Strategaeth Gorfforaethol 2023-2028
Y Gymraeg
A7- Byddwn yn cefnogi'r Gymraeg o fewn cymunedau a thrwy ysgolion
Cyfraniad at nodau llesiant cenedlaethol
Rydym o’r farn y bydd ein hamcan llesiant ar gyfer y Gymraeg yn gwneud cyfraniad arbennig at y nodau llesiant cenedlaethol canlynol:
- Cymru lewyrchus.
- Cymru sy’n fwy cyfartal.
- Cymru o gymunedau cydlynus.
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
Rhesymeg
- Mae data cychwynnol Cyfrifiad 2021 yn dangos nad yw'r Gymraeg yn Sir Benfro mewn sefyllfa eto i chwarae ei rhan wrth gyfrannu at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng yn gynt nag ar gyfer Cymru gyfan yn enwedig ar gyfer plant 3 i 15 oed.
- Mae'r Gymraeg yn rhan o dreftadaeth ddiwylliannol Sir Benfro ac mae gan ddinasyddion yr hawl i gael gwasanaethau yn eu dewis iaith. Mae hyn wedi'i nodi yn Safonau'r Gymraeg, a fabwysiadwyd gennym ym mis Gorffennaf 2022.
- Fe wnaethom fabwysiadu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ym mis Gorffennaf 2022 ac mae hwn yn dylanwadu ar sut rydym yn ad-drefnu ysgolion.
Yr hyn yr ydym yn mynd i’w wneud
Parhau i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.
- Hyfforddiant Cymraeg ar gyfer y Gweithlu.
- Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd.
Cyflawni ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
- Fel rhan o'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, darparu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn ardal Penfro.
- Ystyried dewisiadau ieithyddol fel rhan o’n rhaglen ad-drefnu ysgolion.
Bwrw ymlaen â’n cais i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2026.
ID: 10912, adolygwyd 06/10/2023