Cwynion am Fwyd neu Mangreoedd Bwyd
Beth yw ein dull o ymdrin ag ymchwiliad i gwynion am fwyd a mangreoedd bwyd?
Byddwn yn ymchwilio i gwynion yn unol â'r canllawiau cenedlaethol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a LACORS, a gyda pholisïau a gweithdrefnau mewnol perthnasol.
Ni fydd eich enw yn cael ei ddatgelu i drydydd parti, wedi ei ddiogelu gan y Ddeddf Gwarchod Data ac wedi ei eithrio rhag datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (ar yr amod eich bod yn nodi eich bod yn dymuno i'ch manylion barhau i fod yn gyfrinachol). Fodd bynnag, pe byddai angen y dystiolaeth yr ydych yn ei rhoi i fod yn dystiolaeth mew nachos cyfreithiol, byddai'n rhaid i'r Awdurdod ryddhau eich enw os bydd ymchwiliad troseddol yn mynd rhagddo. Felly, gyda'ch cefnogaeth chi yn unig y byddai ymchwiliad troseddol yn mynd rhagddo.
Os oes cwyn gyda chi ynglŷn â'r amodau mewn mangre bwyd, bydd ein swyddogion yn penderfynu a oes angen ymchwiliad. Fel arfer, bydd ymweliadau yn dilyn cwynion am fwyd yn digwydd heb rybudd gan y swyddogion ymchwilio, ond efallai weithiau y bydd rhaid gwneud apwyntiad, e.e. os bydd angen rhoi cymorth er mwyn ymchwilio'n effeithiol i'r gwyn. Bydd y swyddog ymchwilio yn penderfynu pa ddewis i'w ddilyn, yn dibynnu ar amgylchiadau'r gwyn.
Pan ddaw materion difrifol i'n sylw, os bydd perygl sylweddol ac a allai barhau i iechyd y cyhoedd neu y byddai modd i droseddau difrifol yn erbyn y gyfraith ddigwydd, ein nod fyddai cynnal ymchwiliad ar unwaith a doed a ddel o fewn 24 awr. Dosberthir cwynion o'r fath yn berygl uchel a byddent yn cynnwys:
- Gweld llygod mawr, llygod, chwilod duon a mathau eraill o bla mewn bwyd mewn mangreoedd bwyd.
- Arferion gwael wrth drin bwyd sy'n creu perygl sylweddol o heintio bwyd.
- Efallai y bydd cwyn am halogiad bwyd yn arwain at yr angen i gadw cynnyrch yn ôl a/neu alw cynnyrch yn ôl. Efallai bod hyn yn achos bwydydd sy'n cael eu paratoi a'u dosbarthu yn lleol neu'n genedlaethol. Os na fydd y bwyd yn cael ei wneud yn Sir Benfro, cysylltir â'r Prif Awdurdod a/neu'r Awdurdod Lleol lle cynhyrchwyd y bwyd, er mwyn iddynt gysylltu â'r cwmni gweithgynhyrchu ac Asiantaeth Safonau Bwyd i atal dosbarthu'r cynnyrch dan sylw ymhellach, ac adalw bwyd sydd eisoes wedi'i ddarparu i gwsmeriaid. Os bydd y bwyd yn cael ei wneud yn Sir Benfro, byddai'r Adran hon yn ymgymryd â'r cyswllt gofynnol â'r busnes bwyd ac Asiantaeth Safonau Bwyd i sicrhau bod yr holl gynnyrch dan sylw'n cael eu tynnu'n ôl.
Byddwn yn ymchwilio i gwynion llai difrifol o fewn deg diwrnod gwaith. Byddai cwynion perygl canolig o'r fath yn cynnwys:
- Diffyg glendid adeileddol mewn ceginau neu ystafelloedd paratoi.
- Anifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill mewn ceginau neu ystafelloedd paratoi.
Fel arfer, ni fyddem yn ymchwilio ar unwaith i gwynion perygl isel nad ydynt yn beryglus iawn i iechyd y cyhoedd, os o gwbl, neu sy'n cynnig tystiolaeth o beidio â dilyn arferion da/gorau. Yr arfer fyddai hysbysu materion o'r fath i'r busnes ar y ffôn, er mwyn rhoi cyfle i'r busnes ymchwilio i a gweithredu ynghylch unrhyw ddiffygion, a byddai cofnod o'r rhain ar ffeil ar gyfer eu hystyried amser yr ymweliad/ymchwiliad nesaf.
- Enghreifftiau llai pwysig o lendid anfoddhaol
- Methu â gweini bwyd ar y tymheredd cywir
- Cwynion llai pwysig ynghylch cyllyll, ffyrc neu wydrau budron
- Problemau gyda morgrug mewn mangreoedd bwyd
Byddai'r Adran, wrth ddosbarthu cwynion, yn ystyried hefyd hanes blaenorol y mangre, a byddai'n ystyried pa mor fynych y cafwyd cwynion am y mangre, ei hanes o ran cydymffurfio â'r deddfau a nodwyd mewn arolygon blaenorol, a faint o hyder sydd gan yr Adran yng ngweithredwr y busnes bwyd.
Os yw'r bwyd yn dod o'r tu fas i'r Sir, bydd y gŵyn yn cael ei hysbysu i, neu bydd ymchwilio iddi ar y cyd â'r Awdurdod Cartref perthnasol ac/neu Awdurdod Cychwynnol fel y bo'n briodol.
Bydd gorfodi o ganlyniad i ymchwiliad yn digwydd yn unol â Pholisi Gorfodi Diogelwch a Safonau Bwyd y Cyngor.
Pan anfonir samplau o fwyd at y Dadansoddwr Cyhoeddus yn rhan o ymchwiliad y Cyngor, ni fydd copi o'r adroddiad ar gael i'r achwynydd oni bai fod 50% o'r ffi ar gyfer y dadansoddiad wedi ei dalu.