Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028

Cyllid i mewn i'r Tymor Canolig

Cytunwyd ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27 gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2023.

Bydd y setliad gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 a'r cynnydd yn y setliad dangosol ar gyfer 2024-25 yn cynorthwyo gyda'n cynllunio ariannol tymor hwy.

Canfu asesiad fod bwlch ariannu rhagamcanol rhwng £36.3m (yr achos gorau) a £67.1m (yr achos gwaethaf) ar gyfer 2023-24 i 2026-27 gan ystyried ailbrisio'r gyllideb sylfaenol, amcangyfrif newidiadau yn y dyfodol i sylfaen y Cyllid Allanol Cyfun a’r Dreth Gyngor, y cyfraddau chwyddiant cyflogau a chwyddiant heblaw am gyflogau posibl ac effaith barhaus bosibl pandemig COVID-19 a'r argyfwng Costau Byw. Y disgwyliadau presennol ym mis Mawrth 2023 o ran y rhagdybiaethau 'mwyaf tebygol' yw y bydd bwlch ariannu rhagamcanol gwerth £51.7m dros dymor y CATC. Mae'r rhagdybiaethau a'r amcangyfrifon yn cael eu hadolygu a'u diwygio'n barhaus, felly bydd y bylchau ariannu rhagamcanol yn newid. Mae'r CATC yn amlinellu ei ragdybiaethau a sut y bydd newidiadau yn y rhagdybiaethau hyn yn effeithio ar y bwlch ariannu rhagamcanol.

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi sut y bydd y sefyllfa gyllidebol fwyaf tebygol o £51.7m yn datblygu dros y flwyddyn hon a'r tair blynedd ganlynol.  Bydd angen cyfuniad o arbedion cyllidebol, incwm ychwanegol o gynnydd yn y Dreth Gyngor 'Band D', defnydd parhaus o Bremiwm y Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi neu'r defnydd posibl o gronfeydd wrth gefn i bontio'r bylchau ariannu rhagamcanol a nodwyd ar gyfer y CATC.

Mae datblygu'r CATC yn broses ailadroddol ac mae'n cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn rhoi sylw i faterion sy'n dod i'r amlwg.  Mae rhifyn mis Tachwedd 2022 o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn nodi nad yw gwaith i greu CATC byw yn gyflawn o hyd ac y dylai fod yn gyflawn erbyn mis Medi 2023.

 Y Senario Mwyaf Tebygol  2023-24 (£'m)  2024-25 (£'m)  2025-26 (£'m)  2026-27 (£'m)
 Cyfanswm Cyllid Allanol Cyfun (16.5)  (6.6)  (6.8)  (7.0) 
 Cyfanswm y Newid i Sylfaen y Dreth y Cyngor*  0.1  0.0  0.0  0.0 
 Cyfanswm Pwysau Gwasanaethau  32.5  17.5  14.1  14.0 
 Cyfanswm Pwysau Eraill 2.5  5.0  1.8  1.1 
 Bwlch Ariannu Rhagamcanol 18.6  15.9  9.1  8.1 

*Er y bydd Newid i Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y cyfnod rhwng 2024-25 a 2026-27, nid yw'n hysbys beth fydd ond bydd unrhyw gynnydd yn lleihau'r bwlch ariannu a ragamcanir.

ID: 10919, adolygwyd 06/10/2023