn a phwysau ariannol byrdymor a hirdymor, gan arwain at ddihysbyddu cronfeydd wrth gefn/balansau gweithio, lefelau darparu gwasanaethau anghynaliadwy a rhaglen gyfalaf anfforddiadwy ac ôl-ddyledion cynyddol. 
  • Mae pwysau sylweddol ar adnoddau a fydd, yn ôl pob tebyg, yn parhau trwy gydol cyfnod y cynllun hwn (gweler yr adran ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig) a chyllid cyhoeddus yn golygu bod angen i ni ystyried sut y mae ein holl adnoddau ac asedau o gymorth i ddarparu ar gyfer cymunedau.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Gweithio gyda'r holl randdeiliaid allweddol i gytuno ar gyllideb fforddiadwy a mantoledig flynyddol, ac yna’i chyflawni fel rhan o Gynllun Ariannol Tymor Canolig cynaliadwy ac ymatebol.
  • Cyfathrebu'n glir beth yw’r bygythiadau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r Cyngor ac argymell mesurau priodol ar gyfer lliniaru a manteisio i’r eithaf.
  • Mynd ar drywydd cyfleoedd 'buddsoddi i arbed' ac 'ailgyflunio gwasanaethau' i sicrhau arbedion ac effeithlonrwydd yn y dyfodol.
  • Adnabod ffrydiau incwm amgen i helpu i gau bylchau ariannu rhagamcanol gan ddefnyddio pŵer cymhwysedd cyffredinol y Cyngor.
  • Argymell opsiynau blaenoriaethu i ddiogelu gwasanaethau statudol a'r rhai y mae eu hangen ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein Sir.
  • Cael barn cymaint o drigolion â phosibl trwy’r ymgynghoriad blynyddol ynghylch y gyllideb gyda rhanddeiliaid.
Gweithio tuag at gyflwyno gwybodaeth “fyw” am y sefyllfa ariannol a’r sefyllfa o ran adnoddau i randdeiliaid.
Mynd ati’n barhaus i wella'n prosesau a'n cynhyrchiant busnes i ddarparu gwasanaethau addas ar gyfer y diben am y gost gynaliadwy isaf.
Pontio o arlwy draddodiadol ar gyfer cwsmeriaid i brofiad aml-sianel modern, digidol i gefnogi pob dinesydd.
  • Parhau â'n hymgais i fod yn Gyngor sy'n gymwys yn ddigidol ac sy'n cael ei ysgogi gan ddata, er mwyn ei gwneud yn bosibl dadansoddi a gwneud penderfyniadau mewn modd effeithiol a thargedu adnoddau yn fwy effeithiol.
  • Rhyngweithio a chyfathrebu gyda chwsmeriaid a darparu gwasanaethau gan ddefnyddio ystod o dechnolegau digidol.
Ymdrechu i ddod yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar berfformiad gan ddarparu gwasanaethau modern, effeithiol ac effeithlon.
ID: 10916, adolygwyd 05/01/2024