Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028

Datgarboneiddio a'r Argyfwng Natur

A5- Byddwn yn hybu ac yn cefnogi mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng natur

Cyfraniad at nodau llesiant cenedlaethol

Rydym o’r farn y bydd ein hamcan llesiant datgarboneiddio ac argyfwng natur yn gwneud cyfraniad arbennig at y nodau llesiant cenedlaethol canlynol:

  • Cymru gydnerth.
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Rhesymeg

  • Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro wedi mabwysiadu amcan llesiant ar gyfer carbon sero net a'r argyfwng natur.  Er mwyn cyflawni hyn rhaid wrth weithredu trawsbynciol gan bob un o'i bartneriaid.
  • Ymgynghorodd y Cyngor ar 'Gynllun Gwyrdd Mawr' yn gynnar yn 2022 sy'n nodi ein huchelgais i fod yn garbon niwtral fel sefydliad erbyn 2030.
  • Mae newid hinsawdd a'r argyfwng natur yn mynd law yn llaw. Mae gan Sir Benfro nifer fawr o safleoedd sydd wedi'u dynodi oherwydd arwyddocâd eu bioamrywiaeth. Trwy Ddeddf yr Amgylchedd mae dyletswydd arnom i gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer ein swyddogaethau.

Yr hyn yr ydym yn mynd i’w wneud

Cyflawni ein cynllun i fod yn sefydliad carbon sero net erbyn 2030 – ein Cynllun Gwyrdd Mawr.
  • Hyrwyddo pwysigrwydd cynaliadwyedd amgylcheddol, gan ennill calonnau a meddyliau fel bod pawb yn ein cymunedau yn cael eu hysbrydoli i wneud eu rhan.
  • Cydlynu a chynnal goruchwyliaeth ar weithgareddau carbon sero trwy Fwrdd Cynaliadwyedd.
  • Cael gwared ar garbon o weithrediadau'r Cyngor boed hynny’n oleuadau stryd, gwresogi ein hadeiladau corfforaethol neu o'r allyriadau pibellau gwacau ein fflyd cerbydau.
  • Buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith i gefnogi'r newid i gerbydau trydan/â thanwydd hydrogen.
  • Datblygu rhwydwaith o lwybrau beicio a cherdded rhwng 10 o'n trefi i leihau'r defnydd o geir ac annog pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Rheoli ein tir a'n hasedau i sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei wella a'i ddiogelu.
  • Cynnal a cheisio gwella bioamrywiaeth ac ecoleg ledled Sir Benfro yn unol â'n dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd.
Parhau i fod yn awdurdod lleol blaenllaw o ran ailgylchu, er enghraifft buddsoddi mewn Parc Eco tra modern a chefnogi prosiectau’r economi gylchol.

 

ID: 10910, adolygwyd 06/10/2023