Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028

Datganiad Gweledigaeth

Ein gweledigaeth fel Cyngor yw 'gweithio gyda'n gilydd, gwella bywydau'. Mae hyn yn cyfleu’n gryno beth mae gweithio i Gyngor Sir Penfro’n ei olygu ac yn darparu ein diben craidd fel sefydliad.

Mae Rhaglen Weinyddu'r Cabinet yn sefydlu gweledigaeth dymor hwy ar gyfer sut rydym am i Sir Benfro fod yn awr ac yn y dyfodol i’n cymunedau, ein lleoedd a'n pobl:

  • Mae Sir Benfro yn lle gwych i fyw ynddo, gweithio ynddo ac ymweld ag ef
  • Mae ein pobl ifanc a'n dysgwyr yn cael addysg o safon uchel
  • Mae pobl fregus yn cael gofal a chymorth trwy eu cylch oes
  • Mae tai priodol ar gael, yn hygyrch ac yn fforddiadwy
  • Mae Sir Benfro’n sir â statws carbon net, sy'n arwain y ffordd o ran ynni adnewyddadwy gwyrdd a glas
  • Mae llai o deuluoedd ac aelwydydd yn profi tlodi ac anghydraddoldeb
  • Mae ein cymunedau'n weithgar ac yn ffynnu
  • Rydym yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i genedlaethau'r dyfodol drwy'r pethau yr ydym yn eu gwneud heddiw

Fel sefydliad, mae ein gwaith yn cyd-fynd â'r Cynllun Llesiant trosfwaol ar gyfer Sir Benfro a gyhoeddir gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir Benfro ym mis Mai 2023, ac mae’n cyfrannu ato. Mae'r BGC yn bartneriaeth strategol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau allweddol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn y Sir. 

Mae gan y BGC ddyletswydd ar y cyd i wella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol pobl a chymunedau yn Sir Benfro. Fel un o bartneriaid statudol y BGC, mae gan y Cyngor rôl arwain allweddol yng ngwaith y bartneriaeth. Gan hynny, mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i weledigaeth y BGC ar gyfer Sir Benfro a'r amcanion llesiant y mae wedi'u sefydlu sy’n gweithredu fel y fframwaith ar gyfer ei Gynllun Llesiant. Gweledigaeth y BGC yw:

Datgloi pŵer a photensial pobl a chymunedau Sir Benfro fel bod ein pobl yn hapus, yn iach ac yn byw'n dda, fel bod ein cymunedau'n garedig, yn ddiogel, yn ddyfeisgar ac yn fywiog, ac fel bod ein heconomi’n wyrdd ac yn ffynnu, a’n hamgylchedd yn cael ei ddiogelu a'i wella.

Amcanion Llesiant y BGC yw:

  • Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi pontio i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach
  • Gweithio gyda'n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant
  • Hybu a chefnogi mentrau i gyflawni datgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i'r afael ag argyfwng natur
  • Galluogi cymunedau diogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol
ID: 10899, adolygwyd 06/10/2023