Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028

Gwasanaethau Craidd

A8- Byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar ddarparu gwasanaethau craidd megis priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu'r cyhoedd a hamdden a diwylliant sy'n cyfrannu at ansawdd bywyd pob cymuned, gan sicrhau bod trigolion yn byw mewn cymdogaethau sy'n lân, yn wyrdd, yn ddiogel ac yn llesol

Cyfraniad at nodau llesiant cenedlaethol

Rydym o’r farn y bydd ein hamcan llesiant gwasanaethau craidd yn gwneud cyfraniad arbennig at y nodau llesiant cenedlaethol canlynol:

  • Cymru lewyrchus.
  • Cymru gydnerth.
  • Cymru iachach.
  • Cymru sy’n fwy cyfartal.
  • Cymru o gymunedau cydlynus.
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Rhesymeg

  • Gwasanaethau craidd fel priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, diogelu'r cyhoedd a hamdden a diwylliant yw'r rhai y mae ein trigolion yn ystyried eu bod yn wasanaethau hanfodol gan y Cyngor.  Mae hyn yn gosod disgwyliad o ran perfformiad gwasanaethau.
  • Mae'r gwasanaethau hyn yn tanategu llesiant pobl ac fe gafodd y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a mynediad at ddarpariaeth mannau agored o ansawdd da ei gydnabod gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ym Maniffesto y Dyfodol.
  • Mae tystiolaeth yn dangos bod gwasanaethau craidd o ansawdd, yn enwedig amgylchedd lleol a gynhelir yn dda, yn arbennig o bwysig i drigolion o grwpiau agored i niwed a hynny i raddau mwy helaeth na thrigolion yn gyffredinol.
  • Mae cynnwys pobl yn y broses o ddylunio a darparu gwasanaethau craidd yn atgyfnerthu ein hamcan llesiant.

Yr hyn yr ydym yn mynd i’w wneud

  • Cynnal a cheisio gwella ansawdd yr amgylchedd lleol (ar strydoedd, tir y cyhoedd, mewn parciau, yng nghefn gwlad ac ar draethau) trwy, er enghraifft, ffocws ar leihau troseddau amgylcheddol.
  • Cynnal a cheisio gwella ansawdd yr amgylchedd lleol (ar strydoedd, tir y cyhoedd, mewn parciau, yng nghefn gwlad ac ar draethau) trwy, er enghraifft, ffocws ar leihau troseddau amgylcheddol.   
  • Cynnal a chadw ein priffyrdd mewn cyflwr da, gwella diogelwch ar y ffyrdd a cheisio gwella ac estyn y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
  • Parhau i ddarparu ystod gynhwysfawr o gyfleusterau a rhaglenni hamdden, llyfrgell a diwylliannol o ansawdd da sy'n cefnogi iechyd a llesiant ein trigolion.
  • Gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnal diogelwch y cyhoedd.
  • Cefnogi amgylchedd byw a gweithio diogel trwy ddarparu gwasanaethau diogelu'r cyhoedd mewn modd effeithlon ac effeithiol.
  • Gwella hygyrchedd, dewis a phrofiad ein cwsmeriaid wrth ymwneud â'r cyngor, gan ddylunio gwasanaethau o amgylch anghenion cwsmeriaid a dinasyddion.
  • Parhau i wella a chynnal arferion Ailgylchu ac Ailddefnyddio yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru gan gynnwys "Tuag at Ddyfodol Diwastraff" a "Mwy nag Ailgylchu" a deddfwriaeth gysylltiedig.
ID: 10913, adolygwyd 06/10/2023