Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028
Cymunedau Cynaliadwy
A6- Byddwn yn cefnogi ein cymunedau, gan gynnal perthnasoedd cadarnhaol â hwy i helpu i greu cymunedau llesol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol
Cyfraniad at nodau llesiant cenedlaethol
Rydym o'r farn y bydd ein hamcan llesiant cymunedau cynaliadwy yn gwneud cyfraniad arbennig at y nodau llesiant cenedlaethol canlynol:
- Cymru o gymunedau cydlynus.
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Rhesymeg
- Dangosodd yr ymateb i bandemig COVID-19 gryfder a grym gweithredu cymunedol. Mae angen cynnal a chryfhau hyn er mwyn sicrhau bod ein cymunedau'n dod hyd yn oed yn fwy cynaliadwy, dyfeisgar a chydnerth.
- Mae gan Gynllun Llesiant newydd y BGC amcan penodol i "alluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol". Fel partner allweddol ar y BGC rydym wedi ymrwymo i brif ffrydio hyn yn ein gweithgareddau.
- Mae'r Cynllun Rheoli Asedau a fabwysiadwyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Chwefror 2023 yn nodi Cymunedau Cydnerth fel ei bedwaredd thema, ac yn gosod amcan i gynorthwyo cymunedau lleol i gymryd mwy o reolaeth dros dir ac eiddo.
- Mae tystiolaeth yn dangos bod sector cymunedol Sir Benfro, boed y trydydd sector neu ei 77 o Gynghorau Tref a Chymuned, yn un o'i chryfderau allweddol.
Yr hyn yr ydym yn mynd i’w wneud
Prosesau penderfynu cymunedol: Cynnwys cymunedau a dinasyddion yn fwy ystyrlon wrth wneud penderfyniadau lleol.
- Darparu arweinyddiaeth i wella effeithiolrwydd ac effaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Gwella cyfranogiad democrataidd, cynyddu amrywiaeth a hybu ymddiriedaeth.
Cydweithio â chymunedau: Newid o’r ffyrdd traddodiadol o weithio o'r brig i lawr mewn gwasanaethau cyhoeddus, i ddulliau mwy cydweithredol sy'n cynnwys ein hasiantaethau partner a'n cymunedau fel partneriaid hanfodol.
- Hyrwyddo diwylliant gwirfoddoli o fewn CSP fel ein bod yn arwain trwy esiampl.
- Meithrin gwell dealltwriaeth am ein cymunedau gan ddefnyddio data a mewnwelediadau lleol.
- Ceisio sicrwydd mai'r buddsoddiadau a wnawn yw'r rhai cywir, gan gydnabod y bydd yr effaith yn un hirdymor.
- Cynyddu ein hymgysylltiad â Chynghorau Tref a Chymuned.
- Cysylltu bwriadau da ac adnoddau CSP â gwybodaeth ymarferol a gweithredaeth gymunedol mewn ardaloedd lleol.
Adeiladu capasiti, gallu a hyder cymunedol: Helpu i arfogi cymunedau â'r adnoddau a'r sgiliau y mae eu hangen arnynt i gyfranogi go iawn mewn gweithredu lleol.
- Galluogi ein cymunedau i fod yn fwy dyfeisgar.
- Lleihau biwrocratiaeth a chynyddu hyblygrwydd, yn enwedig o ran Grant Gwella Sir Benfro a Throsglwyddo Asedau Cymunedol.
Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl o Wcráin yn cael eu hadsefydlu’n llwyddiannus yn Sir Benfro.
ID: 10911, adolygwyd 06/10/2023