Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028
Sir Benfro yn ei chyd-destun
Poblogaeth
Roedd cyfanswm poblogaeth o 123,360 yn 2021 sy’n 3.97% o gyfanswm poblogaeth Cymru. Mae hyn wedi cynyddu 0.8% ers 2011, sy'n cynrychioli cyfradd twf is na'r gyfradd gyfartalog ar gyfer siroedd Cymru a chyfradd twf is na'r hyn a ddynodwyd gan amcangyfrifon (canol blwyddyn) blaenorol.
Rhagamcanir y bydd y boblogaeth gyfan yn tyfu i tua 128,500 erbyn 2033 a 130,200 erbyn 2043 (yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth 2018 a fydd yn cael eu diweddaru yng ngoleuni Cyfrifiad 2021). Mae hon yn gyfradd twf is na chynghorau eraill Cymru.
Mae 26% o'r boblogaeth dros 65 oed, y 4ydd uchaf yng Nghymru a’r 35ain uchaf allan o ardaloedd pob un o'r 331 o gynghorau yng Nghymru a Lloegr. Dim ond 18.9% o'r boblogaeth sydd rhwng 30 a 44 oed, y pumed isaf yng Nghymru. Roedd yr oedran canolrifol yn 48 yn 2021, i fyny o 42.9 yn 2011.
Mae disgwyliad oes adeg geni ar gyfer dynion rhwng 2017 a 2019 yn 79.19 mlynedd, yr 8fed uchaf yng Nghymru. Ar gyfer menywod, y ffigurau cyfatebol yw 83.02 mlynedd, hefyd yr 8fed uchaf. Fodd bynnag, nid yw disgwyliad oes dynion na menywod yn cymharu'n ffafriol ag ardaloedd cynghorau yn Ne Orllewin Lloegr, y mae gan lawer ohonynt ddemograffeg ac economi leol sy’n debyg i Sir Benfro.
Mae tua 2.4% o'r boblogaeth o leiafrif ethnig yn seiliedig ar ffigurau cychwynnol Cyfrifiad 2021.
O'r 120,200 o drigolion Sir Benfro sy'n dair oed neu'n hŷn, mae 17% yn gallu siarad Cymraeg, yr 8fed ffigwr uchaf yng Nghymru. Mae hyn yn llawer is nag amcangyfrif 2018 o 30.2% yn seiliedig ar waith sampl y cyfrifiad.
Lle
Mae Sir Benfro yn ymestyn dros arwynebedd o 1,618 km², a hi yw'r 5ed sir fwyaf yng Nghymru. Mae 76 o bobl y km², sy’n debyg iawn i Sir Gâr a thua dwbl dwysedd Ceredigion. (Mae'r boblogaeth wedi’i gwasgaru’n llawer mwy cyfartal nag mewn awdurdodau cyfagos.)
Ceir nifer fawr o ddynodiadau amgylcheddol gan gynnwys Parc Cenedlaethol (yr unig un a ddynodwyd oherwydd ei nodweddion arfordirol), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, SoDdGAoedd a safleoedd daearegol a geomorffolegol o bwysigrwydd rhanbarthol. Ceir nifer fawr o rywogaethau gwarchodedig, yn fflora ac yn ffawna, yn rhai morol a daearol.
Trafnidiaeth a hygyrchedd
Mae cyfanswm o 2,600 km o ffyrdd y mae ychydig o dan 2,500 km ohonynt yn cael eu cynnal gan y Cyngor. Mae 47% o'r ffyrdd wedi’u dosbarthu fel rhai B&C, 42% yn isffyrdd ac mae 11% yn ffyrdd A (gan gynnwys cefnffyrdd). Mae'n bellter o 75km nes cyrraedd dechrau'r draffordd agosaf.
Yn 2021 roedd traffig ffyrdd tua 627 miliwn o filltiroedd cerbydau, tua 85% o'r cyfartaledd yn y pedair blynedd cyn y pandemig.
Mae gan Sir Benfro ddau borthladd y gellir croesi ohonynt i Weriniaeth Iwerddon. Effeithiwyd ar y ffigurau diweddaraf o 2021 gan gyfyngiadau teithio COVID-19. Bu 105,000 o symudiadau teithwyr trwy Abergwaun yn 2021 (gostyngiad hirdymor o tua 75% ers 2011) tra bo 118,000 wedi mynd trwy Benfro (gostyngiad o tua 64% ers 2019). Caergybi yw’r prif borthladd ar gyfer Gweriniaeth Iwerddon, gyda 75% o'r farchnad teithwyr, ond mae hwn hefyd wedi profi gostyngiad o 57% rhwng 2019 a 2021.
Aberdaugleddau oedd y pedwerydd porthladd mwyaf yn y DU yn 2021 (yn seiliedig ar dunelledd) ar tua 30 miliwn o dunelli. Aberdaugleddau yw un o borthladdoedd ynni mwyaf arwyddocaol y DU o hyd.
Yn Sir Benfro nid yw 0.6% yn gallu cael band eang digonol. Mae 82% yn cael mwy na 30 Mbps. Mae buddsoddiad sylweddol parhaus yn digwydd mewn ffeibr llawn ac erbyn hyn mae gan 30% o gartrefi fynediad at ffeibr a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid sy'n cyrraedd y safle. Disgwylir i hyn gynyddu i 50% erbyn diwedd blwyddyn galendr 2023.
Economi
Roedd 73.8% mewn cyflogaeth yn 2022, y mae 14% ohonynt yn hunangyflogedig o'i gymharu ag 8.5% yng Nghymru.
Bydd pandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau teithio cysylltiedig wedi cael effaith uniongyrchol ar y prif sectorau cyflogaeth ar ddata diweddaraf 2021. Dyma'r pum prif sector yn Sir Benfro yn seiliedig ar ddata BRES 2021 (sy'n canolbwyntio ar gyflogeion): Gwasanaethau llety a bwyd 16%; Iechyd 16%; Manwerthu 10%; Addysg 9%; Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn 6%. Mae data Cyfrifiad 2021, sy'n cynnwys pobl sy'n hunangyflogedig, yn paentio darlun tebyg ac eithrio’r sector adeiladu - 10% yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021 ond dim ond 5% yn seiliedig ar BRES.
Yn 2019 roedd diwydiant twristiaeth Sir Benfro’n werth £590m y flwyddyn gyda 7.053m o ymweliadau, a hynny’n cefnogi 9,244 o swyddi CagALl a 101,341 o welyau. A siarad yn fras iawn, mae nifer yr ymweliadau’n debyg i Fae Abertawe; fodd bynnag, mae nifer y swyddi a gefnogir gan y diwydiant tua dwbl yn Sir Benfro o'i gymharu â Bae Abertawe. Cafodd y pandemig effaith uniongyrchol ar ffigurau 2020 a 2021; nid yw ffigurau 2022 ar gael eto.
Mae canran y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn Sir Benfro (sy'n fesur o ddiweithdra) ym mis Mawrth 2023 yn 4.3% o'r boblogaeth economaidd weithgar, yr un fath â chyfradd Cymru gyfan.
O ran y sefyllfa yn 2022, Sir Benfro sydd â'r nawfed gyfradd amser llawn fesul awr ganolrifol uchaf ar gyfer enillion, sef £609.60. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o’i gymharu â ffigwr 2020. Mae enillion y 25ain ganradd yn £474.70, y chweched uchaf ar gyfer y mesur hwn yng Nghymru a gwelliant cymharol sylweddol ers 2020.
Yn 2021/22, Sir Benfro sydd â'r bedwaredd ganran uchaf o blant sy'n byw mewn tlodi cymharol, tua 24.7%. Benfro sydd â'r ail gyfradd uchaf o dlodi plant absoliwt yng Nghymru, sef 17.2%. Er bod tlodi, yn enwedig tlodi cymharol, wedi cynyddu yn dilyn y pandemig, mae sefyllfa Sir Benfro o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill Cymru yn parhau i fod yn ddigyfnewid i raddau helaeth. Mae cyfraddau tlodi plant yn amrywio'n sylweddol ledled Sir Benfro.
Gwasanaethau cymdeithasol i blant ac oedolion
Ym mis Ionawr 2023 roedd 54 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant a 233 o blant sy'n derbyn gofal.
Ym mis Ionawr 2023, roedd tua 641 o oedolion yn cael gwasanaeth gofal cartref. Mae'r nifer hwn wedi gostwng yn gyson dros amser o tua 1,400 bum mlynedd yn ôl gan i oddeutu 1,000 ym mis Mawrth 2020 a 740 ym mis Ionawr 2021. Rhan o'r rheswm dros hyn yw cynnydd yn y defnydd o Daliadau Uniongyrchol.
O ran y sefyllfa ym mis Mawrth 2023 mae gan CSP y capasiti i ddarparu 36 o'r 775 o welyau gofal preswyl ar draws pob math o leoliadau (e.e. preswyl, seibiant) ledled Sir Benfro yn uniongyrchol. Er bod y ganran yn fach o hyd, mae hyn yn atal / gwrthdroi dirywiad dros ddegawdau yn y gofal cymdeithasol preswyl a ddarperir yn uniongyrchol gan CSP.
Mae gofal cymdeithasol yn gyflogwr pwysig. O ran y sefyllfa yn 2022 mae tua 841 o bobl yn gweithio yn Sir Benfro mewn gofal cartref a dydd neu mewn rolau cefnogi pobl yn ogystal â thua 976 yn gweithio ym maes gofal preswyl (gan gynnwys lleoliadau anableddau dysgu ac iechyd meddwl).
Ysgolion
Mae 61 o ysgolion yn Sir Benfro gyda thua 17,220 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae gennym rai o'r ysgolion cynradd lleiaf yn ogystal â rhai o'r mwyaf yng Nghymru.
Mae 12.1% o ddisgyblion 5 oed a throsodd yn rhugl yn y Gymraeg, sy'n is na chyfartaledd Cymru o 15.6%.
Mae 5.8% o ddisgyblion pump oed a throsodd yn dod o leiafrifoedd ethnig, sy'n is na chyfartaledd Cymru o 12.6%.
Y Cyngor a'i weithlu
Mae gan Gyngor Sir Penfro 60 o aelodau etholedig, sy'n cynrychioli un o 59 o wardiau o fewn y Sir (cynrychiolir 58 o wardiau gan un aelod, mae gan un ward ddau aelod). Mae nifer fawr o aelodau etholedig nad ydynt yn gysylltiedig â phlaid wleidyddol. Mae 13 o Gynghorwyr yn fenywod, cynnydd o’i gymharu â’r 7 cyn etholiadau Mai 2022.
Mae 77 o Gynghorau Cymuned sy’n cwmpasu Sir Benfro gyfan heblaw Ynys Bŷr. Y praesept cyfartalog canolrifol yn 2023-24 oedd £8,300 ond mae gan chwarter braeseptau o £24,700 neu fwy. Mae tua 600 o gynghorwyr cymuned yn Sir Benfro. Mae tua 90% o'r rhain yn rhai a etholwyd yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau mis Mai 2022 neu wedi cael eu cyfethol.
Ym mis Mawrth 2023 roedd 5,580 o bobl yn gweithio i'r Cyngor (heb gynnwys cyflogeion achlysurol) ar draws 6,519 o swyddi; mae gan rai cyflogeion fwy nag un swydd.
Mae tua 70% o gyflogeion yn fenywod. Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 2022 yn 1.6% - mae hyn yn golygu bod menywod yn ennill 98c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu cyflog fesul awr canolrif. O ran y sefyllfa ym mis Mawrth 2023, roedd y cyflog amser llawn fesul awr canolrifol yn y Cyngor yn £23,194 (caiff yr wybodaeth hon ei chyhoeddi yn ein datganiad polisi cyflog).
49 oed yw oedran canolrifol gweithlu'r Cyngor ac mae'r proffil demograffig yn llai amrywiol na Sir Benfro gyfan. Mae dau y cant o'r gweithlu yn bobl o gefndir gwyn nad ydynt o’r DU a dim ond 2% o'r gweithlu sy'n nodi eu bod yn anabl, ymhell islaw'r hyn y gellid ei ddisgwyl.