Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028

Tueddiadau hirdymor

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pennu amcanion llesiant yn nodi y dylai'r Strategaeth Gorfforaethol gyfeirio at Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol Cymru 2021 (yn agor mewn tab newydd) (a'i Becyn Tystiolaeth (yn agor mewn tab newydd)).  Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar bedwar megadueddiad (pobl a phoblogaeth, iechyd a therfynau’r blaned, anghydraddoldebau a thechnoleg) a all effeithio'n gadarnhaol ac yn negyddol ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol.  Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys mewnwelediad i'r tueddiadau sy'n ymwneud â chyllid cyhoeddus a galw a thechnoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus.  Hefyd o ddiddordeb mae’r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (yn agor mewn tab newydd)  (a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru) sy'n cynnwys asesu rheolaeth gynaliadwy Cymru ar adnoddau naturiol, gan gynnwys effaith Cymru yn fyd-eang.

Mae unrhyw amcanestyniad neu ragolwg bob amser yn dod gyda 'rhybudd iechyd' – ac mae hynny’n arbennig o wir am ragamcanion a ddatblygwyd yn ystod pandemig COVID-19 a chyn i Rwsia ymosod ar Wcráin.  Maent hefyd yn rhagddyddio’r amcangyfrifon a gyhoeddwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021.  Mae peth o'r wybodaeth yn adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol ar gael ar gyfer Siroedd er bod llawer mwy o ansicrwydd yn perthyn i'r ffigurau hyn.

Poblogaeth

  • Er y rhagamcanir o hyd y bydd y boblogaeth fyd-eang yn tyfu 2 biliwn erbyn 2050, rhagwelir y bydd poblogaeth Cymru, yn gyffredin â llawer o Orllewin Ewrop, yn tyfu'n gymharol araf, gyda thwf wedi'i ganoli yn ne Cymru.  Mae mudo’n parhau i fod yn un o'r ffactorau anoddaf i'w ragweld a heb fudo, mae poblogaeth Cymru yn debygol o leihau.
  • Er gwaethaf twf isel yn y boblogaeth, rhagfynegir y bydd nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd sengl, yn tyfu ledled Cymru (yn achos aelwydydd sengl o 440,000 yn 2020 i oddeutu 525,000 erbyn 2043).  Bydd hyn yn hybu twf tai newydd, er bod llawer o ansicrwydd ynghylch niferoedd.
  • Er bod amcangyfrifon yn amrywio'n sylweddol, cyn pandemig COVID-19, roedd disgwyl i'r cynnydd mewn disgwyliad oes yng Nghymru barhau, er bod cyfradd y cynnydd wedi arafu dros y degawd diwethaf.  Er bod tystiolaeth bod y bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng ardaloedd difreintiedig a rhai nad ydynt yn ddifreintiedig yn lleihau, nid yw disgwyliad oes iach ar y cyfan wedi newid fawr ddim.  Mae gan y cyfuniad o'r ddau ffactor hyn y potensial i sbarduno'r galw parhaus am ofal cymdeithasol.
  • Rhagwelir y bydd nifer yr achosion o glefyd cronig yn cynyddu.  Disgwylir i nifer yr achosion o ddementia gynyddu o 7% yn 2019 i 9% yn 2040, gan hybu twf  yn y galw am ofal cymdeithasol cymhleth.
  • Yn 2019, roedd disgwyl i nifer y siaradwyr Cymraeg gynyddu, gydag amcanestyniadau o nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn amrywio'n sylweddol.  Mae ffigyrau cychwynnol Cyfrifiad 2021 yn awgrymu y gallai nifer y siaradwyr Cymraeg fod yn gostwng.
  • Mae'r amcanestyniadau poblogaeth diweddaraf ar gyfer Sir Benfro yn seiliedig ar amcangyfrifon 2018.  Mae'n amlwg bod y rhain wedi goramcangyfrif poblogaeth breswyl arferol Sir Benfro.  Ni fydd y rhagolygon wedi'u diweddaru yn cael eu cynhyrchu tan 2024.

Anghydraddoldebau a chyfle cyfartal

  • Yn fyd-eang, mae tlodi eithafol (pobl sy'n byw ar lai nag $1.90 y dydd) wedi lleihau dros y degawdau diwethaf. Wrth i wledydd tlotach ddod yn gyfoethocach, mae anghydraddoldeb ar y raddfa fyd-eang hefyd yn lleihau.  Fodd bynnag, ar raddfa fyd-eang, mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar ymdrechion i leihau tlodi ac yn golygu bod ymdrechion bellach rhwng 5 a 9 mlynedd ar ei hôl hi.
  • Er bod cyfraddau diweithdra (hyd at y pandemig) yn tueddu i ostwng ledled Cymru, mae cyfradd tlodi mewn aelwydydd lle mae pob oedolyn mewn gwaith wedi parhau i gynyddu, gan ddynodi nad yw bod mewn cyflogaeth yn unig yn ddigon i godi rhywun allan o dlodi yng Nghymru.  Mewn termau cymharol, mae cyfraddau tlodi plant yn Sir Benfro wedi cynyddu ac maent bellach ymhlith yr uchaf neu’n cyfateb i'r uchaf yng Nghymru.  Mae hyn hefyd yng nghyd-destun cyfradd gynyddol o dlodi incwm cymharol i blant sy'n byw mewn cartrefi lle mae pob oedolyn mewn gwaith dros y blynyddoedd diwethaf.
  • Yn seiliedig ar ddata cyn y pandemig dros y tymor canolig, mae incwm yr aelwyd ganolrifol yng Nghymru wedi bod oddeutu 95 y cant o incwm y DU gyfan ac mae wedi dilyn incwm y DU yn agos.  Dros y cyfnod hwn mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru wedi bod ychydig yn is na'r cyfraddau ar gyfer y DU gyfan, ond yn uwch na chyfraddau hanesyddol.  Gan adlewyrchu'r DU gyfan, mae proffil cymwysterau poblogaeth Cymru wedi gwella dros amser ond mae bylchau gyda'r DU gyfan wedi ehangu ychydig.

Iechyd a therfynau’r blaned

  • Erbyn 2050 yng Nghymru rhagwelir y bydd tymereddau cyfartalog yr haf yn cynyddu 1.34 ⁰C. Disgwylir i wlybaniaeth yn y gaeaf godi 5 y cant yn yr un cyfnod tra bydd gwlybaniaeth yn yr haf yn gostwng 16 y cant a disgwylir cynnydd yn lefelau’r môr ledled y wlad.
  • Gall newid hinsawdd a thywydd eithafol waethygu anghydraddoldebau iechyd a llesiant. Mae risg hefyd y gall ymatebion i newid hinsawdd roi beichiau anghymesur ar bobl a chymunedau sydd eisoes yn agored i niwed.  Er enghraifft, rhagwelir y bydd y risgiau o farwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres yn treblu erbyn y 2050au yn niffyg ymaddasu ychwanegol, ac ar hyn o bryd mae grwpiau difreintiedig yn fwy tebygol o fyw mewn adeiladau sydd wedi'u haddasu'n wael i amodau tymheredd uchel.
  • Mae amcangyfrifon yn dangos bod angen i allyriadau ostwng 7.6% bob blwyddyn rhwng 2020 a 2030 neu fe gollir y cyfle i gyfyngu cynhesu i 1.5⁰C.  Fodd bynnag, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang wedi tyfu bob blwyddyn ers yr argyfwng ariannol yn 2009, ar gyfradd o 1.5 y cant yn flynyddol.  Yn erbyn y gefnlen fyd-eang hon, mae Cymru wedi datgarboneiddio ychydig yn arafach na'r DU, ond mae wedi gweld gostyngiad o tua 40% ers 2008.  Y cyfraniad unigol mwyaf at y gostyngiad hwn yw lleihau carbon yn y sector cyflenwi ynni.
  • Mae llawer iawn o dystiolaeth sy’n awgrymu dirywiad mewn rhywogaethau ar draws grwpiau ym mhob rhan o'r byd ac mae'r duedd hon yn digwydd ledled Cymru.  Mae'r Cenhedloedd Unedig yn rhagweld y bydd un ymhob wyth rhywogaeth ar y blaned yn diflannu o fewn 20 mlynedd.
  • Mae tystiolaeth bod allyriadau o systemau cynhyrchu bwyd byd-eang yn sbarduno colled bioamrywiaeth ac yn lleihau cydnerthedd ecosystemau.  Er enghraifft, mae llygredd nitrogen yn arwain at golli rhywogaethau sensitif.  Un o ffynonellau’r llygredd hwn yw amonia sy'n tarddu o ffynonellau amaethyddol yn bennaf.
  • Mae newid hinsawdd yn debygol o effeithio'n negyddol ar gynhyrchu bwyd yn fyd-eang, gyda bron i hanner yr amcanestyniadau’n nodi y bydd cynnyrch cnydau’n lleihau fwy na 10% y tu hwnt i 2050.  Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, rydym yn dibynnu ar fewnforion bwyd o wledydd eraill, ac mae'r rhain yn aml yn dod o wledydd sy'n agored i effeithiau newid hinsawdd ar gynhyrchu bwyd.

Esblygiad technolegol

  • Yn union fel y gwnaeth yn y gorffennol, disgwylir i esblygiad technolegol barhau i baratoi'r ffordd o ran diffinio sut y bydd cymdeithasau ac economïau modern yn rhyngweithio ac yn datblygu i'r dyfodol.
  • Mae canran y rhai nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd wedi gostwng dros amser yng Nghymru a gweddill y DU.  Fodd bynnag, ceir tystiolaeth bod gagendor digidol yn parhau rhwng y rhai sydd â mynediad at dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu a'r rhai nad oes ganddynt fynediad ati.  Er enghraifft, mae tystiolaeth bod cyfran y bobl dros 75 oed nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd wedi cynyddu.
  • Disgwylir i'r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial dyfu (enghraifft yw ein sgwrsfot Penfro a all ateb ymholiadau cwsmeriaid) gyda llawer o fanteision posibl, ond risgiau cysylltiedig ar draws meysydd fel cyflogaeth, sgiliau a'r economi.  Mae swyddi sgiliau isel mewn llawer mwy o berygl o gael eu disodli gan dechnolegau AI neu fwy o awtomeiddio.  Ceir hefyd risg y gallai rhagfarn sleifio i mewn wrth gymhwyso dysgu peirianyddol, gan felly godi materion moesegol.
  • Ceir tuedd tuag at weithio'n fwy hyblyg a gweithio gartref.  Mae'r gallu i weithio gartref - neu'n agosach at adref - yn ddibynnol iawn ar ddiwydiant a galwedigaeth, gyda'r rhai mewn gwaith cyflog isel yn aml yn wynebu opsiynau cyfyngedig iawn ar gyfer gweithio'n hyblyg.

Cyllid Cyhoeddus

Ysgrifennwyd adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol yn ystod y pandemig, ac o chwe dimensiwn yr adroddiad, cyllid cyhoeddus yw'r un lle cafodd amseriad y gwaith yr effaith fwyaf ar gywirdeb. Mae'r Pecyn Tystiolaeth yn cyfeirio at Gyllideb Cymru 2022: adroddiad y Prif Economegydd fel ffynhonnell wybodaeth i gyfeirio ati yn y dyfodol. Mae'r adran Rhagolygon Cyllid wedi'i chrynhoi isod:

  • Mae disgwyl i dreth fel cyfran o GDP y DU godi i’w lefel uchaf ers 1947. Mae toriadau mawr i wariant mewn termau real wedi cael eu “cynllunio” ar gyfer cyfnod nesaf yr adolygiad o wariant.
  • Mae’r OBR wedi cadarnhau unwaith eto bod cyllid cyhoeddus y DU ar drywydd anghynaliadwy dros y tymor hir.
  • Mae chwyddiant yn golygu bod setliad Llywodraeth Cymru dros dair blynedd cyfnod presennol yr adolygiad o wariant yn dal yn werth hyd at £3bn yn llai mewn termau real nag oedd wedi’i ddisgwyl y llynedd.
  • Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd fesul person dros y pum mlynedd nesaf yn cynyddu llai na 0.5 y cant y flwyddyn mewn termau real.
  • O ran a fydd adnoddau ar gael i gwrdd â phwysau demograffig yng Nghymru, bydd hynny’n dibynnu’n helaeth ar Lywodraeth y DU yn eu hariannu’n briodol yn Lloegr (y cyfeirir ato weithiau fel cyllid canlyniadol fformiwla Barnett).
  • Mae disgwyl i'r trethi datganoledig barhau i wneud cyfraniad cadarnhaol i gyllid Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r bwlch mawr rhwng cyfanswm refeniw a gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru yn golygu trosglwyddiad mawr i bobl Cymru drwy system gyllidol y DU.  Y trosglwyddiad hwn yw’r prif reswm dros y bwlch rhwng mesurau incwm aelwydydd a GDP yng Nghymru, ac mae’n risg allweddol i safonau byw yng Nghymru.

Galw a thechnoleg ddigidol yn y sector cyhoeddus

  • Y prif rym sy'n creu mwy o alw yw newid yn y boblogaeth; mae nifer y bobl dros oedran pensiwn yn cynyddu'n gyflymach na nifer y bobl o oedran gweithio.  Ledled y DU rhagwelir y bydd gwariant ar iechyd yn tyfu o 7.3% i 8.3% o Gynnyrch Domestig Gros erbyn 2064/65.
  • Roedd cynnydd cyson yng nghyfran y bobl sy'n defnyddio dulliau digidol i gael mynediad at wasanaethau'r cyngor cyn y pandemig, gyda dim ond 1 ymhob 5 yn dweud nad ydyn nhw bellach yn defnyddio gwefannau'r sector cyhoeddus.  Bydd y gyfran hon o bobl sy'n defnyddio dulliau digidol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig.
  • Mae'r ymateb i'r pandemig yn golygu bod dewisiadau amgen yn lle cyswllt wyneb yn wyneb wedi cyflymu ar garlam yn y sector gofal iechyd, gan ddangos gallu technoleg i newid sut mae pobl yn rhyngweithio â'r sector cyhoeddus.
ID: 10904, adolygwyd 06/10/2023