Cwynion am Fwyd neu Mangreoedd Bwyd

Cyngor ynghylch ymdrin â chwynion am fwyd

  • Ail-selio'r bwyd a'i doddi mewn lle diogel - yr oergell neu'r rhewgell fel y bo angen.
  • Peidiwch ag ymyrryd â'r bwyd a gadewch unrhyw beth dieithr yn y bwyd er mwyn i'r swyddog ei archwilio.    
  • Cadwch bob defnydd pacio a phecynnau eraill o'r un math er mwyn i'r swyddog eu gweld.  
  • Peidiwch â bwyta'r cynhyrchion sy'n weddill yn y pecyn. e.e. pecynnau o chwech neu bedwar ac ati.  
  • Gwnewch nodiadau a fyddai'n gallu bod yn rhyw fath o ddatganiad, yn cynnwys lle a phryd y gwnaethoch chi brynu'r cynnyrch, yr amser ac ati.  Manylion y modd y cafodd y cynnyrch ei drin o'r amser y gwnaethoch ei brynu hyd at yr amser y daeth y broblem i'ch sylw ac wedi ei darganfod.      
  • Unwaith y bydd cwyn am fwyd wedi ei gwneud, bydd swyddog yn cysylltu gyda chi i drefnu i nôl y bwyd os nad ydych yn gallu dod ag ef i mewn i'r Cyngor. Byddwn yn gofyn nifer o gwestiynau i chi ynghylch lle a phryd y gwnaethoch chi brynu'r bwyd, pryd y daethoch chi o hyd i'r gwyn o dan sylw, effeithiau bwyta'r bwyd, y modd yr oedd y bwyd yn cael ei gadw ac ati.  Byddwn yn gofyn i chi a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth yn y Llys, os bydd angen.  Gallai hyn fod yn bersonol, neu'n fwy tebygol trwy Ddatganiad Tyst.  Bydd rhaid cael hyn os bydd angen gweithredu'n ffurfiol wedi hynny.    
ID: 1560, adolygwyd 23/08/2017