Cwynion am Fwyd neu Mangreoedd Bwyd
Pam ydym yn ymchwilio i gwynion am fwyd?
Rydym yn ymchwilio i gwynion am fwyd i ganfod achos y gwyn a phenderfynu a yw unrhyw fusnes bwyd sy'n ymwneud â chynhyrchu, dosbarthu neu werthu bwyd wedi torri'r gyfraith ynghylch diogelwch bwyd.
Nid yw'n ceisio iawndal neu ddigolledu gan y cynhyrchwyr/cyflenwyr. Ni fydd cwynion am fwyd yn cael eu dychwelyd wedi unrhyw ymchwiliad.
Unwaith y byddwch yn anfon cwyn am fwyd atom, byddwn yn ystyried y gwyn a'r modd y gallai'r gwyn fod wedi digwydd. Yna byddwn yn penderfynu beth i'w wneud, gydag ystyriaeth i'n Polisi Gweithredu Cyfraith Bwyd. Mae nifer o ddewisiadau y byddwn yn eu trafod gyda chi pan ddaw'r swyddog i nôl y bwyd neu lenwi'r ffurflen cwynion bwyd.
ID: 1558, adolygwyd 12/10/2022